- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid i awdurdod tai lleol y mae'n ofynnol iddo o dan adran 59(2) neu 83(2) o'r Ddeddf gyhoeddi hysbysiad dynodi ardal at ddibenion Rhan 2 neu 3 o'r Ddeddf wneud hynny yn y dull a ragnodir gan baragraff (2).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd y dynodiad ei wneud neu ei gadarnhau rhaid i'r awdurdod tai lleol—
(a)gosod yr hysbysiad ar hysbysfwrdd cyhoeddus mewn un neu mewn mwy nag un adeilad dinesig o fewn yr ardal ddynodedig, neu, os nad oes unrhyw adeiladau o'r fath o fewn yr ardal ddynodedig, mewn adeiladau o'r fath wedi eu lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig ond sydd agosaf ati;
(b)cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod tai lleol; ac
(c)trefnu iddo gael ei gyhoeddi mewn o leiaf ddau bapur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal ddynodedig neu o'i hamgylch.
(3) O fewn 2 wythnos ar ôl i'r dynodiad gael ei wneud neu ei gadarnhau rhaid i'r awdurdod tai lleol anfon copi o'r hysbysiad at—
(a)unrhyw berson a ymatebodd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ganddo o dan adran 56(3) neu 80(9) o'r Ddeddf;
(b)unrhyw sefydliad sydd, o fewn gwybodaeth resymol yr awdurdod tai lleol—
(i)yn cynrychioli diddordebau landlordiaid neu denantiaid o fewn yr ardal ddynodedig; neu
(ii)yn cynrychioli asiantaethau rheoli, asiantaethau ystad neu asiantaethau gosod tai o fewn yr ardal ddynodedig; ac
(c)pob sefydliad o fewn ardal yr awdurdod tai lleol y mae'r awdurdod tai lleol yn gwybod neu yn credu ei fod yn darparu cyngor ar faterion landlord a thenant, gan gynnwys—
(i)canolfannau cyfraith;
(ii)canolfannau cyngor ar bopeth;
(iii)canolfannau cyngor ar dai; a
(iv)unedau personau digartref.
(4) Yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 59(2)(a), (b) ac (c) neu 83(2)(a), (b) ac (c), rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)disgrifiad byr o'r ardal ddynodedig;
(b)enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(i)yr awdurdod tai lleol a wnaeth y dynodiad;
(ii)y fangre lle gellir archwilio'r dynodiad; a
(iii)y fangre lle gellir cael ceisiadau am drwyddedau a chyngor cyffredinol ynddynt;
(c)datganiad sy'n cynghori unrhyw landlord, unrhyw berson sy'n rheoli eiddo neu unrhyw denant sydd o fewn yr ardal ddynodedig i geisio cyngor gan yr awdurdod tai lleol ar y mater a yw'r dynodiad yn effeithio ar eu heiddo; ac
(ch)rhybudd o ganlyniadau methu â thrwyddedu eiddo y mae'n ofynnol i'w drwyddedu, gan gynnwys y sancsiynau troseddol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys