Cyflwyniad
Mae'r Cyflwyniad i'r Tabl Cronolegol o Ddeddfwriaeth Leol 1797-1994 (HMSO 1996 - ISBN 0 11 043002 6) yn cael ei atgynhyrchu wedi ei grynhoi a'i ddiweddaru ar gyfer y fersiwn ar-lein hon.
1. Awdurdod i gyhoeddi
Cwblhawyd y Tabl Cronolegol o Ddeddfwriaeth Leol ('y Tabl Deddfau Lleol') hyd at 1994 gan Gomisiwn y Gyfraith a Chomisiwn Cyfraith yr Alban 1ac fe'i cyhoeddwyd yn 1996 gan HMSO dan awdurdod y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyfraith Statud fel olynydd i Bwyllgor Cyfraith Statud 2 a awdurdododd y prosiect yn wreiddiol yn 1974.
Mae'r fersiwn ar-lein o'r Tabl Deddfau Lleol hyd Ragfyr 2008 wedi cael ei olygu a'i baratoi i'w gyhoeddi gan dîm Gwasanaethau Cyhoeddi Llyfrfa Ei Mawrhydi. I gael gwybod am argaeledd testun llawn y Deddfau yn y Tabl Deddfau Lleol gweler adran 6 o'r Cyflwyniad hwn. Mae testun Deddfau Lleol 1998 hyd heddiw ar gael ar y safle hwn.
2. Cynnwys
Mae'rfersiwn ar-lein hon o'r rhestrau Tabl Deddfau Lleol yn rhestru'r holl Ddeddfau hynny a basiwyd gan y Seneddau yn San Steffan rhwng 1797 a diwedd 20083 sydd wedi dod i gael eu disgrifio yn gyffredinol fel Deddfau Lleol, yn eu trefn gronolegol ar Gorchmynion a gadarnhawyd gan Ddeddfau Cadarnhau Gorchymyn Dros Dro lleol 4 yn y drefn y maent yn cael eu rhestru yn eu Deddfau cadarnhau.
Hyd 1797 roedd dwy gyfres swyddogol o Ddeddfau - Cyhoeddus a Phreifat - ond yn y flwyddyn honno rhannwyd y Deddfau Cyhoeddus yn ddwy gyfres arall o Ddeddfau Cyhoeddus Cyffredinol a Deddfau Cyhoeddus Lleol a Phersonol. Mae'r Tabl Deddfau Lleol yn cael ei gyfyngu i'r categorau olynol o Ddeddfau Lleol: 'Deddfau Cyhoeddus Lleol a Phersonol' (1797-1802); 'Deddfau Lleol a Phersonol i gael sylw cyfreithiol' (1802- 1814); Deddfau Personol a Lleol a ddatganwyd yn gyhoeddus ac i gael sylw cyfreithiol (1815-1867); 'Deddfau Lleol a Phersonol' (1868); 'Deddfau Lleol a Phreifat' (1869); 'Deddfau Lleol' (1870 ymlaen).
Mae'r Tabl Deddfau Lleol yn cofnodi'r effeithiau ar y Deddfau a gorchmynion a restrir a gafwyd gan y categorau canlynol o ddeddfwriaeth a ddeddfwyd neu a wnaed rhwng 1797 a diwedd 2008.
(i) Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol y Seneddau yn San Steffan;
(ii) Mesurau Cynulliad a Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr;
(iii) Deddfau Lleol, Personol a Phreifat Seneddau San Steffan;
(iv) Deddfau Senedd yr Alban
(v) Rheolau a Gorchmynion Statudol (cyn 1948) ac Offerynnau Statudol (ers 1948)
sy'n cael eu dosbarthu fel rhai cyffredinol a thestun sydd ar gael yn fwyaf
rhwydd ar gyfer y rhai a elwir yn lleol 5
(vi) Offerynnau Statudol yr Alban
(vii) Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol Senedd Gogledd Iwerddon 1922-1972 yn y
graddau y maent yn effeithio ar ddeddfau lleol y Deyrnas Unedig cyn 1922;
(ix) Deddfau Lleol a Phersonol Senedd Gogledd Iwerddon 1922-1972 yn y graddau y
maent yn effeithio ar Ddeddfau lleol y Deyrnas Unedig cyn 1922;
(vii) Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon yn y graddau y maent yn effeithio ar
Ddeddfau lleol y Deyrnas Unedig cyn 1922;
(viii) Nifer fechan o Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor.
Nid yw'r Tabl Deddfau Lleol yn dangos effaith diddymu neu ddarpariaethau dirwyn i ben yn gyffredinol 6ar ddeddfau lleol ac eithrio pan fydd y diddymiad neu ddarpariaeth dirwyn i ben wedi cael ei drosi ai gynnwys mewn atodlenni diddymu penodol i Ddeddfau cyhoeddus cyffredinol neu leol a phersonol.
3. Rhestru a Nodiadau ar Ddeddfau
Yn gyffredinol mae’r Tabl Deddfau Lleol â'r yr un patrwm r Tabl Cronolegol o'r Statudau ac mae iddor un defnydd 7Pan fu'n angenrheidiol mabwysiadu confensiynau gwahanol i ymdrin â nodweddion arbennig deddfwriaeth leol, tynnir sylw at wahaniaethau o'r fath yn y lle priodol. Gweler hefyd yr adran dan y pennawd Diddymiadau isod.
Rhifau penodau
Mae'r Tabl Deddfau Lleol yn dilyn yr arfer modern o wahaniaethu rhwng rhifau penodau Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol, Deddfau Lleol a Phreifat (a elwir yn Bersonol ers 1948), sef:
- Rhifolion Arabaidd (c.1) (c.20) ar gyfer Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol;
- rhifolion Rhufeinig bach (c.i) (c.xx) ar gyfer Deddfau Lleol - un enghraifft sy'n peri dryswch yn aml mewn teipysgrif yn Saesneg yw c.l (pennod hanner cant lleol) c.1 (pennod un cyhoeddus cyffredinol);
- [Rhwng 1797 a 1869 roedd Deddfau Lleol yn swyddogol ond yn ddryslyd yn cael eu galw yn 'Ddeddfau Lleol a Phersonol' a gofynnir i ymchwilwyr gadw hyn mewn cof wrth wneud ymholiadau mewn llyfrgelloedd y Gyfraith]
- rhifolion Arabaidd italig (c.1) (c.20) ar gyfer Deddfau Preifat/Personol.
Dylid cadw mewn cof nad yw'r dull hwn o wahaniaethu rhwng y gwahanol gyfresi o Ddeddfau o angenrheidrwydd yn cael ei adlewyrchu yn nhestun y Deddfau eu hunain. Er enghraifft, rhwng 1797 a 1814 roedd y gyfres brintiedig o Ddeddfau Lleol a Phersonol yn cael eu rhifo yn swyddogol mewn rhifolion Arabaidd.
Teitlau'r Deddfau
Pan fydd gan Ddeddf deitl byr swyddogol, cyfeirir ati, cyn belled ag y mae'n ymarferol, gyda'r teitl hwnnw. Mewn achosion eraill defnyddir disgrifiad byr o'r pwnc a drafodir. Dylai unrhyw un sydd angen ymchwilio i Ddeddfau Lleol yn ôl eu teitlau gyfeirio at y Mynegai i'r Deddfau Lleol a Phersonol 1850-1995 a'r Mynegai i Ddeddfau Lleol a Phersonol 1797-1849 8.
Yn unol â'r confensiwn a ddefnyddir yn y Tabl Cronolegol o'r Statudau, rhoddir teitl Deddf sydd wedi ei diddymu neu ei dirwyn i ben yn llwyr, neu sydd wedi dod i ben mewn teip italig.
Pan fydd y teitl mewn teip trwm, mae'n dynodi bod y Ddeddf mewn grym neu y gallai fod felly.
Teitlau Gorchmynion a gadarnhawyd gan Ddeddfau Cadarnhau Gorchymyn Dros Dro
Dan bob Deddf Gadarnhau Gorchymyn Dros Dro leol bydd y defnyddiwr yn gweld rhestr lawn o deitlau'r holl Orchmynion a gadarnhawyd gan y Ddeddf. Dangosir teitl Gorchymyn sydd wedi ei ddiddymu yn llwyr mewn teip italig. Pan fydd y teitl mewn teip arferol, maen dynodi bod y Gorchymyn mewn grym neu y gall fod mewn grym.
Mewn gwrthgyferbyniad mae'r Tabl Cronolegol o Statudau yn rhestru'r Gorchmynion sydd wedi eu diddymu yn rhannol neu yn llwyr neu eu diwygio mewn teip arferol yn unig. 9
Enwau lleoedd
Mae sillafiad enwau lleoedd wedi ei foderneiddio a'i gysoni pan oedd angen. O ganlyniad mae sillafiad enwau lleoedd yn y Tabl Deddfau Lleol yn wahanol weithiau i'r rhai yn nheitlau testun printiedig swyddogol y Deddfau eu hunain. Dilynwyd y rheolau pellach canlynol o ran enwau lleoedd:-
(a) Pan fydd gan leoedd gwahanol yr un enw, maent wedi cael eu dynodi trwy ychwanegu (mewn cromfachau) y sir neu ardal berthnasol arall. Rhai enghreifftiau yw Ely (Swydd Gaergrawnt), Ely (Morgannwg); Newport (Ynys Wyth), Newport (Swydd Amwythig). Mae'r cyfeiriadau a roddir yn cyfeirio at y siroedd y sonnir amdanynt yn y Deddfau eu hunain ac nid y siroedd fel y maent wedi eu hailffurfio gan ddeddfwriaeth ddiweddarach. 10
(b) Pan fydd Deddf neu Orchymyn yn ymestyn i fwy nag un sir neu fan, mae'r siroedd neu fannau wedi cael eu dynodi trwy ychwanegu'r cyfeiriadau angenrheidiol mewn cromfachau sgwâr. Un enghraifft yw Derwent Valley Water [Derby, Leicester, Nottingham, Sheffield] Act 1899 (c.cclxix).
Diddymiadau
Pan fydd Deddf, neu ddarpariaethau penodol Deddf wedi cael ei/eu diddymu fwy nag unwaith, mae'r holl ddeddfau diddymu yn cael eu rhestru mewn trefn gronolegol heb sylw.
Pan fydd Deddf wedi cael ei diddymu yn rhannol, ac yna ei diddymu yn llwyr, rhestrir yr holl ddeddfau diddymu yn eu trefn gronolegol 11 Dylid cadw mewn cof nad y ddeddf sy'n diddymu'r Ddeddf yn derfynol o angenrheidrwydd yw’r un sy’n diddymu’r nifer fwyaf o ddarpariaethau'r Ddeddf honno.
Fe ddiddymodd rhai o'r Deddfau lleol a basiwyd o ganlyniad i weithredu adran 262(9) Deddf Llywodraeth Leol 1972 nifer sylweddol o ddeddfau lleol i'r graddau yr oeddynt yn berthnasol mewn ardal llywodraeth leol neilltuol yn unig. 12Pan fu'n bosibl i gasglu mai dim ond yn yr ardal y maent wedi cael eu diddymu yr oedd y deddfau hynny yn berthnasol, neu eu bod wedi cael eu diddymu ar gyfer yr holl ardaloedd lle'r oeddynt yn weithredol, mae eu diddymiad yn cael ei gofnodi yn y Tabl Deddfau Lleol fel un terfynol. Pan nad yw'n sicr a oedd unrhyw ddeddf yn berthnasol tu allan i'r ardal lle mae wedi ei diddymu, neu pan fydd yn glir ei bod yn parhau heb ei diddymu yn un neu fwy o'r ardaloedd lle'r oedd mewn grym yn wreiddiol, mae'r ddeddf yn cael ei thrin fel un sydd wedi ei diddymu yn rhannol a dynodir y cyfyngiad daearyddol ar y diddymiad mewn cromfachau.
'Wedi dirwyn i ben: gweler y Cyflwyniad'
Mae Deddfau Ffyrdd Tyrpeg Cymru a Lloegr sydd â'r nodyn 'Wedi dirwyn i ben: gweler y Cyflwyniad' wedi eu dynodi fel rhai sydd wedi dirwyn i ben ar y sail bod cofnod swyddogol bod yr ymddiriedolaeth tyrpeg olaf wedi dod i ben yn 1895. Am hanes y ffyrdd tyrpeg gweler S & B Webb, The Story of the Kings Highway (1913); W. Albert, The Turnpike Road System in England 1663-1840 (1972).
'Diddymwyd: gweler y Cyflwyniad'
Mae'r Deddfau ffyrdd a phontydd lleol Albanaidd a restrir yn y Tabl Deddfau Lleol sydd â'r cofnod Diddymwyd: gweler y Cyflwyniad wedi cael eu dynodi fel rhai sydd wedi eu diddymu trwy gyfrwng Deddf Ffyrdd a Phontydd (Yr Alban)1878 neu Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1889, i'r graddau y maent mewn grym yn Siroedd yr Alban, a thrwy gyfrwng Deddf Ffyrdd (Yr Alban) 1970 neu Ddeddf Ffyrdd (Yr Alban) 1984 i'r graddau y maent yn berthnasol ym Mwrdeistrefi neu Siroedd neu Ddinasoedd yr Alban. Mae'r cofnod Diddymwyd: gweler y Cyflwyniad wedi ei roi o ran y Deddfau hynny a ddynodwyd felly â'r rhai nad ydynt wedi eu diddymu yn benodol neu pan na ellir pennu pryd y daethant i ben yn foddhaol.
Darpariaethau yn ymestyn cyfyngiadau amser
Hyd at ddiwedd 1929 nodir darpariaethau sy'n ymestyn cyfyngiadau amser fel diwygiadau i'r adrannau dan sylw ac fel parhad rhannol i'r Deddfau dan sylw. Dim ond yr estyniad amser diweddaraf sy'n cael ei ddangos gan y bydd cyfeiriadau at hyn fel arfer yn galluogi i unrhyw estyniadau blaenorol gael eu holrhain.
Ar ôl 1929 mae darpariaethau syn ymestyn cyfyngiadau amser yn cael eu nodi fel diwygiadau yn bennaf.
Y nodyn 'gweler'
Defnyddir y nodyn gweler i dynnu sylw at nifer o wahanol ddarpariaethau sy'n anodd eu cofnodi mewn unrhyw ffordd arall. Enghreifftiau o hyn yw darpariaethau sy'n berthnasol wrth ystyried y ddeddfwriaeth dan sylw ond nad ydynt yn gweithredu yn uniongyrchol arno, y rhai nad yw eu heffeithiau ar ddeddfwriaeth gynharach yn glir neu na ellir eu mynegi yn gryno a'r rhai sy'n gosod cyfyngiadau amser ansicr tra byddant yn parhau neu tra bydd eu darpariaethau yn parhau.
4. Diweddaru’r Tabl Deddfau Lleol
Rhoddir manylion diddymiadau a diwygiadau a wneir i Ddeddfau Lleol - ar ôl 2008, Deddfau Lleol diweddarach neu unrhyw gywiriadau i'r Tabl Deddfau Lleol, ar y safle hwn a fydd yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol. Gweler hefyd adran 6.
5. Cywiriadau a Gohebiaeth
Er bod pob ymdrech bosibl wedi cael ei rhoi i sicrhau cywirdeb y Tabl Deddfau Lleol, mewn gwaith o'r maint hwn mae'n amlwg bod posibl i bethau gael eu gadael allan neu i wallau ddigwydd. Gall manylion unrhyw beth a adawyd allan neu wallau a welir yn y Tabl Deddfau Lleol, neu unrhyw ohebiaeth arall amdano, gael eu cyfeirio at y tîm Gwasanaethau Cyhoeddi. I gael gwybod am argaeledd testun llawn y Deddfau yn y Tabl Deddfau Lleol gweler adran 6 o'r Cyflwyniad hwn.
6. Argaeledd Testun Llawn Deddfau Lleol
Mae testun Deddfau Lleol 1991 - 2008 ar y wefan hon yn awr. Gall copïau unigol gael eu harchebu gan The Stationery Office Ltd.
O ran argaeledd testunau Deddfau Lleol 13 (a Phreifat wedi eu hargraffu) 1797-1990 gall y canlynol fod yn ddefnyddiol gyda'r rhybudd y gall enwau a lleoliadau’r llyfrgelloedd y sonnir amdanynt fod wedi newid.
Prif Gasgliadau o Ddeddfwriaeth Leol yn y Deyrnas Unedig
Deddfau Lleol a Deddfau Seneddol Preifat (Personol)
Lluniwyd y rhestr hon o lyfrgelloedd ac archifdai sy'n cadw casgliadau sylweddol o Ddeddfau Lleol 13 a Deddfau Seneddol Preifat (gan Gomisiwn y Gyfraith yn 1994) o wybodaeth a dderbyniwyd mewn ymateb i hysbysiadau mewn rhai cylchgronau llyfrgell, o ohebiaeth gyda rhai o'r llyfrgelloedd ac archifdai eu hunain ac o D.L Jones a C. Pond, Parliamentary Holdings in Libraries in Britain and Ireland (House of Commons Library 1993). Ar sail y ffynonellau gwybodaeth hynny a'r ohebiaeth honno, mae pob cofnod ar y rhestr yn rhoi syniad bras o faint y casgliad perthnasol.
Mae llawer o'r llyfrgelloedd ac archifdai sy'n cadw casgliadau mawr hefyd yn cadw casgliadau o bwysigrwydd lleol yn unig nad ydynt yn cael eu cofnodi ar y rhestr hon. Ond mae tair rhestr ychwanegol - ar gyfer Cymru a Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn eu tro - yn dynodi llyfrgelloedd ac archifdai syn cadw casgliadau o bwysigrwydd lleol.
Ac eithrio'r Deddfau Gwreiddiol yn Archifdy Ty'r Arglwyddi a'r Deddfau a gofrestrwyd yn yr Archifau Gwladol yn Kew, mae'r casgliadau a restrir yma yn rhai o Ddeddfau wedi eu hargraffu. Ni argraffwyd unrhyw Ddeddfau Preifat yn swyddogol cyn 1797, a pharhaodd nifer felly hyd at 1815. Ar ôl hynny ni argraffwyd y gweddill o Ddeddfau Ysgariad, Enw a Dinasyddio yn swyddogol o gwbl a'r unig destun awdurdodol yw'r Deddfau Gwreiddiol yn yr Archifau Seneddol, Archifdy Ty'r Arglwyddi gynt (M.F. Bond, Guide to the Records of Parliament (1971) td. 102). Argraffwyd rhai Mesurau Preifat, dan y teitl An Act .... yn breifat cyn 1797. Ni ellir derbyn y rhain ond fel testun y Mesur fel y'i pasiwyd, h.y. fel Deddfau, os argreffir dyddiad y Cydsyniad Brenhinol ar y dechrau neu'r diwedd.
Dim ond categorïau penodol o ddefnyddwyr all gael mynediad i nifer o'r llyfrgelloedd a restrir isod. Dylai unrhyw ymholiad yn ymwneud â defnyddio casgliad penodol o Ddeddfau gael ei gyfeirio at y llyfrgell neu archifdy dan sylw.
Llundain
Y Llyfrgell Brydeinig, Gwasanaeth Cyhoeddiadau Swyddogol a Gwyddorau Cymdeithasol
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Deddfau Preifat 1815-1877 a (a gyhoeddwyd gyda'r Deddfau Lleol a Phersonol)
1878 ymlaen.
Llyfrgell Adran yr Amgylchedd
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1800 (anghyflawn); 1801 ymlaen.
Deddfau Preifat 1899 ymlaen.
Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell yr Adran Ddiwydiant a Masnach
Deddfau Lleol 1837 ymlaen.
Llyfrgell Gray’s Inn Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1840 ymlaen.
Archifdy a Llyfrgell Llundain Fwyaf
Deddfau Lleol 1810-1968. Deddfau Preifat 1815-1878.
Llyfrgell Guildhall
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1962 (anghyflawn); 1963 ymlaen.
Deddfau Preifat 1539-1963 (anghyflawn).
Llyfrgell y Swyddfa Gartref
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Llyfrgell Ty’r Cyffredin
Deddfau Lleol 1798 ymlaen. Deddfau Preifat 1779 ymlaen.
Swyddfa Mesurau Preifat Ty’r Cyffredin
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1869 ymlaen.
Llyfrgell Ty’r Arglwyddi
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen. Deddfau Preifat 1885 ymlaen.
Archifau Seneddol (Archifdy Ty’r Arglwyddi gynt)
Deddfau llawysgrif gwreiddiol 1497-1641, 1661-1849; Deddfau Gwreiddiol wedi eu hargraffu 1849 ymlaen. Ar gyfer Ordinhadau 1642-1660 gweler M.F. Bond, Guide to the Records of Parliament (1971), tt.30, 96, 171, 208; C.11. Firth a R.S. Rait, Acts and Ordinances of the Interregnum 1642-1660 (1911); S.Lambert (golygydd), Printing for Parliament 1641-1700 (List and Index Society, Special Series, vol.20 (1984)). Mae Deddfau Lleol a Deddfau Preifat printiedig hefyd ar gael.
Llyfrgell y Deml Fewnol
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Deddfau Preifat 1705-1877 (1792 ac 1794 ar goll).
Llyfrgell Comisiwn y Gyfraith
Deddfau Lleol 1803 (anghyflawn), 1804-1806, 1807 (anghyflawn), 1808-1816, 1817 (anghyflawn), 1818, 1819, 1820 (anghyflawn), 1821-1823, 1824 (anghyflawn), 1825-1862; Deddfau Lleol 1863 (anghyflawn), 1864-1888, 1889 (anghyflawn), 1890 (anghyflawn), 1891 ymlaen. Deddfau Preifat 1816-1818, 1820-1854, 1856-1861, 1863-1875, 1878 ymlaen.
Llyfrgell Cymdeithas y Gyfraith
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen. Deddfau Preifat 1700-1893.
Llyfrgell Lincoln's Inn
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen. Deddfau Preifat 1815-1877. Deddfau Preifat heb eu hargraffu gan Argraffydd y Brenin (yn ymwneud yn bennaf chau tir, stadau ac ati) 1727-1838.
Llyfrgell y Deml Ganol
Deddfau Lleol 1801 ymlaen. Deddfau Preifat 1815 ymlaen.
Llyfrgell Swyddfa Cwnsel Seneddol
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Yr Archifau Gwladol, Kew
Deddfau a Gofrestrwyd. Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen. Deddfau Preifat 1815 ymlaen.
Llyfrgell y Goruchaf Lys
Deddfau Lleol 1801 ymlaen. Deddfau Preifat 1772 ymlaen.
Llyfrgell Cyfreithiwr y Trysorlys
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1839 (anghyflawn); 1840 ymlaen.
Deddfau Preifat 1815-1840.
Llyfrgell Prifysgol Llundain, Senate House
Deddfau Lleol 1830 ymlaen.
Cymru a Lloegr (tu allan i Lundain).
Archifdy Swydd Berkshire, Reading
Deddfau Lleol 1815-1899.
Llyfrgell y Gyfraith y Bodleian, Rhydychen
Deddfau Lleol 1798-1897 (bron yn gyflawn). Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1898 ymlaen. Deddfau Preifat 1716-1762 (anghyflawn), 1763-1897 (anghyflawn).
British Library Document Supply Centre,
Official Publications Department, Boston Spa
Deddfau Lleol 1889 ymlaen.
Cyngor Sir Buckingham
Aylesbury, Adran yr Ysgrifennydd a’r Cyfreithiwr Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen. Casgliad bron yn gyflawn y prif fylchau yn y blynyddoedd 1799-1801, 1810, 1839-1840, 1847-1849 a 1858-1860.
Llyfrgelloedd Swydd Gaergrawnt
Caergrawnt
Deddfau Lleol 1877 ymlaen.
Archifdy Sirol Swydd Gaergrawnt
Caergrawnt
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1826-1973.
Deddfau Preifat 1777, 1794-1800, 1811-1814.
Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1979.
Deddfau Preifat 1714-1817 (anghyflawn).
Archifdy Swydd Gaer
Caer
Deddfau Lleol 1797-1837, 1888-1971 (bron yn gyflawn).
Archifdy Cernyw
Truro
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1972.
Deddfau Preifat 1814-1925.
Archifdy Cumbria
Caerliwelydd
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1805-1876, 1894-1969.
Archifdy Cumbria
Kendal
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1808-1838, 1843, 1910-1972.
Archifdy Sir Ddinbych
Deddfau Lleol 1800-1845 (anghyflawn).
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1848-1957.
Archifdy Swydd Derby
Matlock
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1798-1973.
Archifdy Dyfnaint
Caerwysg
Deddfau Lleol 1816~1979.
Archifdy Sir Durham
Deddfau Lleol 1798-1970.
Archifdy Morgannwg
Caerdydd
Deddfau Lleol 1799-1801, 1802-1845 (anghyflawn), 1846-1971.
Deddfau Preifat 1816, 1818-1841, 1843-1844, 1846, 1848-1864, 1866-1869,
1871-1877, 1879-1889, 1891-1906.
Archifdy Swydd Gaerloyw
Caerloyw
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1974. Deddfau Preifat 1815-1906.
Archifdy Gwent
Cwmbrân
Deddfau Lleol 1815-1972.
Archifdy Swydd Henffordd a Chaerwrangon
Caerwrangon
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Archifdy Swydd Hertford
Hertford
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1873-1965.
Gwasanaeth Archifau Sir Glannau Humber
Beverley
Deddfau Lleol 1804-1974.
Archifdy Swydd Gaerhirfryn
Preston
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1798-1973.
Llyfrgell Prifysgol Caerlŷr
Deddfau Lleol 1853-1972 (anghyflawn), 1972 ymlaen.
Archifdy Lerpwl ac Adran Hanes Lleol
Deddfau Lleol 1810-1818, 1922-1985.
Llyfrgell Ganolog Manceinion
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1802-1904, 1951 ymlaen.
Llyfrgelloedd Norfolk, Llyfrgell Ganolog
Norwich
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1973.
Archifdy Swydd Northampton
Northampton
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1972.
(Dylai ceisiadau ysgrifenedig gael eu nodi at sylw Cyfreithiwr y Sir).
Prif Swyddfa Llyfrgell Swydd Northumberland
Morpeth
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1950, 1951 ymlaen (anghyflawn).
Cyngor Swydd Nottingham
Archifau Swydd Nottingham
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1811-1936.
Llyfrgelloedd Swydd Nottingham
Llyfrgell Ganolog, Nottingham
Deddfau Lleol 1811-1947 (llai 1831-1836), 1971 ymlaen.
Archifdy Sir Benfro
Hwlffordd
Deddfau Lleol 1812-1814 (anghyflawn), 1815, 1816-1824 (anghyflawn), 1825,
1826-1831 (anghyflawn), 1832, 1833-1838 (anghyflawn), 1839-1884 (bron yn
gyflawn), 1887, 1917-1923 (anghyflawn), 1927-1929.
Deddfau Preifat 1816-1824 (anghyflawn), 1825-1885 (bron yn gyflawn), 1899.
Archifdy Swydd Amwythig
Amwythig
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1830-1886 (anghyflawn), 1887-1970.
Archifdy Gwlad yr Haf
Taunton
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1866.
Deddfau Preifat 1815-1889.
Prifysgol Southampton
Llyfrgell Hartley
Deddfau Lleol 1836-1939, ac 1961 ymlaen.
Archifdy Suffolk
Bury St Edmunds
Deddfau Lleol 1806-1831, 1834-1838, 1840-1851, 1901-1970.
Deddfau Preifat 1814-1819, 1821-1823, 1825-1831, 1834-1837, 1840-1843,
1845-1851, 1901-1970.
Archifdy Surrey
Kingston upon Thames
Deddfau Lleol 1809-1971.
Llyfrgell Sirol Dwyrain Sussex
Llyfrgell Cyfeirio, Brighton
Deddfau Lleol 1798 ymlaen.
Archifdy Dwyrain Sussex
Lewes
Deddfau Lleol 1798-1972.
Deddfau Preifat 1816-1922.
Archifdy Gorllewin Sussex
Chichester
Deddfau Lleol 1889-1923.
Deddfau Preifat 1889-1933.
Cyngor Sir Warwick
Neuadd y Sir, Warwick
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Deddfau Preifat 1814-1914.
Llyfrgell Prifysgol Warwick
Adran Cyhoeddiadau Swyddogol Prydeinig, Coventry
Deddfau Lleol 1880 ymlaen.
Y Swyddfa Gymreig
Caerdydd
Deddfau Lleol 1812, 1845-1854 (anghyflawn), 1855-1906 (bron yn gyflawn),
1907-1927 (anghyflawn), 1928-1966, 1967-1986 (anghyflawn), 1987 ymlaen.
Archifdy Swydd Wiltshire
Trowbridge
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1798-1973.
Archifdy Gogledd Swydd Efrog
Northallerton
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1972 (bron yn gyflawn).
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Swydd Efrog
Prif Swyddfa Wakefield
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1815-1982.
Yr Alban
Llyfrgell Prifysgol Aberdeen
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Llyfrgell yr Eiriolwyr
Caeredin (ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Caeredin)
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Llyfrgell Prifysgol Caeredin
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Llyfrgell Prifysgol Glasgow
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1797 (38 Geo.3) ymlaen, Deddfau Albanaidd yn unig.
Llyfrgell Mitchell
Glasgow
Deddfau Lleol a Deddfau Preifat 1895-1922, 1923-1956 (anghyflawn), 1957 ymlaen.
Llyfrgell Prifysgol St. Andrews
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) ymlaen.
Deddfau Preifat 1815-1885.
Archifdy’r Alban
Caeredin
Deddfau Lleol 1797 (38 Geo.3) - 1884 (bron yn gyflawn). Deddfau Preifat
1815-1884.
Llyfrgell Cyfreithwyr Swyddfa’r Alban
Caeredin
Deddfau Lleol 1900 ymlaen. Am y cyfnod 1900-1971 Deddfau Lleol yr Alban yn unig
a gedwir.
Llyfrgell Signet
Caeredin
Deddfau Lleol 1801 ymlaen. Deddfau Preifat 1815 ymlaen.
Gogledd Iwerddon
Llyfrgell y Cynulliad
Stormont
Deddfau Lleol 1810, 1812, 1813, 1815, 1816, 1821, 1822, 1826, 1828-1835, 1837,
1839, 1854, 1862-1864, 1873-1901, 1903 ymlaen. Deddfau Lleol a Phersonol a
basiwyd gan Senedd Gogledd Iwerddon 1921-1972.
Daliadau o bwysigrwydd lleol yn unig (Llundain, Cymru a Lloegr)
- Archifdy Swydd Bedford, Bedford
- Llyfrgelloedd Birmingham, Astudiaethau a Hanes Lleol
- Llyfrgelloedd a Chelfyddydau Bolton, Llyfrgell Ganolog
- Llyfrgell Ganolog Bradford, Adran Astudiaethau Lleol
- Llyfrgell Ganolog Bryste
- Archifdy Bryste
- Llyfrgell Burton-upon-Trent
- Archifdy’r Caer, Archifdy’r Ddinas
- Llyfrgell Ganolog Coventry, Llyfrgell Astudiaethau Lleol
- Archifdy Dinas Coventry
- Llyfrgelloedd Dyfnaint, Llyfrgell Cyfeirio Canolog, Plymouth
- Archifdy Essex, Chelmsford
- Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd Gwynedd, Archifdy Caernarfon
- Archifdy Swydd Hampshire, Winchester
- Archifdy Hull, Hull
- Cyngor Swydd Gaint, Canolfan Astudiaethau Caint, Maidstone
- Bwrdeistref Llundain Lambeth, Adran Archifau
- Llyfrgelloedd Dinas Leeds, Llyfrgell Cyfeirio
- Archifdy Swydd Gaerlyr, Wigston Magna
- Archifdy Corfforaeth Llundain, Guildhall
- Adran Gelfyddydau a Hamdden Salford
- Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Sheffield, y Llyfrgell Ganolog
- Llyfrgell Astudiaethau Lleol - Archifau Sheffield
- Llyfrgell Ganolog Stockport, Llyfrgell Treftadaeth Leol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
- Dinas Westminster
- Canolfan Archifau
- Llyfrgell Cyfeirio
Daliadau o bwysigrwydd lleol yn unig (Yr Alban)
Llyfrgelloedd Ardal Dinas Dundee
Llyfrgelloedd Ardal Dinas Caeredin
Daliadau o bwysigrwydd lleol yn unig (Gogledd Iwerddon)
Prifysgol Queens, Belfast, Adran Cyhoeddiadaur Llywodraeth, Prif Lyfrgell
Deddfwriaeth Leol Isradd
Yn aml bydd Deddfau Lleol yn cael eu diddymu neu eu diwygio gan Reolau a Gorchmynion Statudol lleol ac Offerynnau Statudol lleol. Yn gyffredinol mae manylion diddymiadau a diwygiadau o'r fath yn anodd eu holrhain oherwydd dim ond rhifau, teitlau a phwnc y gorchmynion ac offerynnau lleol hynny y mae rhifynnau blynyddol y Rheolau a Gorchmynion Statudol a gyhoeddwyd rhwng 1890 a 1947 a'r Offerynnau Statudol a gyhoeddwyd rhwng 1948 a 1988 yn eu rhestru ond nid ydynt yn cynnwys y testun. Ar ôl 1988 mae'r rhifyn blynyddol o'r Offerynnau Statudol yn cynnwys testun offerynnau lleol dethol. Gallwch gael copïau o offerynnau lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan HMSO o'r swyddfa honno.
Ni chanfuwyd rhestr gynhwysfawr o destun Rheolau a Gorchmynion Statudol lleol am y cyfnod 1890-1921 hyd yn hyn. Cedwir y casgliadau mwyaf cynhwysfawr o destun gorchmynion ac offerynnau lleol am y Cyfnod ar ôl 1922 gan yr Archifdy Cenedlaethol, Ruskin Avenue, Kew, Richmond, Surrey TW9 4DU (Ffôn: 020 8876 3444) a Gwasanaeth Cyhoeddiadau Swyddogol a Gwyddor Gymdeithasol y Llyfrgell Brydeinig, 96 Euston Road, London, NW1 2DB (Ffôn 020 7412 7000). 14
Mae Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth y Cyfreithiwr, yr Adran Ddiwydiant a Masnach, 10-18 Victoria Street, London SW1H ONN (Ffôn 020 7215 3039) yn cadw testun gorchmynion ac offerynnau lleol a wnaed gan y Bwrdd Masnach rhwng 1920 a 1945 a gorchmynion ac offerynnau lleol yn gyffredinol a wnaed rhwng 1946 a 1987.
[1] Olynwyd y Pwyllgor Cyfraith Statudol yn 1991 gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyfraith Statudol y mae ei aelodau yn cael eu rhestru yn Dod's Parliamentary Companion a Whitakers Almanack. [ yn ôl ]
[2] gweler: Report on the Chronological Table of Local Legislation (1996) Law Com No 241; Scot Law Com No 155; Cm 3301. [ yn ôl ]
[3] Mae'r fersiwn ar-lein hon o'r Tabl Deddfau Lleol yn ymgorffori'r atodiadau blynyddol cronnol 1995-2000 a baratowyd gan Adran Gyhoeddiadau Statudol Llyfrfa Ei Mawrhydi a gymerodd gyfrifoldeb yn Ebrill 1997 am Dabl y Swyddfa Gyhoeddiadau Statudol a Chomisiwn y Gyfraith. [ yn ôl ]
[4] Hyd ddiwedd 1867 roedd Deddfau Cadarnhau Gorchmynion Dros Dro yn cael eu cynnwys yn y Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol. Wedi eu cynnwys yn y Tabl hwn mae 1) Deddfau Cadarnhau Gorchmynion Dros Dro a elwir yn Ddeddfau Cyhoeddus o Nodwedd Leol (1868-1963) a Deddfau Cadarnhau Gorchmynion Dros Dro 1964-1980 a 2) Deddfau yn cadarnhau Gorchmynion Dros Dro a wnaed dan Ddeddf Gweithdrefn Deddfwriaeth Breifat (Yr Alban) 1899 neu dan Ddeddf Gweithdrefn Deddfwriaeth Breifat (Yr Alban) 1936 y ddeddf i gyfuno. [ yn ôl ]
[5] Ni fu'n bosibl cofnodi effeithiau'r holl ddeddfwriaeth leol isradd yn y Tabl Deddfau Lleol. Ni chanfuwyd rhestr gynhwysfawr o destun Rheolau a Gorchmynion Statudol lleol am y cyfnod 1890-1921 hyd yn hyn. Y Swyddfa Cyhoeddiadau Statudol sy'n cadw'r casgliad cynhwysfawr hawsaf ei gyrraedd o orchmynion ac offerynnau lleol am y cyfnod ar ôl 1922, ond mae bylchau yn y casgliad hwnnw, yn fwyaf arbennig ar gyfer 1942, 1950, 1951 a rhan o 1952 (Offerynnau Statudol 1994 (HMSO 1995), Rhan 1, Adran 1, t.vii). Gweler hefyd y nodyn am Ddeddfwriaeth Leol Isradd isod. [ yn ôl ]
[6] Enghreifftiau o'r rhain yw: Electricity Act 1947, ss.57(3) proviso, 57(7); Gas Act 1948, ss.56(2) proviso, 67(2), 76; Public Utilities Street Works Act 1950, ss.15(3), 17(2), 24(2); Transport Charges &c. (Miscellaneous Provisions) Act 1954, s.14(2)-(5); Local Government Act 1972, s.262(9); Local Government (Scotland) Act 1973, s.225(6); Water Act 1973, s.30(9)(10); New Roads and Street Works Act 1991, ss.101(1)-(3), 160(1)-(3). [ yn ôl ]
[7] Cyhoeddir y gwaith hwn yn flynyddol ar ffurf gronnol gan The Stationery Office Limited. Trefnir rhifynnau modern mewn pedair adran yn cynnwys: 1. Deddfau'r Seneddau yn San Steffan o 1235 ymlaen fel yr oeddynt yn effeithio ar Brydain Fawr ond heb gynnwys y gyfres o Ddeddfau preifat (1539 ymlaen) ar gyfres o Ddeddfau lleol a phersonol (1797 ymlaen). 2. Deddfau Seneddau'r Alban (1424-1707). 3. Deddfau Senedd yr Alban (1999 ymlaen). 4. Mesurau Cynulliad yr Eglwys (1920-1971) a Mesurau'r Synod Cyffredinol (1972 ymlaen). Mae Tabl Cronolegol o Statudau Gogledd Iwerddon ar wahân wedi ei drefnu mewn pedair rhan, sy'n cynnwys deddfwriaeth Wyddelig o 1310 ymlaen a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig fel y mae'n effeithio ar Ogledd Iwerddon. Cyhoeddir yn flynyddol ar ffurf cronnol gan Lyfrfa Ei Mawrhydi.[ yn ôl ]
[8] HMSO 1996 ISBN 0 11 043003 4 a The Stationery Office Ltd 1999 ISBN: 0 11 043003 4 yn eu tro. Mae'r Mynegai yn Nhrefn yr Wyddor gyda chroesgyfeiriadau hefyd yn cynnwys teitlau y Deddfau Preifat rhwng 1850 a 1995. Lluniwyd y mynegai (Rosemary Devine) yn Swyddfa Mesurau Preifat, Ty’r Arglwyddi' [ yn ôl ]
[9] Mae'r Tabl Cronolegol o Statudau yn rhoi manylion diddymiadau a diwygiadau i Orchmynion a gadarnhawyd gan Ddeddfau Cadarnhau Gorchmynion Dros Dro oedd yn cael eu cynnwys yn y Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol hyd ddiwedd 1867. [ yn ôl ]
[10] e.e. Deddf Llywodraeth Leol 1972; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994. [ yn ôl ]
[11] Yn wahanol i hynny, mae'r Tabl Cronolegol o Statudau yn gyffredinol yn rhestru pan fydd y Ddeddf dan sylw wedi ei diddymu yn llwyr. Gellir dod o hyd i ddiddymiadau rhannol cynharach o'r Deddfau sydd wedi eu cofnodi fel rhai sydd wedi eu diddymu yn llwyr yn y Tabl Cronolegol o Statudau yn y rhifynnau cynharach o'r gwaith hwnnw. Cofnodir manylion o'r fath ar gyfer Deddfau Lleol yn y Tabl hwn gan na fyddent fyth yn cael eu cofnodi o gwbl fel arall. [ yn ôl ]
[12] e.e. Cheshire County Council Act 1980 (c.xiii), s. 112(1), sch.3 pt.l; West Yorkshire Act 1980 (c.xiv), s.95(1), sch.5 pt.l; Derbyshire Act 1981 (c.xxxiv), s.65(1), sch.6 pt.1. [ yn ôl ]
[13] Rhwng 1797 a 1869 roedd Deddfau Lleol yn swyddogol yn cael eu galw yn 'Ddeddfau Lleol a Phersonol' (gweler adran 3 uchod) a gofynnir i ymchwilwyr gadw hyn mewn cof wrth wneud ymholiadau mewn llyfrgelloedd y Gyfraith. [ yn ôl ]
[14] Mae bylchau yn y casgliadau yma yn fwyaf arbennig ar gyfer 1942, 1950, 1951 a rhan o 1952 (Offerynnau Statudol 1992 (HMSO 1994), Rhan 1, Adran 1, p.vii). [ yn ôl ]