- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol—
(a)cyflogi o dan gontract cyflogi person i ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(b)caniatáu i wirfoddolwr ofalu am blant perthnasol oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio mewn rhan o'r safle perthnasol o dan amgylchiadau lle byddai mewn cysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol oni bai ei fod yn addas i ofalu am blant o'r fath.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i ofalu am blant perthnasol oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad i wneud hynny;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni;
(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y mae'r person i'w gyflawni; ac
(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person ar gyfer—
(i)pob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2, ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys;
(ii)pob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2, os yw paragraff (3) yn gymwys.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) wedi'i dwyn i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio ar y safle perthnasol a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn dechrau gwaith ar y safle perthnasol nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a
(ii)y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno, ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys; neu
(iii)y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno, os yw paragraff (3) yn gymwys;
(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio ar y safle perthnasol nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bod y plant perthnasol yn bresennol.
Gweler y troednodyn i reoliad 4(4).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys