Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 9 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.
Diwygiad i reoliad 23.
“ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”.
Diwygiadau i reoliad 2A4.
(1)
Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (3)—
(a)
hepgorer is-baragraff (b);
(b)
hepgorer is-baragraff (ba);
(c)
yn is-baragraff (c)—
(i)
“(iia)
tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd;
(iib)
Tystysgrif Gogledd America;”;
(ii)
ar y diwedd, mewnosoder “a”;
(d)
hepgorer is-baragraff (ca).
(3)
Ym mharagraff (4A)—
(a)
ar ddiwedd is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;
(b)
ar ôl is-baragraff (c), hepgorer “a”;
(c)
hepgorer is-baragraff (d).
(4)
Ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraff (a).
(5)
Ym mharagraff (6)—
(a)
yn y geiriau agoriadol, hepgorer “naill ai”;
(b)
ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) hepgorer “, neu”;
(c)
hepgorer is-baragraff (b).
(6)
“(7A)
At ddibenion paragraff (3)—
(a)
pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(b)
pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.”
(7)
Ym mharagraff (8), hepgorer “yn y Deyrnas Unedig”.
(8)
Ym mharagraff (10)—
(a)
yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”—
(i)
yn y geiriau o flaen paragraff (a), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii)
ym mharagraff (a), ar ôl “y Deyrnas Unedig” mewnosoder “, a awdurdodwyd”;
(iii)
ym mharagraff (b), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv)
“(d)
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
(i)
wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a
(ii)
wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b)
“ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—
(a)
Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
(b)
Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
(c)
WA Verify (talaith Washington);”;
(c)
yn y diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor”—
(i)
ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii)
hepgorer paragraff (b) (gan gynnwys y “neu” ar y diwedd).
(9)
“Belarws”
“Bolivia”
“Ecuador”
“Gweriniaeth Dominica”
“Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”
“Laos”
“Libya”
“Malawi”
“Mozambique”
“Samoa”
“Senegal”
“Vanuatu”
“Zambia”
“Zimbabwe”.
(10)
“(12A)
Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—
Albania
Armenia
Gogledd Macedonia
Israel
Morocco
Panama
Twrci
Wcrain
Ynysoedd Ffaro.”
Diwygiadau i reoliad 35.
(1)
Mae rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (2)—
(a)
“(aa)
person a ddisgrifir ym mharagraffau 6 i 10 o Atodlen 2.”
(b)
hepgorer is-baragraff (c).
(3)
Hepgorer paragraffau (3) a (4).
Diwygiadau i reoliad 96.
(1)
Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (2)—
(a)
“(aa)
person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a), (b), (h) neu (k) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath;
(bb)
person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c), (d), (e), (f), (g), (i) neu (j) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath, ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;”.
(b)
yn is-baragraff (b), yn lle “2 i 5, 6A i 16” rhodder “2 i 16”;
(c)
hepgorer is-baragraff (c);
(d)
yn is-baragraff (d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.
(3)
Hepgorer paragraffau (3) i (6).
Diwygiad i reoliad 107.
Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), hepgorer paragraff (4)(o).
Diwygiad i Atodlen 28.
Ym mharagraff 1(2) o Atodlen 2 (personau esempt), yn lle “9(2)(a)” rhodder “9(2)(bb)”.
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20209.
(1)
(2)
Ym mharagraff (6)—
(a)
yn is-baragraff (a), hepgorer paragraff (i) (gan gynnwys yr “a” ar y diwedd);
(b)
yn is-baragraff (c)—
(i)
yn lle “gan wlad berthnasol” rhodder “ac eithrio yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)
ar ôl “dystysgrif COVID ddigidol yr UE,” mewnosoder “tystysgrif cofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,”;
(iii)
ar ôl “Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau,” mewnosoder “Tystysgrif Gogledd America”.
(3)
“(8)
At ddibenion y rheoliad hwn, pan fo person wedi cael cwrs o ddosau sy’n cynnwys un dos o frechlyn awdurdodedig o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor ac un dos o frechlyn awdurdodedig ac eithrio o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramo”r.
(4)
Ym mharagraff (9)(b)—
(a)
“(b)
mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau—”;
(b)
ym mharagraff (i)(bb), hepgorer y “, neu” ar y diwedd;
(c)
ym mharagraff (ii), mewnosoder “, neu” ar y diwedd;
(d)
“(iii)
os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato ym mharagraff (iv) o’r diffiniad o frechlyn awdurdodedig ym mharagraff (10)(a);”.
(5)
Ym mharagraff (10)—
(a)
yn is-baragraff (a)—
(i)
yn y geiriau o flaen paragraff (i), hepgorer “a awdurdodwyd”;
(ii)
ym mharagraff (i), yn y geiriau o flaen is-baragraff (aa), yn lle “neu mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), rhodder “, a awdurdodwyd”;
(iii)
ym mharagraff (ii), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;
(iv)
“(iii)
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (i)(aa) neu (bb) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;
(iv)
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
(aa)
wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a
(bb)
wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);”;
(b)
“(aa)
ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;”;
(c)
“(ca)
ystyr “Tystysgrif Gogledd America” yw—
(i)
Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
(ii)
Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
(iii)
WA Verify (talaith Washington);”.
(6)
“Belarws”
“Bolivia”
“Ecuador”
“Gweriniaeth Dominica”
“Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo”
“Laos”
“Libya”
“Malawi”
“Mozambique”
“Samoa”
“Senegal”
“Vanuatu”
“Zambia”
“Zimbabwe”.
(7)
“(13)
Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y rheoliad hwn—
Albania
Armenia
Gogledd Macedonia
Israel
Morocco
Panama
Twrci
Wcrain
Ynysoedd Ffaro.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o dystysgrifau brechlyn penodol a ddyroddir gan wledydd a thiriogaethau Ewropeaidd ychwanegol, at ddibenion esemptiadau teithio o ran profi cyn ymadael a brechlynnau.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—
estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau;
ehangu’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” drwy ddileu’r gofyniad ei fod i’w weinyddu mewn gwlad berthnasol a thrwy gydnabod brechlynnau penodol a gydnabyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd;
dileu’r gofynion preswylio ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn Unol Daleithiau America, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, a theithwyr o dan 18 oed;
cyflwyno dulliau pellach i deithwyr brofi eu bod wedi eu brechu, gan gynnwys tystysgrifau trydydd gwledydd a thiriogaethau a gymeradwywyd a thystysgrifau brechu taleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau;
gwneud diwygiadau technegol pellach gan gynnwys ynghylch brechiadau fel rhan o raglen frechu’r DU dramor.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i esemptio’r personau a ganlyn rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr pan fônt wedi teithio i Gymru yng nghwrs eu gwaith (pa un a ydynt wedi teithio ar gludiant sy’n cario teithwyr ai peidio): gweithwyr cludiant ffyrdd; gweithwyr cludiant teithwyr ffyrdd; meistri a morwyr; peilotiaid ar longau masnach; arolygwyr a syrfewyr llongau; a chriw awyren.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddileu’r gofyniad i ddiplomyddion penodol gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn dibynnu ar ddarpariaethau esemptio rhag ynysu. Mae rheoliad 9 hefyd wedi ei ddiwygio er mwyn cysoni esemptiadau rhag ynysu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd ni waeth beth fo’u statws preswylio.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol yn dilyn y diwygiadau a wneir gan reoliad 4.
Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau ym mharagraff (12) o’r rheoliad hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.