- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan IV o'r Rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.
(2) Pan ddaw adolygiad ar gyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf neu adolygiad ar drefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf i ben, caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.
(3) Os bydd y Comisiynydd a Chomisiynydd Plant Cymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf a Deddf Safonau Gofal 2000 ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru.
(4) Rhaid i adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3) nodi —
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiynydd; a
(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiynydd.
(5) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'i adroddiad—
(a)at y Prif Weinidog;
(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd;
(c)yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), at y person a gyflwynodd sylwadau i'r Comisiynydd yn unol â rheoliad 9; a
(ch)yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3), at y person neu'r personau —
(i)y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu ei waith wrth arfer swyddogaethau wedi'i archwilio;
(ii) y mae ei drefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban wedi'u hadolygu;
(iii)a grybwyllir yn yr adroddiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys