Search Legislation

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 357 (Cy. 87)

Caffael Tir, Cymru

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

8 Mawrth 2017

Yn dod i rym

6 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7 a 15 o Ddeddf Caffael Tir 1981(1) a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

(2Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Diwygiadau i Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004

2.—(1Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—

(a)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(4) y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.

(4B) At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.;

(b)ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.

(3Yn yr Atodlen—

(a)yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—

Ffurf 9AFfurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod;

(b)ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

(c)yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

(d)yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2017

YR ATODLEN

Reheoliad 2(3)(b)

RHAN 1

Rheoliad 2(3)(c)

RHAN 2

Rheoliad 2(3)(d)

RHAN 3

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) (O.S. 2004/2732 (Cy. 239)). Deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

Mae rheoliad (2) yn diwygio Rheoliadau 2004 i ragnodi ffurfiau ychwanegol at ddibenion Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) (“DCT 1981”). At ddibenion adran 15(4)(e) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) yw Rhan 1 o Ffurf 9A newydd. At ddibenion adran 15(4)(f) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod caffael yw Rhan 2 o Ffurf 9A newydd.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod Ffurf 9A newydd (yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn) yn yr Atodlen i Reoliadau 2004.

Mae rheoliad (c) yn disodli Ffurf 10 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad (d) yn disodli Ffurf 11 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(1)

1981 p. 67; mewnosodwyd adran 15 a pharagraff 6 o Atodlen 1 gan adrannau 100(1) a (7) a 101(1) a (5), yn y drefn honno, o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Mewnosodwyd adran 15(4)(e) ac (f) a pharagraff 6(4)(e) ac (f) gan baragraffau 1, 2(1) a (2), a 3(1) a (2) o Atodlen 15 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau o dan adran 7(2) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) i’r graddau yr oedd yn arferadwy yn unig mewn perthynas â gorchmynion o’r fath sydd i’w gwneud neu i’w cadarnhau gan y Cynulliad. Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources