Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1CYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

1Cyflwyniad

(1)Maeʼr Rhan hon yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm ar gyfer unrhyw un oʼr canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol) ac mewn ysgolion meithrin a gynhelir;

(b)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer;

(c)plant y darperir addysg ar eu cyfer o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(2)Maeʼr Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dogfennau allweddol syʼn cefnogi cwricwlwm oʼr math hwnnw.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm oʼr math hwnnw; ac mae cyfeiriadau at ddisgyblion a phlant yn gyfeiriadau at y disgyblion aʼr plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

2Y pedwar diben

(1)Pedwar diben cwricwlwm yw—

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru aʼr byd;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y pedwar diben yn gyfeiriadau at y dibenion hynny.

3Y meysydd dysgu a phrofiad

(1)Y meysydd dysgu a phrofiad ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Y Dyniaethau

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Iechyd a Lles

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mathemateg a Rhifedd.

(2)O fewn y meysydd dysgu a phrofiad, maeʼr canlynol yn elfennau mandadol—

  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

  • Cymraeg

  • Saesneg.

(3)Ond nid yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol, at ddibenion y Ddeddf hon, ar gyfer cwricwlwm o fewn is-adran (4).

(4)Mae cwricwlwm o fewn yr is-adran hon os yw’n—

(a)cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol nad ydynt wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;

(b)cwricwlwm ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(c)cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru) i ddisgyblion neu blant nad ydynt wedi cyrraedd 7 oed.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y meysydd dysgu a phrofiad yn gyfeiriadau at y meysydd a restrir yn is-adran (1).

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr elfennau mandadol i’w dehongli yn unol â’r adran hon.

4Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol

(1)Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Cymhwysedd Digidol

  • Llythrennedd

  • Rhifedd.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yn gyfeiriadau at y sgiliau a restrir yn is-adran (1).

5Pŵer i ddiwygio adrannau 3 a 4

Caiff rheoliadau ddiwygio adrannau 3 a 4.

6Cod yr Hyn syʼn Bwysig

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (“Cod yr Hyn syʼn Bwysig”) syʼn nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch Cod yr Hyn syʼn Bwysig, gweler adran 76.

7Y Cod Cynnydd

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

(2)Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.

8Y Cod ACRh

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod ACRh”) syʼn nodi themâu a materion sydd iʼw cwmpasu gan elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(4)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod ACRh, gweler adran 77.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill