- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Ni fydd person yn gymwys i'w benodi'n aelod, ac i fod yn aelod—
(a)os yw ef neu hi yn gadeirydd, yn gyfarwyddwr neu'n aelod o Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, o Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, o Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol, neu o Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;
(b)os cyflogir ef neu hi gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;
(c)os yw ef neu hi'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu os y'i cyflogir gan berson neu gorff, nad yw'n gorff gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf a hynny'n unol â chontract a wnaed rhwng y person neu'r corff hwnnw a'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG berthnasol;
(ch)os yw ef neu hi'n aelod o Gyngor arall; neu
(d)os yw ef neu hi
(i)yn ymarferydd meddygol,
(ii)yn ymarferydd deintyddol,
(iii)yn fferyllydd cofrestredig,
(iv)yn optegydd offthalmig cofrestredig neu optegydd fferyllol o fewn yr ystyr a geir yn Neddf Optegwyr 1989(1);
(v)yn nyrs gofrestredig, yn fydwraig gofrestredig neu'n ymwelydd iechyd cofrestredig, neu, pan fydd Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2) wedi dod i rym, wedi'i gofrestru neu wedi'i chofrestru yn y gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001,
ac yn darparu gwasanaethau fel y cyfryw o fewn ardal y Cyngor, ac eithrio na fydd darpariaethau paragraff (a) yn gymwys i aelod sydd i wasanaethu fel aeold cyswllt a Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â darpariaethua Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aeoldaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(3).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi, ac i fod yn aelod, os yw wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd i'w swydd gael ei dileu, o unrhyw gyflogaeth gyflogedig gydag unrhyw un o'r cyrff canlynol —
(a)Bwrdd Iechyd Lleol;
(b)Awdurdod Iechyd;
(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;
(ch)y Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Radiolegol a sefydlwyd gan adran 1 o'r Ddeddf Amddiffyn Rhag Ymbelydredd 1970(4);
(d)Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru;
(dd)y Comisiwn Gwella Iechyd;
(e)Ymddiriedolaeth GIG;
(f)y Bwrdd Ymarfer Deintyddol;
(ff)yr Asiantaeth Diogelu Iechyd(5);
(g)Awdurdod Iechyd Strategol; neu
(ng)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw person yn gymwys o dan baragraff (2), ac ar ôl i nid llai na dwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y'i diswyddwyd fynd heibio, caiff y person hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddiddymu'r datgymhwysiad, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo bod y datgymhwysiad wedi'i ddiddymu.
(4) Pan fydd y Cynulliad yn gwrthod cais person i ddiddymu'r datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais arall o fewn dwy flynedd i ddyddiad y cais a wrthodwyd.
O.S. 2003/149(Cy.19), rheoliad 3(4)(i) ac Atodlen 2 , paragraff 17(a).
Sefydlwyd gan OS 2003/505
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys