- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
(2) Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.
2.—(1) Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—
(a)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(4A) At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(2) y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.
(4B) At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.”;
(b)ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a)yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—
“Ffurf 9A | Ffurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod”; |
(b)ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(c)yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(d)yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: