- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15. Gall aelodau ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:
(a)â swyddogaethau tai'r awdurdod, pan gaiff yr aelod ddal tenantiaeth neu brydles gan yr awdurdod, ar yr amod —
(i)nad oes ganddynt ôl-ddyledion rhent o fwy na dau fis, a
(ii)bod yna nifer arwyddocaol o denantiaid nad ydynt yn aelodau a fyddai'n cael eu heffeithio mewn perthynas â'r mater yn yr un modd neu mewn modd tebyg â'r aelod o dan sylw;
(b)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â phrydau bwyd ysgolion, cludiant ysgolion a chostau teithio ysgolion, os yw'r aelod yn rhiant â phlentyn mewn addysg llawn amser, oni bai —
(i)bod y mater yn ymwneud yn benodol â'r ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu; neu
(ii)bod y mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig;
(c)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â thâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1), —
(i)os yw'r aelod yn cael, neu fod ganddo'r hawl i gael, y tâl hwnnw oddi wrth awdurdod perthnasol; a
(ii)nad yw'r mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig; ac
(ch)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â lwfans neu daliad a wneir o dan Adrannau 173 i 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) neu Adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys