- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
22 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mai 2018
Yn dod i rym
30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(3);
(b)adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(4) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(5); ac
(c)adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(6).
Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11 o Reoliadau 2011;
ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC, ac Atodiad II iddi, ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd(7), ac a weithredir gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 2011;
ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol;
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(8);
ystyr “Rheoliadau 1964” (“the 1964 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964(9);
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992(10);
ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995(11);
ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(12);
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(13);
ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru; ac
ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
3. Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd y gyfran honno o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
4.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonela yn unol â’r rhaglen reoli genedlaethol berthnasol a sefydlwyd gan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor, neu oddi tano, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd(14).
(2) Yn Atodlen 1—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 1 yr un ystyr ag yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
5.—(1) Mae Atodlen 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod(15).
(2) Yn Atodlen 2—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
6.—(1) Mae Rheoliadau 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—
“41. Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 6(3) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018.”
(3) Mae Atodlen 3 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2008; ac yn unol â hynny mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(4) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 3 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2008.
7.—(1) Mae Atodlen 4 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau o dan Reoliadau 1964 neu Reoliadau 1992, a phrofion ac archwiliadau a gynhelir o dan y Rheoliadau hynny.
(2) Yn Atodlen 4 mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliad trwydded neu gymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” yw mangre—
(a)y mae trwydded mewn grym mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b)sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
8.—(1) Mae Atodlen 5 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995.
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995 am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 5 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 1995.
9.—(1) Mae Atodlen 6 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy pan gynhelir arolygiadau mewn arolygfeydd ffin o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011.
(2) Yn Atodlen 6—
(a)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygu llwyth o anifeiliaid byw a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygiadau a gynhelir yn ystod cyfnod a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a);
(c)mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriadau ychwanegol oherwydd peidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol gan berson a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a).
10. Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013(16) wedi eu dirymu, ac eithrio rheoliadau 1, 4 a 7(1) i (3).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
Rheoliad 4
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Amser a dreuliwyd yn cael sampl reoli swyddogol i’w harchwilio mewn labordy (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a bennir isod oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 9 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 84 |
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir dodwy | 32 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir neu dyrcwn bridio | 52 |
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) neu haid o dyrcwn pesgi | 72 |
Archwilio sampl reoli swyddogol mewn labordy | 14 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) | |
---|---|---|
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 73 | |
Cynnal arolygiadau a gwaith sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyfer | Un prawf | 350 |
Dau brawf | 361 | |
Tri phrawf | 372 | |
Pedwar prawf | 384 | |
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno | 34 am bob prawf |
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid | 99 |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid | 2,470 |
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid | 3,080 |
Rheoliad 5
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2) | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) at ddibenion y gweithgareddau isod | 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126 |
Cofrestriad blynyddol fel aelod o gynllun | 55 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 27 |
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 56 |
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol | 31 |
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 54 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol | 29 (nid yw’r ffi amser yn gymwys) |
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy | 73 |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae) | 131 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum) | 321 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn ieir (gallisepticum) | 321 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) | 281 am bob prawf |
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn (gallisepticum a meleagridis) | 336 am bob prawf |
Rheoliad 6
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126 |
Ystyried cais i gymeradwyo anifail buchol o dan reoliadau 7 neu 10 o Reoliadau 2008 i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu | 20 |
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE | 26 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin CE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 29 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu CE neu ddomestig, neu ganolfan storio CE neu ddomestig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 | 27 |
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 | 17 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o anifail buchol cymeradwy at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE o dan reoliad 33 o Reoliadau 2008 | 23 |
Rheoliad 7
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126 |
Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial | |
Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen | 31 am bob baedd |
Profi baedd yn rheolaidd | |
Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial | 23 am bob baedd |
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial | |
Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | 27 |
Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth) | 25 |
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | 17 |
Rheoliad 8
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol wrth gyflawni’r gweithgareddau a restrir yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod | 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126 |
Ystyried cais i gymeradwyo neu ailgymeradwyo:
| 28 |
Ystyried cais gan yr un ceisydd i gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol pan gaiff yr arolygiad ei gwblhau ar yr un diwrnod | 9 |
Ystyried cais i ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau | 25 |
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarolygu un labordy neu storfa | 17 |
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol, ac ailarolygu pob labordy neu storfa ychwanegol | 4 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol |
Rheoliad 9
Colofn 1 Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau | Colofn 2 Ffi (£) am bob llwyth |
---|---|
Dofednod ac adar hela bach | 65 |
Wyau dofednod | 38 |
Ratidau | 65 |
Adar caeth | 64 |
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol a gwenyn | 32 |
Cwningod a chnofilod | 29 |
Pryfed eraill, infertebratau, ymlusgiad ac amffibiaid | 26 |
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad | 57 |
Equidae | 62 |
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | 146 |
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall | 55 |
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho | 52 |
Colofn 1 Y cyfnod pryd y cynhaliwyd yr arolygiad | Colofn 2 Ffi (£) am bob llwyth(2) |
---|---|
(1) ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith. | |
(2) ystyr “llwyth” yw un neu ragor o lwythi o anifeiliaid sy’n tarddu o’r un wlad, sydd wedi cyrraedd ar yr un cyfleuster cludo, ac wedi eu cyflwyno ar gyfer eu gwirio yn yr arolygfa ffin ar yr un pryd, gan berson sy’n gyfrifol am eu mewnforio. | |
(3) ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(17). | |
Arolygiad y tu allan i oriau(1) | 140 am bob llwyth(2) |
Arolygiad yn ystod penwythnos neu ŵyl gyhoeddus(3) | 185 am bob llwyth(2) |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad |
Colofn 1 Y personau sy’n ymgymryd â’r gwiriad ychwanegol | Colofn 2 Ffi (£) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd |
---|---|
(1) ystyr “y tu allan i oriau” yw cyn 8.30 a.m. neu ar ôl 5 p.m. ar ddiwrnod gwaith. | |
(2) ystyr “gŵyl gyhoeddus” yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol1971. | |
Swyddog milfeddygol – gwiriadau y tu allan i oriau(1) | 17 |
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus(2) | 23 |
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar bob adeg arall | 11 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre | 16, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad |
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid, gan ddisodli’r ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1241 (Cy. 133)). Cesglir y ffioedd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn daladwy mewn perthynas â gweithgareddau sy’n ofynnol o dan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd (OJ Rhif L 325, 12.12.2003, t. 1) ac yn unol â Rhaglenni Cenedlaethol Rheoli Salmonela ar gyfer dofednod.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at ddiben y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 6 ac Atodlen 3 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen buchol yn unol â Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040 (Cy. 110)), a ddiwygir gan reoliad 6.
Mae’r ffioedd yn rheoliad 7 ac Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gael semen moch yn unol â Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964 (O.S. 1964/1172) a Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992 (O.S. 1992/3161).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 8 ac Atodlen 5 yn daladwy mewn perthynas â chymeradwyaethau at y diben o gasglu, cynhyrchu a throsglwyddo embryonau buchol, yn unol â Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995 (O.S. 1995/2478).
Mae’r ffioedd yn rheoliad 9 ac Atodlen 6 yn daladwy mewn perthynas ag arolygu llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd ffin, yn unol â Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.
Mae rheoliad 10 yn dirymu’r darpariaethau ffioedd presennol yn Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013.
Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn cynrychioli costau llawn adennill ffioedd, ac mae rhai o’r ffioedd yn gynnydd ar y ffioedd presennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan erthygl 6(1)(e) o O.S. 2011/1043.
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1984 p. 40; mae adran 10(8) yn diffinio’r “appropriate Minister” o ran Cymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion adran 10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74, fel y’u diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn Rhif 2011/879/EU (OJ Rhif L 345, 23.12.2011, t. 105).
1966 p. 36. Diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919, a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824, a pharagraff 2(a) a (b) o’r Atodlen iddo.
O.S. 1964/1172, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/2478, y ceir diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2008/1040 (Cy. 110); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/398 (Cy. 48) ac O.S. 2013/1241 (Cy. 133).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela ar gyfer ieir dodwy sy’n cynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl, ieir bridio, brwyliaid a thyrcwn; cynlluniwyd y rhaglenni i leihau nifer yr achosion o wahanol fathau o Salmonela sy’n arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd, yn unol â thargedau’r UE.
Mae’r cynllun iechyd dofednod yn cynnig system gofrestru a chymeradwyo sy’n galluogi sefydliadau i wirhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth yr UE fel eu bod yn gymwys wedyn i allforio mwy nag 20 o gywion neu wyau deor i Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Yn ychwanegol, mae’n darparu ar gyfer cynnal profion ar hyfedredd y labordai sy’n profi samplau ar ran aelodau’r cynllun iechyd dofednod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: