Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Tai (Cymru) 2011

Newidiadau dros amser i: PENNOD 2

 Help about opening options

No versions valid at: 02/12/2011

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/12/2011. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) pennod yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Tai (Cymru) 2011, PENNOD 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 22 Medi 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Yn ddilys o 03/09/2012

PENNOD 2LL+CAMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

7Ystyr “amrywiad ehangu” ac “amrywiad lleihau” etcLL+C

(1)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad ehangu” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i ardal nad oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol nad oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau ehangu” yn unol â hynny.

(2)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad lleihau” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i ardal yr oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol yr oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau lleihau” yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

8Amrywiad ehangu: pŵer i wneud caisLL+C

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod;

(b)os gwneir y cais am amrywiad o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd i beidio â chael effaith;

(c)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 9, a

(d)yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad, mewn perthynas ag elfennau ehangu'r amrywiad, bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw—

(a)bod y galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau ehangu'r amrywiad yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a

(b)bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

9Amrywiad ehangu: ymgynghoriLL+C

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am amrywiad o'r fath ai peidio.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am amrywiad ehangu yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i elfennau ehangu'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

10Cais am amrywiad ehanguLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a);

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd (fel y'i hamrywiwyd) i gael effaith ynddo, ac

(e)disgrifio'r hyn a wnaeth yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

11Ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o gais am amrywiad ehanguLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am amrywiad ehangu;

(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

12Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y caisLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn unol ag adran 11(1) neu (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn—

(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu

(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (2)(b) onid ydynt wedi ystyried—

(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—

(a)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod ynghylch pam mae'r cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr yn bodoli;

(c)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 10(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod, a

(d)os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

(5)Os oes unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o is-adran (4) heb ei fodloni, rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

(6)Rhaid i Weinidogion ganiatáu neu wrthod cais yn unol â'r adran hon o fewn chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaethant benderfynu ystyried y cais (gweler adran 11(4)).

(7)Nid effeithir ar ddilysrwydd penderfyniad Gweinidogion Cymru gan fethiant i gydymffurfio ag is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

13Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau ehanguLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 12, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 10(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

14Amrywiad lleihau: pŵer i wneud caisLL+C

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod, a

(b)os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw naill ai—

(a)nad yw'r galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau lleihau'r amrywiad yn sylweddol uwch nac yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, neu

(b)hyd yn oed os yw'r galw yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad, nad yw'r anghydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

15Cais am amrywiad lleihauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a), a

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

16Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y caisLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol am amrywiad lleihau (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli ac os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno â hynny, rhaid iddynt wrthod y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

17Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau lleihauLL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 16, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n berthnasol iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 15(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill