Cyflwyniad
(Atgynhyrchir The Introduction to The Chronological Table of Private and Personal Acts 1539-1997) (Y Llyfrfa 1997 - ISBN 0 11 0430069) gyda chwtogiad ar gyfer y fersiwn ar-lein hwn o'r Tabl)
1. Awdurdod i Gyhoeddi
Cafodd Chronological Table of Private and Personal Acts (" y Tabl ") ei gwblhau gan Gomisiynau'r Gyfraith a'i gyhoeddi yn 1997 gan The Stationery Office Ltd o dan awdurdod y Pwyllgor Cynghori ar Gyfraith Statud fel olynydd i'r Pwyllgor Cyfraith Statud 1 a awdurdododd y prosiect yn wreiddiol ym 1974.
Mae fersiwn ar-lein y Tabl wedi'i olygu a'i baratoi i'w gyhoeddi gan Lyfrfa Ei Mawrhydi, Tîm Gwasanaethau Cyhoeddi, Admiralty Arch, Ystafell 1.35, Mynedfa'r Gogledd, The Mall, Llundain SW1A 2WH. I weld argaeledd testunau llawn y Deddfau yn y Tabl gweler adran 5 y Cyflwyniad hwn.
2. Cefndir
Ym 1974 awdurdododd y Pwyllgor Cyfraith Statud Comisiwn y Gyfraith a Chomisiwn y Gyfraith yr Alban i baratoi tabl cronolegol yn ymdrin â’r 26,000 o Ddeddfau Lleol a basiwyd rhwng 1797 2 a diwedd 1973 a'r 11,000 o Ddeddfau Preifat, (a ddisgrifiwyd fel Deddfau Personol yn ddiweddarach), a basiwyd rhwng 1539 3 a diwedd 1973. Cwblhawyd rhan Deddf leol y prosiect ym 1996 - The Chronological Table of Local Legislation 1797-1994 4 a oedd yn ymdrin â’r 26,500 o Ddeddfau Lleol a basiwyd hyd at ddiwedd 1994 5. Roedd cyhoeddi'r Tabl presennol yn cwblhau'r prosiect cyfan ac am y tro cyntaf roedd tablau cronolegol ar gyfer yr holl Ddeddfau a basiwyd gan y ddwy Senedd yn San Steffan ar gael (Tabl Cronolegol y Statudau ar gyfer Deddfau Cyhoeddus, Tabl Cronolegol o Ddeddfwriaeth Leol ar gyfer Deddfau Lleol a'r Tabl Cronolegol o Ddeddfau Preifat a Phersonol ar gyfer Deddfau Preifat a Phersonol).
Mae'r fersiwn ar-lein hwn o'r Tabl Deddfau Preifat a Phersonol yn 33 rhan wedi'i ddiweddaru hyd at fis Rhagfyr 2008.
3. Cynnwys
Mae'r Tabl yn rhestru dilyniant cronolegol y gyfres o Ddeddfau Preifat a Phersonol a basiwyd gan y ddwy Senedd yn San Steffan rhwng 1539 a diwedd 2008 sy'n cynnwys:
(i) Deddfau Preifat (1539-1802);
(ii) Deddfau Lleol a Phersonol, heb eu hargraffu (1802-1814);
(iii) Deddfau Preifat (1815-1947);
(iv) Deddfau Personol (1948 ymlaen).
Mae'r Tabl yn cofnodi'r effeithiau ar y Deddfau a restrir o'r categorïau deddfwriaeth a ganlyn a ddeddfwyd neu a grëwyd rhwng 1539 a diwedd 2008:
(i) Deddfau Cyhoeddus y ddwy Senedd yn San Steffan;
(ii) Mesurau Cynulliad yr Eglwys a Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr;
(iii) Deddfau Lleol, Personol a Phreifat y ddwy Senedd yn San Steffan;
(iv) Rheolau a Gorchmynion Statudol (cyn 1948) ac Offerynnau Statudol (o 1948) sy'n cael eu dosbarthu yn gyffredinol a'r testunau sydd ar gael yn rhwydd o blith y rheini sy'n cael eu dosbarthu yn lleol 6;
(v)Deddfau Cyhoeddus Senedd Gogledd Iwerddon 1922 - 1972 i'r graddau y maen nhw'n effeithio ar Ddeddfau preifat y Deyrnas Unedig cyn 1922;
(vi) Deddfau Lleol a Phreifat Senedd Gogledd Iwerddon 1922-1972 hyd y maen nhw'n effeithio ar Ddeddfau Preifat y Deyrnas Unedig cyn 1922;
(vii) Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon hyd y maen nhw'n effeithio ar Ddeddfau preifat y Deyrnas Unedig 1922.
Cafodd nifer o Ddeddfau Preifat a basiwyd cyn 1800 eu trin fel Deddfau Cyhoeddus hefyd. Rhestrir Deddfau o'r fath yn Nhabl Cronolegol y Statudau a'r Tabl lle y mae eu dosbarthiad deuol yn cael ei nodi mewn troednodiadau ar wahân.
Nid yw'r Tabl yn dangos effaith darpariaethau diddymu neu derfynu yn gyffredinol ar Ddeddfau Preifat a Phersonol ac eithrio lle mae'r diddymu neu'r terfynu wedi'i drosi i, a'i gynnwys o fewn, atodlenni diddymu penodol i ar Ddeddfau Cyhoeddus, Lleol, Preifat a Phersonol.
4. Ffynhonnell a Ddefnyddiwyd wrth Lunio'r Tabl
Mae'r Deddfau Preifat a Phersonol wedi'u rhestru a'u rhifo yn unol â gwybodaeth a gasglwyd o'r ffynonellau a ganlyn:
1. Y ffynonellau a ddefnyddiwyd i lunio'r Tabl Cronolegol o'r Statudau, sef:-
(a) Statudau'r Deyrnas, argraffiad y Comisiynwyr Cofnod (1810 - 1828), i'r graddau y mae'n ymestyn (i ddiwedd teyrnasiad Brenhines Anne (13 Anne) ym 1714);
(b) Argraffiad Ruffhead o Statudau yn Rhydd (gan Sarsiant Runnington, 1786) i'r graddau y mae'n ymestyn (i ddiwedd sesiwn y 25ain flwyddyn o deyrnasiad Brenin George y Trydydd (25 Geo. 3) yn 1785);
(c) Deddfau Cyfrolau Sesiynol y Cyhoedd (o 1797 y Cyhoedd) ar ôl 1785.
2. Cyfrolau Sesiynol o Ddeddfau Lleol a Phersonol (1797-1869), Deddfau Lleol (1870 ymlaen) a Deddfau Preifat (Personol yn ddiweddarach) (1815 ymlaen).
Mae rhestrau o Ddeddfau yn Swyddfa Cofnodion Ty'r Arglwyddi, gan gynnwys y Calendr Hir 7, wedi'u harchwilio hefyd ond nid oes unrhyw Ddeddfau ychwanegol wedi'u hadnabod.
Mae tabl o amrywiannau rhwng Statudau'r Deyrnas ac argraffiad Ruffhead o Statudau yn Rhydd, ar dudalennau 1-8 y Tabl, yn rhestru'r gwahaniaethau rhwng blynyddoedd a rhifau penodau Deddfau Preifat fel y rhestrir yn y ddau argraffiad hwnnw.
5. Natur ac Argaeledd Testunau Deddfau Preifat a Phersonol
Ni chafodd y Deddfau Preifat a restrir yn y Tabl eu hargraffu yn swyddogol hyd at 1815 8, yn groes i destunau Deddfau Cyhoeddus (o 1797 Y Cyhoeddus Cyffredinol) a Lleol y mae'r cyfan wedi'u hargraffu ag awdurdod neu'n swyddogol ac y mae eu heffaith wedi'i chofnodi yn y Tabl Cronolegol o Statudau a'r Tabl Cronolegol o Ddeddfwriaeth Leol yn y drefn honno. Hyd at 1815 y testunau mwyaf awdurdodol ac a oedd ar gael yn hawdd o Ddeddfau Preifat yw'r Deddfau Gwreiddiol (llawysgrif) sydd ar gael yn Swyddfa Cofnodion Ty'r Arglwyddi 9.
Cafodd rhai Biliau Preifat, sydd â’r teitl 'Deddf'..., eu hargraffu yn breifat cyn 1815. Ni fydd y rhain yn cael eu derbyn dim ond ar ôl i i destun y Biliau gael eu pasio, h.y. fel Deddfau, os yw dyddiad y Cysyniad Brenhinol wedi'i argraffu ar y dechrau neu'r diwedd.
Yng nghyswllt pob Deddf Breifat cyn 1815 a Deddfau Preifat heb eu hargraffu (y rheini wedi'u marcio â seren yn y Tabl) ar ôl 1815 dylai ymholiadau ar gyfer eu gweld ac am gopïau gael eu gwneud i Swyddfa Cofnodion Ty'r Arglwyddi a dylid eu cyfeirio at:
Parliamentary Archives
Houses of Parliament
London
SW1A 0PW
Ffôn: +44(0)20 7219 3074
Ffacs: +44(0)20 7219 2750
e-bost: archives@parliament.uk
Cyfeiriad y wefan yw: www.parliament.uk [dewiswch Wybodaeth Bellach am wasanaethau seneddol; Archifau Seneddol; Gwybodaeth gyffredinol]
Yn argraffiad print y Tabl (gweler paragraff cyntaf y Cyflwyniad hwn) yn nhudalennau 1-8, mae tabl o amrywiannau rhwng Statudau'r Deyrnas ac argraffiad Ruffhead o Statudau yn Rhydd yn rhestru'r gwahaniaethau rhwng blynyddoedd a rhifau penodau Deddfau Preifat fel y rhestrir yn y ddau argraffiad hwnnw.
6. Rhestru, Rhifo a Nodiadau Deddfau
Yn gyffredinol mae gan y Tabl yr un cynllun ac mae'n defnyddio'r un confensiynau â’r Tabl Cronolegol o'r Statudau.
Rhifau pennod (1) Mae'r Tabl yn dilyn arfer modern o wahaniaethu rhwng Deddfau Cyhoeddus, Deddfau Lleol a Deddfau Preifat/Personol, sef:
- Rhifolion Arabaidd (c.1) (c.20) ar gyfer Deddfau Cyhoeddus;
- rhifolion Rhufeinig bach (c.i) (c.xx) ar gyfer Deddfau Lleol; [roedd Deddfau Lleol rhwng 1797 a 1869 yn swyddogol ond yn ddryslyd fe'u henwyd yn 'Ddeddfau Lleol a Phersonol' a gofynnir i ymchwilwyr ddwyn hyn i gof wrth wneud ymholiadau mewn llyfrgelloedd Cyfraith]. Achos cyffredin o ddryswch yn teipysgrif yw c.l (pennod hanner cant lleol) gyda c.1 (pennod un y cyhoeddus);
- rhifolion Arabaidd italig (c. 1) (c. 20) ar gyfer Deddfau Preifat / Personol
Dylid dwyn i gof nad yw'r dull hwn o wahaniaethu rhwng y gwahanol gyfresi o Ddeddfau o reidrwydd wedi'u hadlewyrchu yn nhestunau'r Deddfau eu hunain. Er enghraifft, nid oedd Deddfau Preifat yn cael eu rhifo'n swyddogol mewn rhifolion Arabaidd italig hyd at 1869.
(2) Yn groes i Ddeddfau Cyhoeddus a Lleol nid yw'r rhifau pennod ar gyfer y rhan fwyaf o'r Deddfau sydd wedi'u rhestru yn y Tabl yn perthyn i destunau wedi'u hargraffu neu eu cyhoeddi ac mae eu swyddogaeth gan hynny wedi'i chyfyngu i ddarparu dulliau awdurdodol o fynegeio. Hyd at 1902 roedd y Deddfau Gwreiddiol yn Swyddfa'r Senedd - Cyhoeddus, Cyhoeddus Cyffredinol, Lleol a Phreifat - wedi'u rhifo mewn un dilyniant ar gyfer pob sesiwn, 10 ac yn Swyddfa Cofnodion Ty'r Arglwyddi mae'r rhifau sesiynol wedi'u croesgyfeirio â’r rhifau pennod fel y rhestrir yn Ruffhead i alluogi i destunau llawysgrif y Deddfau gael eu hadnabod ar gyfer y rheini sy'n dymuno eu gweld.
(3) Hyd at 1713, ac oni nodir yn wahanol 11, mae rhifau penodau'r Deddfau a restrir yn y Tabl yn naill ai'r rheini a roddir yn y rhestrau o Ddeddfau Preifat yn Statudau y Deyrnas 12neu, lle nad oes rhifau o'r fath yn cael eu rhoi, maen nhw'n dilyn y drefn y mae'r Deddfau yn cael eu rhestru yn y gwaith hwnnw.
(4) Rhwng 1876 a 1922 ni chafodd y niferoedd bach o Ddeddfau Preifat na chafodd eu hargraffu yn swyddogol eu rhifo gan Argraffydd y Brenin. Er mwyn osgoi ansicrwydd mae Deddfau o'r fath wedi derbyn rhifau Arabaidd mewn bracedi sgwâr yn y Tabl mewn dilyniant ar wahân i'r rhifau penodau swyddogol ar gyfer Deddfau print, ac yn y drefn y maen nhw'n cael eu rhestru yng nghyfrolau blynyddol Deddfau Lleol a Phreifat dan sylw.
Teitlau Deddfau
Os oes gan y Ddeddf deitl byr swyddogol cyfeirir ati, hyd y gellir, gan y teitl hwnnw 13. Mewn achosion eraill, ac ar gyfer mwyafrif y Deddfau a restrir yn y Tabl, mae'r teitlau yn fersiynau wedi'u moderneiddio neu wedi'u cwtogi o deitlau hir y Deddfau fel y maen nhw'n ymddangos yn y ffynonellau perthnasol. Nid yw wedi bod yn bosibl, yn gyffredinol, archwilio sylwedd y Deddfau eu hunain ac o ganlyniad i hynny nid yw'r Tabl yn cofnodi pynciau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn y teitlau hir. Hefyd, nid yw wedi bod yn bosibl bob amser darparu cofnodion ystyrlon ar gyfer pob Deddf 14.
Yn unol â’r confensiwn a ddefnyddiwyd yn Nhabl Cronolegol o'r Statudau, mae teitl Deddf sydd wedi'i diddymu yn gyfan gwbl i'w gweld mewn teip italig. Os yw teitl yn cael ei ddangos mewn teip trwm, mae'n nodi bod y Ddeddf, neu y gallai'r Ddeddf, fod mewn grym.
Enwau lleoedd
Mae sillafiad enwau lleoedd wedi, hyd y gellir, eu moderneiddio a'u cysoni trwy’r Tabl. O ganlyniad mae sillafiad enwau lleoedd yn y Tabl yn gwahaniaethu'n aml o'r hyn a geir yn nheitlau'r Deddfau eu hunain.
Mae siroedd y lleoedd a grybwyllir yn nheitlau'r Deddfau wedi'u cynnwys lle bynnag mae hynny'n bosibl. Ond yn aml iawn nid yw wedi bod yn ymarferol darparu gwybodaeth o'r fath heb archwilio sylwedd y Deddfau dan sylw. Yr enwau siroedd yw naill ai'r rheini sy'n cael eu rhoi yn nheitlau'r Deddfau eu hunain, neu sy'n cael eu hystyried yn debyg o fod y sir dan sylw pan gafodd y Ddeddf dan sylw ei phasio 15, ac nid rhai'r siroedd a gafodd eu hailgyfansoddi gan ddeddfwriaeth ddiweddarach 16.
Enwau personol
Mae enwau personol wedi'u moderneiddio hyd y gellir, ond ddim ar sail systematig trwy’r Tabl.
Yr anodiad 'gweler'
Defnyddir yr anodiad 'gweler ' i dynnu sylw at nifer o wahanol ddarpariaethau sy'n anodd eu cofnodi mewn unrhyw ffordd arall. Ymhlith yr enghreifftiau y mae darpariaeth sy'n berthnasol wrth ystyried y ddeddfwriaeth dan sylw ond nid yw'n gweithredu'n uniongyrchol arni a'r rheini nad yw eu heffeithiau ar ddeddfwriaeth flaenorol yn glir neu ni ellir eu mynegi yn gryno.
7. Geirfa
Calendr Hir: |
Rhestr gronolegol awdurdodol o deitlau hir Deddfau Gwreiddiol (6 cyfrol, 1497-1863) wedi'i llunio yn gyfoes o 1608 ymlaen. Fe'i cedwir yn Swyddfa Gofnodion Ty'r Arglwyddi gyda'r rhestrau, calendrau a mynegeion eraill o Ddeddfau Gwreiddiol a wnaed er defnydd Swyddfa'r Senedd yn Nhy'r Arglwyddi (M F Bond, Guide to the Records of Parliament (1971, t 3, 96-97, 181). |
Deddfau Gwreiddiol: |
Rhwng 1497 a 1849 mae testunau llawysgrifen Biliau wedi'u rhoi ar ffurf gyfreithiol, fel y'u newidiwyd yn hynt siwrnai'r Biliau trwy Senedd, a ddaeth yn Ddeddfau Gwreiddiol ar ôl i'r Biliau dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Nodwyd diwygiadau i'r Biliau ar y rholiau mewn ffurf gyfreithiol, ond cafodd cymalau ychwanegol eu rhoi mewn ffurf gyfreithiol ar ddarnau ar wahân o femrwn a gafodd eu pwytho i'r rôl dan sylw. O 1849 mae testun awdurdodol ar gyfer pob Deddf Gyhoeddus, ac o 1850 un ar gyfer pob Deddf Leol a phob Deddf Breifat, wedi'u hargraffu ar wahân ar ddalennau felwm (yn gyffredinol) wedi'u rhwymo wrth yr ymyl gan dâp sidan coch (M F Bond, 'Acts of Parliament' Archifau iii (1958), t 204-206; Guide to the Records of Parliament (1971) t 65-66, 95-96). |
Rhôl Seneddol: |
Un o'r gyfres Siawnsri o Roliau Seneddol sy'n cael eu cadw yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus. O fewn y wybodaeth ynddynt y mae testun holl Ddeddfau Cyhoeddus a rhai Deddfau Preifat sydd wedi'u rhestru am ffi (1535-1593); testun holl Ddeddfau Cyhoeddus ond dim ond teitlau Deddfau Preifat yn unig (1593-1757); testun holl Ddeddfau Cyhoeddus (1758-1849) a chopïau dyblyg o Ddeddfau Gwreiddiol (1849 ymlaen) (M F Bond, Archifau 'Deddfau Senedd' iii (1958), t 218). |
8. Diweddaru'r Tabl
Bydd manylion diddymiadau a diwygiadau a wneir i Ddeddfau Preifat a Phersonol ar 'l 1997, i Ddeddfau Personol yn y dyfodol ac unrhyw gywiriadau i'r Tabl, yn cael eu rhoi ar y safle hwn a fydd yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol.
9. Cywiriadau a Gohebiaeth
Gall manylion unrhyw hepgoriadau neu wallau a nodwyd yn y Tabl, neu unrhyw ohebiaeth arall amdanynt, gael eu cyfeirio at Lyfrfa Ei Mawrhydi, T'm Gwasanaethau Cyhoeddi, Admiralty Arch, Ystafell 1.35, Mynedfa'r Gogledd, The Mall, Llundain SW1A 2WH. I weld argaeledd testunau llawn y Deddfau yn y Tabl gweler adran 5 y Cyflwyniad hwn.
[1] Cafodd y Pwyllgor Cyfraith Statud ei olynu yn 1991 gan y Pwyllgor Cynghori ar Gyfraith Statud y mae ei aelodau wedi'u rhestru ym Mlwyddlyfr Gwasanaeth Sifil a Whitaker's Almanack. [ cefn ]
[2] Yn 1797 rhannwyd Deddfau cyhoeddus yn gyfres ar wah'n o Ddeddfau'r Cyhoedd a Deddfau Cyhoeddus Lleol a Phersonol. Rhestrir Deddfau Cyhoeddus a basiwyd cyn 1797 yn y Tabl Cronolegol o Statudau. [ cefn ]
[3] Yn 1539 gwahaniaethwyd am y tro cyntaf Ddeddfau cyhoeddus a phreifat ar y cofrestriadau swyddogol o Ddeddfau Senedd. [ cefn ]
[4] HMSO 1996, ISBN 0 11 043002 6 (a gweler nodyn 5 isod) [ cefn ]
[5] Mae testun ar-lein y tabl deddfwriaeth leol yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol ar y wefan hon [ cefn ]
[6] Nid yw wedi bod yn bosibl cofnodi effeithiau holl is-ddeddfwriaeth leol gan nad oes casgliad cynhwysfawr o destunau Gorchmynion a Rheolau Statudol lleol ar gyfer y cyfnod 1890-1921 wedi'u canfod hyd yma, ac mae'r casgliadau cynhwysfawr sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer y cyfnod ar 'l 1922 - yn y Swyddfa Cyhoeddiadau Statudol, y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus a'r Llyfrgell Brydeinig - yn cynnwys bylchau (Adroddiad ar Dabl Cronolegol o Ddeddfwriaeth Leol (1996) Law Com No 241; Scot Law Com No 155; Cm 3301, para 5.13). [ cefn ]
[7] Rhestr gronolegol awdurdodol o deitlau hir Deddfau Gwreiddiol (6 cyfrol., 1497-1863) a luniwyd yn gyfoes o tua 1608 ymlaen (M F Bond, Guide to the Records of Parliament (1971) t 96-97). [ cefn ]
[8] Ar 'l hynny dim ond gweddill Deddfau Ysgariad, Enw a Brodori, a rhai Deddfau Cau Tir, na gafodd eu hargraffu'n swyddogol a'u hunig destunau awdurdodol yw'r Deddfau Gwreiddiol yn Swyddfa Cofnodion Ty'r Arglwyddi (Bond, op cit, t 102). Er 1924 mae'r holl Ddeddfau Preifat (wedi'u henwi yn Ddeddfau Personol er 1948) wedi'u hargraffu'n swyddogol. [ cefn ]
[9] Bond, op cit, t 3, 66, 94-97. [ cefn]
[11] Bond, op cit, t 98.[cefn]
[12] Gweler, e.e., nn 28, 47, 51 a 52 i destun y Tabl. [ cefn ]
[13] Tabl o Amrywiannau, n 2. [ cefn
[14] Mae'r Ddeddf 4 & 5 Anne (c.33) wedi derbyn y teitl byr 'The Lichfield Chapter Act 1706' gan Ddeddf Comisiynwyr Eglwysig 1873 (c.64), s.6, sch. Mae'n ymddangos mai'r Ddeddf breifat gyntaf i gael ei darpariaeth teitl byr ei hun yw Deddf Rhandiroedd Nottingham Freeman 1850 (c.1). Roedd teitlau byr swyddogol yn gynyddol yn cael eu deddfu yn yr 1850au ac mae gan ymron i bob un o'r Deddfau preifat print un ar 'l 1860. Y Ddeddf breifat print diwethaf nad oedd ' theitl byr swyddogol oedd Deddf Brodori Tywysog Henry o Battenberg 1885 (48 & 49 Vict.) (c.1). [ cefn ]
[15] e.e. 1539 (c.27) - Chancery Clerks' House; 1548 (c.1) - Kent Gavelkind lands;1605 (c.3) - Coleg Corpus Christi, Rhydychen.[ cefn ]
[16] e.e. 1698 (11 Will.3) (c.17): Llanriddian a Phen-rhys [Morgannwg]. [ cefn ]