- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
5.—(1) Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn neu ei dynnu'n ôl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r safle y caniatawyd yr awdurdodiad mewn perthynas ag ef yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai—
(a)ei fod wedi cyflwyno hysbysiad sy'n cydymffurfio â pharagraff (3) o'r rheoliad hwn i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; a
(b)ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn—
(a)datgan bod yr awdurdod bwyd yn bwriadu atal yr awdurdodiad neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl;
(b)nodi pob gofyniad a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle;
(c)mewn perthynas â phob gofyniad a bennir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac
(ch)datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys