Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1291 (Cy. 326)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Gwnaed

am 3.58 p.m. ar 19 Tachwedd 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 19 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 9 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Tachwedd 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 2LL+C

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 2ALL+C

4.—(1Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3)—

(a)hepgorer is-baragraff (b);

(b)hepgorer is-baragraff (ba);

(c)yn is-baragraff (c)—

(i)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iia)tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd;

(iib)Tystysgrif Gogledd America;;

(ii)ar y diwedd, mewnosoder “a”;

(d)hepgorer is-baragraff (ca).

(3Ym mharagraff (4A)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;

(b)ar ôl is-baragraff (c), hepgorer “a”;

(c)hepgorer is-baragraff (d).

(4Ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraff (a).

(5Ym mharagraff (6)—

(a)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “naill ai”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) hepgorer “, neu”;

(c)hepgorer is-baragraff (b).

(6Yn lle paragraff (7A), rhodder—

(7A) At ddibenion paragraff (3)—

(a)pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;

(b)pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.

(7Ym mharagraff (8), hepgorer “yn y Deyrnas Unedig”.

(8Ym mharagraff (10)—

(a)yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), hepgorer “a awdurdodwyd”;

(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “y Deyrnas Unedig” mewnosoder “, a awdurdodwyd”;

(iii)ym mharagraff (b), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;

(iv)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—

(i)wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a

(ii)wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—

(a)

Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);

(b)

Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);

(c)

WA Verify (talaith Washington);;

(c)yn y diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor”—

(i)ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraff (b) (gan gynnwys y “neu” ar y diwedd).

(9Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Belarws

Bolivia

Ecuador

Gweriniaeth Dominica

Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo

Laos

Libya

Malawi

Mozambique

Samoa

Senegal

Vanuatu

Zambia

Zimbabwe.

(10Ar ôl paragraff (12), mewnosoder—

(12A) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—

  • Albania

  • Armenia

  • Gogledd Macedonia

  • Israel

  • Morocco

  • Panama

  • Twrci

  • Wcrain

  • Ynysoedd Ffaro.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 3LL+C

5.—(1Mae rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder—

(aa)person a ddisgrifir ym mharagraffau 6 i 10 o Atodlen 2.

(b)hepgorer is-baragraff (c).

(3Hepgorer paragraffau (3) a (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 9LL+C

6.—(1Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(aa)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a), (b), (h) neu (k) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath;

(bb)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(c), (d), (e), (f), (g), (i) neu (j) o Atodlen 2, neu aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person o’r fath, ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;.

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “2 i 5, 6A i 16” rhodder “2 i 16”;

(c)hepgorer is-baragraff (c);

(d)yn is-baragraff (d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.

(3Hepgorer paragraffau (3) i (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 10LL+C

7.  Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), hepgorer paragraff (4)(o).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Atodlen 2LL+C

8.  Ym mharagraff 1(2) o Atodlen 2 (personau esempt), yn lle “9(2)(a)” rhodder “9(2)(bb)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020LL+C

9.—(1Mae rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (6)—

(a)yn is-baragraff (a), hepgorer paragraff (i) (gan gynnwys yr “a” ar y diwedd);

(b)yn is-baragraff (c)—

(i)yn lle “gan wlad berthnasol” rhodder “ac eithrio yn y Deyrnas Unedig”;

(ii)ar ôl “dystysgrif COVID ddigidol yr UE,” mewnosoder “tystysgrif cofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,”;

(iii)ar ôl “Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau,” mewnosoder “Tystysgrif Gogledd America”.

(3Yn lle paragraff (8), rhodder—

(8) At ddibenion y rheoliad hwn, pan fo person wedi cael cwrs o ddosau sy’n cynnwys un dos o frechlyn awdurdodedig o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor ac un dos o frechlyn awdurdodedig ac eithrio o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(4Ym mharagraff (9)(b)—

(a)yn lle’r geiriau o flaen paragraff (i) rhodder—

(b)mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau—;

(b)ym mharagraff (i)(bb), hepgorer y “, neu” ar y diwedd;

(c)ym mharagraff (ii), mewnosoder “, neu” ar y diwedd;

(d)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iii)os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato ym mharagraff (iv) o’r diffiniad o frechlyn awdurdodedig ym mharagraff (10)(a);.

(5Ym mharagraff (10)—

(a)yn is-baragraff (a)—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (i), hepgorer “a awdurdodwyd”;

(ii)ym mharagraff (i), yn y geiriau o flaen is-baragraff (aa), yn lle “neu mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), rhodder “, a awdurdodwyd”;

(iii)ym mharagraff (ii), ar ôl “ym mharagraff (11),” mewnosoder “a awdurdodwyd”;

(iv)ar ôl paragraff (ii) mewnosoder—

(iii)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (i)(aa) neu (bb) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;

(iv)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—

(aa)wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11 neu 13 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Tachwedd 2021, a

(bb)wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (12);;

(b)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino;;

(c)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)ystyr “Tystysgrif Gogledd America” yw—

(i)Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);

(ii)Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);

(iii)WA Verify (talaith Washington);.

(6Ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Belarws

Bolivia

Ecuador

Gweriniaeth Dominica

Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo

Laos

Libya

Malawi

Mozambique

Samoa

Senegal

Vanuatu

Zambia

Zimbabwe.

(7Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(13) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y rheoliad hwn—

Albania

Armenia

Gogledd Macedonia

Israel

Morocco

Panama

Twrci

Wcrain

Ynysoedd Ffaro.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 22.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.58 p.m. ar 19 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o dystysgrifau brechlyn penodol a ddyroddir gan wledydd a thiriogaethau Ewropeaidd ychwanegol, at ddibenion esemptiadau teithio o ran profi cyn ymadael a brechlynnau.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—

  • estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau;

  • ehangu’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” drwy ddileu’r gofyniad ei fod i’w weinyddu mewn gwlad berthnasol a thrwy gydnabod brechlynnau penodol a gydnabyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd;

  • dileu’r gofynion preswylio ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn Unol Daleithiau America, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, a theithwyr o dan 18 oed;

  • cyflwyno dulliau pellach i deithwyr brofi eu bod wedi eu brechu, gan gynnwys tystysgrifau trydydd gwledydd a thiriogaethau a gymeradwywyd a thystysgrifau brechu taleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau;

  • gwneud diwygiadau technegol pellach gan gynnwys ynghylch brechiadau fel rhan o raglen frechu’r DU dramor.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i esemptio’r personau a ganlyn rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr pan fônt wedi teithio i Gymru yng nghwrs eu gwaith (pa un a ydynt wedi teithio ar gludiant sy’n cario teithwyr ai peidio): gweithwyr cludiant ffyrdd; gweithwyr cludiant teithwyr ffyrdd; meistri a morwyr; peilotiaid ar longau masnach; arolygwyr a syrfewyr llongau; a chriw awyren.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddileu’r gofyniad i ddiplomyddion penodol gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn dibynnu ar ddarpariaethau esemptio rhag ynysu. Mae rheoliad 9 hefyd wedi ei ddiwygio er mwyn cysoni esemptiadau rhag ynysu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd ni waeth beth fo’u statws preswylio.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol yn dilyn y diwygiadau a wneir gan reoliad 4.

Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau ym mharagraff (12) o’r rheoliad hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources