Beth sy’n cael ei gynnwys yn y Tablau Cronolegol?
Ym 1974 awdurdododd y Pwyllgor Cyfraith Statud Gomisiwn y Gyfraith a Chomisiwn y Gyfraith yr Alban i baratoi tabl cronolegol yn ymdrin â’r 26,000 o Ddeddfau Lleol a basiwyd rhwng 1797 a diwedd 1973 a’r 11,000 o Ddeddfau Preifat, a ddisgrifiwyd fel Deddfau Personol yn ddiweddarach) a basiwyd rhwng 1539 a diwedd 1973. Cyhoeddwyd y ddau Dabl (HMSO a TSO yn eu tro), fel y’u diweddarwyd ar y dyddiadau cyhoeddi gan Gomisiynau’r Gyfraith. Mae’r testun yn awr yn cael ei ddiweddaru ar y safle hwn hyd Ragfyr 2008. I weld esboniad o fyrfoddau’r Tabl Cronolegol gweler y ddewislen Tudalennau Cysylltiedig.
Mae’r fersiynau printiedig swyddogol ar gael gan The Stationery Office Limited.