Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 4

ATODLEN 1Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): Ffioedd

Tabl 1

Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad ieir neu dyrcwn, y mae sampl swyddogol wedi ei chymryd ohono, ei phrosesu a’i harchwilio at ddibenion Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd yn cael sampl reoli swyddogol i’w harchwilio mewn

labordy (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a bennir isod oni phennir fel arall yng ngholofn 2)

9 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 84
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir dodwy32
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir neu dyrcwn bridio52
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) neu haid o dyrcwn pesgi72
Archwilio sampl reoli swyddogol mewn labordy14 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy73
Cynnal arolygiadau a gwaith sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyferUn prawf350
Dau brawf361
Tri phrawf372
Pedwar prawf384
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno34 am bob prawf

Tabl 3

Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am brofion a gynhelir o dan y protocol samplu ym mhwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid99
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid2,470
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid3,080

Rheoliad 5

ATODLEN 2Y cynllun iechyd dofednod: Ffioedd

Tabl 1

Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion y cynllun iechyd dofednod

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2)16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) at ddibenion y gweithgareddau isod21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Cofrestriad blynyddol fel aelod o gynllun55 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol27
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol56
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol31
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol54 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol29 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

Tabl 2

Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyo at ddiben y cynllun iechyd dofednod

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy73
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae)131 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum)321 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn ieir (gallisepticum)321 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis)281 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn (gallisepticum a meleagridis)336 am bob prawf

Rheoliad 6

ATODLEN 3Semen buchol: Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau 2008

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod)16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Ystyried cais i gymeradwyo anifail buchol o dan reoliadau 7 neu 10 o Reoliadau 2008 i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu20
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE26
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin CE o dan reoliad 4 o Reoliadau 200829
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu CE neu ddomestig, neu ganolfan storio CE neu ddomestig o dan reoliad 4 o Reoliadau 200827
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 200817
Cynnal archwiliad rheolaidd o anifail buchol cymeradwy at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE o dan reoliad 33 o Reoliadau 200823

Rheoliad 7

ATODLEN 4Semen moch: Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1964 a Rheoliadau 1992

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod)16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126

Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial

Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen31 am bob baedd

Profi baedd yn rheolaidd

Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial23 am bob baedd

Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial

Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial27
Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth)25
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial17

Rheoliad 8

ATODLEN 5Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1995

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol wrth gyflawni’r gweithgareddau a restrir yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod)16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126

Ystyried cais i gymeradwyo neu ailgymeradwyo:

  • tîm trosglwyddo embryonau buchol;

  • storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;

  • storfa o dan reoliad 16 o Reoliadau 1995;

  • storfa, a goruchwylydd y storfa honno, o dan reoliadau 16 a 19 o Reoliadau 1995; neu

  • un tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol (gan gynnwys arolygu labordy neu beidio)

28
Ystyried cais gan yr un ceisydd i gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol pan gaiff yr arolygiad ei gwblhau ar yr un diwrnod9
Ystyried cais i ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau25
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarolygu un labordy neu storfa17
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol, ac ailarolygu pob labordy neu storfa ychwanegol4 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol

Rheoliad 9

ATODLEN 6Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn arolygfeydd ffin: Ffioedd

Tabl 1

Ffioedd am arolygu llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennau mewnforio mewn arolygfeydd ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011

Colofn 1

Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau

Colofn 2

Ffi (£) am bob llwyth

Dofednod ac adar hela bach65
Wyau dofednod38
Ratidau65
Adar caeth64
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol a gwenyn32
Cwningod a chnofilod29
Pryfed eraill, infertebratau, ymlusgiad ac amffibiaid26
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad57
Equidae62
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt146
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall55
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho52

Tabl 2

Ffioedd ychwanegol ar gyfer arolygiadau penodol

Colofn 1

Y cyfnod pryd y cynhaliwyd yr arolygiad

Colofn 2

Ffi (£) am bob llwyth(2)

(1)

ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith.

(2)

ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio.

(3)

ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1).

Arolygiad y tu allan i oriau(1)140 am bob llwyth(2)
Arolygiad yn ystod penwythnos neu ŵyl gyhoeddus(3)185 am bob llwyth(2)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad

Tabl 3

Ffioedd ar gyfer gwiriadau ychwanegol oherwydd achosion o beidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol

Colofn 1

Y personau sy’n ymgymryd â’r gwiriad ychwanegol

Colofn 2

Ffi (£) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd

(1)

ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith.

(2)

ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol1971.

Swyddog milfeddygol – gwiriadau y tu allan i oriau(1)17
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus(2)23
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar bob adeg arall11
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre16, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources