- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
14.—(1) Os bydd awdurdod cyfrifol, heblaw'r Cynulliad Cenedlaethol, o'r farn bod cynllun neu raglen y mae'n awdurdod cyfrifol ar eu cyfer yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd Aelod-wladwriaeth arall, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl ffurfio'r farn honno—
(a)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i farn a'r rhesymau amdani; a
(b)rhoi copi o'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol
(2) Os hysbyswyd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod cyfrifol, o fewn cyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod (a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na 21 diwrnod), roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth arall honno am y cynllun neu'r rhaglen, neu'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys —
(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, boed yn sgil hysbysiad o dan baragraff (1)(a) neu fel arall, yn ystyried y byddai gweithredu cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd Aelod-wladwriaeth arall; neu
(b)os yw Aelod-wladwriaeth y mae'n debygol yr effeithir arni'n arwyddocaol wrth weithredu cynllun neu raglen o'r fath yn gwneud cais am y dogfennau a bennir ym mharagraff (4)(a).
(4) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)anfon copi o'r cynllun neu'r rhaglen, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, at yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)hysbysu'r awdurdod cyfrifol bod paragraff (3)(a) neu (b) yn gymwys, yn ôl y digwydd; a
(c)cyfarwyddo'r awdurdod cyfrifol bod yn rhaid iddo beidio â mabwysiadu, neu gyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu, y cynllun neu'r rhaglen nes bod yr ymarfer ymgynghori wedi'i gwblhau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: