- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
16.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen y cyflawnwyd asesiad amgylcheddol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
(a)sicrhau bod copi o'r cynllun a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(b)cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
(i)teitl y cynllun neu'r rhaglen;
(ii)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy;
(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld neu lle gellir cael copi ohonynt, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, a chopi o'r datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4);
(iv)yr amserau pan ellir archwilio; a
(v)y gellir archwilio'n ddi-dâl.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen—
(a)rhaid i'r awdurdod cyfrifol hysbysu—
(i)y cyrff ymgynghori;
(ii)y personau a oedd, o ran y cynllun neu'r rhaglen, yn ymgynghoreion cyhoeddus at ddibenion rheoliad 13; a
(iii)os nad y Cynulliad Cenedlaethol yw'r corff cyfrifol, y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,
am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r materion—
(a)bod y cynllun neu'r rhaglen wedi cael eu mabwysiadu;
(b)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; a
(c)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld copi neu lle gellir cael copi—
(i)o'r cynllun neu'r rhaglen, fel y mabwysiadwyd hwy;
(ii)yr adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy; a
(iii)datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4),
(4) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) —
(a)sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hintegreiddio i'r cynllun neu'r rhaglen;
(b)sut y cymrwyd yr adroddiad amgylcheddol i ystyriaeth;
(c)sut y cymrwyd i ystyriaeth y farn a fynegwyd wrth ymateb—
(i)i'r gwahoddiad yn rheoliad 13(2)(ch);
(ii)y camau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4);
(ch)sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;
(d)y rhesymau dros ddewis y cynllun neu'r rhaglen a fabwysiadwyd, yng ngoleuni unrhyw ddewisiadau rhesymol eraill yr ymdriniwyd â hwy; a
(dd)y mesurau sydd i'w cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod cyfrifol fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu pob cynllun neu raglen er mwyn canfod effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy mewn cyfnod cynnar, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd yn briodol.
(2) Gallai trefniadau monitro'r awdurdod cyfrifol gynnwys neu gael eu ffurfio o drefniadau a sefydlwyd heblaw at y diben datganedig o gydymffurfio â pharagraff (1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: