- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 3.58 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 6.00 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
Yn dod i rym
4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 9 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a)hepgorer is-baragraff (b);
(b)hepgorer is-baragraff (ba);
(c)yn is-baragraff (c)—
(i)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—
“(iia)tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd;
(iib)Tystysgrif Gogledd America;”;
(ii)ar y diwedd, mewnosoder “a”;
(d)hepgorer is-baragraff (ca).
(3) Ym mharagraff (4A)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;
(b)ar ôl is-baragraff (c), hepgorer “a”;
(c)hepgorer is-baragraff (d).
(4) Ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraff (a).
(5) Ym mharagraff (6)—
(a)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “naill ai”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) hepgorer “, neu”;
(c)hepgorer is-baragraff (b).
(6) Yn lle paragraff (7A), rhodder—
“(7A) At ddibenion paragraff (3)—
(a)pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(b)pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.”
(7) Ym mharagraff (8), hepgorer “yn y Deyrnas Unedig”.
(8) Ym mharagraff (10)—
(a)yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”—
(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “y Deyrnas Unedig” mewnosoder “, a awdurdodwyd”;
(iii)ym mharagraff (b), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
(i)wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a
(ii)wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—
Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
WA Verify (talaith Washington);”;
(c)yn y diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor”—
(i)ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii)hepgorer paragraff (b) (gan gynnwys y “neu” ar y diwedd).
(9) Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Belarws”
“Bolivia”
“Ecuador”
“Gweriniaeth Dominica”
“Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”
“Laos”
“Libya”
“Malawi”
“Mozambique”
“Samoa”
“Senegal”
“Vanuatu”
“Zambia”
“Zimbabwe”.
(10) Ar ôl paragraff (12), mewnosoder—
“(12A) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—
Albania
Armenia
Gogledd Macedonia
Israel
Morocco
Panama
Twrci
Wcrain
Ynysoedd Ffaro.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder—
“(aa)person a ddisgrifir ym mharagraffau 6 i 10 o Atodlen 2.”
(b)hepgorer is-baragraff (c).
(3) Hepgorer paragraffau (3) a (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(aa)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a), (b), (h) neu (k) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath;
(bb)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c), (d), (e), (f), (g), (i) neu (j) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath, ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;”.
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “2 i 5, 6A i 16” rhodder “2 i 16”;
(c)hepgorer is-baragraff (c);
(d)yn is-baragraff (d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.
(3) Hepgorer paragraffau (3) i (6).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
7. Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), hepgorer paragraff (4)(o).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
8. Ym mharagraff 1(2) o Atodlen 2 (personau esempt), yn lle “9(2)(a)” rhodder “9(2)(bb)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6)—
(a)yn is-baragraff (a), hepgorer paragraff (i) (gan gynnwys yr “a” ar y diwedd);
(b)yn is-baragraff (c)—
(i)yn lle “gan wlad berthnasol” rhodder “ac eithrio yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)ar ôl “dystysgrif COVID ddigidol yr UE,” mewnosoder “tystysgrif cofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,”;
(iii)ar ôl “Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau,” mewnosoder “Tystysgrif Gogledd America”.
(3) Yn lle paragraff (8), rhodder—
“(8) At ddibenion y rheoliad hwn, pan fo person wedi cael cwrs o ddosau sy’n cynnwys un dos o frechlyn awdurdodedig o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor ac un dos o frechlyn awdurdodedig ac eithrio o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramo”r.
(4) Ym mharagraff (9)(b)—
(a)yn lle’r geiriau o flaen paragraff (i) rhodder—
“(b)mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau—”;
(b)ym mharagraff (i)(bb), hepgorer y “, neu” ar y diwedd;
(c)ym mharagraff (ii), mewnosoder “, neu” ar y diwedd;
(d)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—
“(iii)os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato ym mharagraff (iv) o’r diffiniad o frechlyn awdurdodedig ym mharagraff (10)(a);”.
(5) Ym mharagraff (10)—
(a)yn is-baragraff (a)—
(i)yn y geiriau o flaen paragraff (i), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii)ym mharagraff (i), yn y geiriau o flaen is-baragraff (aa), yn lle “neu mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), rhodder “, a awdurdodwyd”;
(iii)ym mharagraff (ii), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—
“(iii)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (i)(aa) neu (bb) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;
(iv)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
(aa)wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a
(bb)wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”;
(c)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(ca)ystyr “Tystysgrif Gogledd America” yw—
(i)Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
(ii)Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
(iii)WA Verify (talaith Washington);”.
(6) Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Belarws”
“Bolivia”
“Ecuador”
“Gweriniaeth Dominica”
“Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”
“Laos”
“Libya”
“Malawi”
“Mozambique”
“Samoa”
“Senegal”
“Vanuatu”
“Zambia”
“Zimbabwe”.
(7) Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—
“(13) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y rheoliad hwn—
Albania
Armenia
Gogledd Macedonia
Israel
Morocco
Panama
Twrci
Wcrain
Ynysoedd Ffaro.”
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.58 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o dystysgrifau brechlyn penodol a ddyroddir gan wledydd a thiriogaethau Ewropeaidd ychwanegol, at ddibenion esemptiadau teithio o ran profi cyn ymadael a brechlynnau.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—
estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau;
ehangu’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” drwy ddileu’r gofyniad ei fod i’w weinyddu mewn gwlad berthnasol a thrwy gydnabod brechlynnau penodol a gydnabyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd;
dileu’r gofynion preswylio ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn Unol Daleithiau America, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, a theithwyr o dan 18 oed;
cyflwyno dulliau pellach i deithwyr brofi eu bod wedi eu brechu, gan gynnwys tystysgrifau trydydd gwledydd a thiriogaethau a gymeradwywyd a thystysgrifau brechu taleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau;
gwneud diwygiadau technegol pellach gan gynnwys ynghylch brechiadau fel rhan o raglen frechu’r DU dramor.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i esemptio’r personau a ganlyn rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr pan fônt wedi teithio i Gymru yng nghwrs eu gwaith (pa un a ydynt wedi teithio ar gludiant sy’n cario teithwyr ai peidio): gweithwyr cludiant ffyrdd; gweithwyr cludiant teithwyr ffyrdd; meistri a morwyr; peilotiaid ar longau masnach; arolygwyr a syrfewyr llongau; a chriw awyren.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddileu’r gofyniad i ddiplomyddion penodol gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn dibynnu ar ddarpariaethau esemptio rhag ynysu. Mae rheoliad 9 hefyd wedi ei ddiwygio er mwyn cysoni esemptiadau rhag ynysu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd ni waeth beth fo’u statws preswylio.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol yn dilyn y diwygiadau a wneir gan reoliad 4.
Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau ym mharagraff (12) o’r rheoliad hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), .S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166), O.S. 2021/669 (Cy. 170), O.S. 2021/765 (Cy. 187), O.S. 2021/826 (Cy. 193), O.S. 2021/863 (Cy. 202), O.S. 2021/867 (Cy. 203), O.S. 2021/915 (Cy. 208), O.S. 2021/926 (Cy. 211), O.S. 2021/967 (Cy. 227), O.S. 2021/1063 (Cy. 250), O.S. 2021/1109 (Cy. 265), O.S. 2021/1126 (Cy. 273) ac O.S. 2021/1212 (Cy. 303).
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183), O.S. 2021/862 (Cy. 201), O.S. 2021/925 (Cy. 210), O.S. 2021/970 (Cy. 228), O.S. 2021/1119 (Cy. 271); O.S. 2021/1131 (Cy. 274), O.S. 2021/1212 (Cy. 303) ac O.S. 2021/1248 (Cy. 320).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys