- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—
(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol at gostau byw y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
(a)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
(b)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
(c)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.
(4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.
(5) Ac eithrio grant o dan reoliad 20, nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(d)gwasanaeth di-dâl gydag—
(i)Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno(2) neu fwrdd iechyd lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o'r Ddeddf honno(3);
(ii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(4); neu
(iii)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(5).
(7) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(8) Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.
1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 1(2).
Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 6.
Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys