Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1GORCHMYNION ETC MEWN PERTHYNAS Å GOFAL PLANT

1.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal).

2.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio).

3.  Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(1) (gorchymyn gofal).

4.  Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(2) (gorchymyn person cymwys neu orchymyn gofal arbennig).

5.  Gorchymyn a wneir yn dilyn cais fel a ganiateir o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2009(3) (gorchymyn rhianta cymunedol).

6.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001(4) (Deddf Tynwald).

7.  Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(5).

8.  Unrhyw orchymyn y byddid wedi ei ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o'r Ddeddf i rym(6).

9.  Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol)(7).

10.  Gorchymyn person cymwys, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(8).

11.  Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(9).

12.  Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(10).

13.  Gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

14.  Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n gosod gofyniad goruchwylio mewn perthynas â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(11); neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(12).

15.  Gorchymyn, a wneir ar unrhyw adeg, sy'n breinio hawliau a phwerau P mewn perthynas â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(13); neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(14).

16.  Mewn perthynas â chofrestru cartref i blant—

(a)gwrthod cais gan P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(15);

(b)diddymu cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(c)diddymu cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y bu P yn ymwneud â'i reoli neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo; neu

(ch)gwrthod cais gan P i gofrestru neu ddiddymu cofrestriad P o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(16).

17.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ddiddymu cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a fu'n cael ei redeg gan P, neu y bu P rywfodd arall yn ymwneud â'i reoli, neu y bu gan P fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl fel y digwydd–

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(17);

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(18);

(ch)erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(19) (gwasanaethau cartrefi gofal); neu

(dd)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

18.  Gwaharddiad a osodwyd ar unrhyw adeg o dan—

(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(20) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(21);

(b)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat);

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(22); neu

(ch)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod cyfyngiadau ar faethu preifat).

19.  Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (atal caniatâd i berson ymgymryd â gofalu am y plentyn a'i gynnal).

20.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cofrestriad mewn perthynas â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru felly, neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan—

(a)adran 1 neu adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(23);

(b)Rhan 10 neu Ran 10A o'r Ddeddf(24);

(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(25);

(ch)Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)adran 11(5) neu adran 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001;

(e)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974 (Deddf Tynwald);

(f)adran 65 neu 66 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno; neu

(ff)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972(26).

21.  Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(27).

22.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru, neu ddiddymu cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl ac eraill)(28).

23.  Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o'r fath o dan adran 12 neu 18 o'r Ddeddf honno.

24.  Cynnwys enw P, ar unrhyw adeg, ar restr o bersonau anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003(29), neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod II o Ran II o'r Gorchymyn hwnnw.

Rheoliad 3(5)

ATODLEN 2Tramgwyddau Statudol a Ddiddymwyd

1.—(1Tramgwydd o dan unrhyw un o'r adrannau canlynol o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956(30)

(a)adran 1 (treisio)(31);

(b)adran 2 neu 3 (caffael benyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

(c)adran 4 (gweini cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

(ch)adran 5 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 13);

(d)adran 6 (cyfathrach rywiol gyda geneth o dan 16)(32);

(dd)adran 14 neu 15 (ymosod yn anweddus);

(e)adran 16 (ymosod gyda bwriad o gyflawni sodomiaeth);

(f)adran 17 (cipio benyw drwy rym neu er mwyn ei heiddo);

(ff)adran 19 neu 20 (cipio geneth o dan 18 neu 16);

(g)adran 24 (cadw benyw yn gaeth mewn puteindy neu fangre arall);

(ng)adran 25 neu 26 (caniatáu i eneth o dan 13, neu rhwng 13 ac 16, ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol)(33);

(h)adran 28 (peri neu annog puteinio geneth o dan 16 oed, neu gyfathrach rywiol gyda hi, neu ymosod yn anweddus arni).

(2Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(34).

(3Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (annog geneth o dan 16 i gyflawni llosgach)(35).

(4Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(36).

(5Tramgwydd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat)(37).

(6Tramgwydd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5, neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(38).

2.  Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os ceir bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol, yn erbyn plentyn neu'n ymwneud â phlentyn—

(a)adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol);

(b)adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol);

(c)adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn);

(ch)adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw);

(d)adran 12 o'r Ddeddf honno (sodomiaeth)(39) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o sodomiaeth yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(dd)adran 13 o'r Ddeddf honno (anwedduster rhwng dynion)(40) ac eithrio pan oedd y parti arall yn y weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi cydsynio i'r weithred;

(e)adran 21 o'r Ddeddf honno (cipio person diffygiol oddi ar riant neu warcheidwad);

(f)adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio benywod);

(ff)adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael geneth o dan 21);

(g)adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol);

(ng)adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol);

(h)adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra);

(i)adran 31 o'r Ddeddf honno (benyw yn arfer rheolaeth ar butain);

(j)adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(41);

(l)adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrywiol)(42);

(ll)adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw);

(m)adran 9(1)(a) o Ddeddf Lladrata 1968 (bwrgleriaeth); neu

(n)tramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd a bennir yn is-baragraffau (a) i (m).

Rheoliad 3(7)

ATODLEN 3TRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr

1.—(1Tramgwydd o dan adran 49 neu 50(9) o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal).

(2Tramgwydd o dan adran 79C, 79D, 79E neu 79F o'r Ddeddf (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant neu ofal dydd).

(3Tramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 2003—

(a)adran 62 neu 63 (cyflawni tramgwydd neu dresmasu gyda bwriad o gyflawni tramgwydd rhywiol);

(b)adran 64 neu 65 (rhyw gyda pherthynas sy'n oedolyn);

(c)adran 69 (cyfathrach rywiol ag anifail); neu

(ch)adran 70 (treiddio'n rhywiol i gorff marw).

(4Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000—

(a)adran 11(1) (methu â chofrestru);

(b)adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau);

(c)adran 25 (mynd yn groes i reoliadau);

(ch)adran 26 (disgrifiadau ffug o sefydliadau ac asiantaethau); neu

(d)adran 27 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).

Tramgwyddau yn yr Alban

2.—(1Tramgwydd o dreisio.

(2Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(43).

(3Y tramgwydd cyfraith gyffredin plagiwm (lladrata plentyn sydd o dan oed aeddfedrwydd).

(4Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)(44).

(5Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(45).

(6Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau llochesu)(46);

(b)adran 6 o Ddeddf Cipio Plant 1984 (cymryd neu anfon plentyn allan o'r Deyrnas Unedig)(47); neu

(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat).

(7Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â sefydliadau preswyl ac eraill)(48).

(8Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(49)

(a)adran 21 (tramgwyddau mewn perthynas â chofrestru);

(b)adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu

(c)adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

3.—(1Tramgwydd o dreisio.

(2Tramgwydd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003.

(3Tramgwydd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(50).

(4Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.

(5Tramgwydd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)(51).

(6Tramgwydd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (annog geneth o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(52).

(7Tramgwydd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)(53).

(8Tramgwydd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).

(9Tramgwydd o dan Ran 3 o Orchymyn Tramgwyddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (tramgwyddau rhywiol yn erbyn plant).

(10Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau mewn perthynas â chipio plentyn mewn gofal);

(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd)(54);

(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â maethu preifat); neu

(ch)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau mewn perthynas â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

Tramgwyddau yn Jersey

4.  Tramgwydd yn groes i—

(a)Rhan 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969(55);

(b)Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(56); neu

(c)Cyfraith Gofal Dydd i Blant (Jersey) 2002(57).

Tramgwyddau yn Guernsey

5.  Tramgwydd yn groes i—

(a)y “Loi pour la Punition d'Inceste” (Cyfraith ar gyfer Cosbi Llosgach) 1909(58);

(b)y “Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures” (Cyfraith ar gyfer Amddiffyn Benywod a Genethod Ifanc) 1914(59);

(c)y “Loi relative à la Sodomie” (Cyfraith mewn perthynas â Sodomiaeth) 1929(60);

(ch)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, adran 1 o erthygl 41 neu adran 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o'r “Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes” (Cyfraith mewn perthynas ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(61);

(d)Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;

(dd)Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(62).

Tramgwyddau yn Ynys Manaw

6.  Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

Tramgwyddau eraill

7.—(1Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(63) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(64) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan fo'r nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

(2Tramgwydd yn rhinwedd—

(a)adran 72 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (tramgwyddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig); neu

(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Droseddol (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni tramgwyddau rhywiol penodol y tu allan i'r Deyrnas Unedig)(65).

(3Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (caethiwo absenolwyr)(66).

(2)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI t.34. Diwygiwyd adran 3 gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 1971, Cyfrol XXIII t.3 a chan Gyfraith Llys Ieuenctid (Guernsey) 1989, Cyfrol XXXI t.326.

(3)

Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIV 2009.

(4)

2001 p.20 (Ynys Manaw).

(5)

Cyfraith Jersey 50/2002.

(6)

Daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym ar 14 Hydref 1991.

(7)

1969 p.54. Mewnosodwyd adran 12AA gan Ddeddf 1989 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

(8)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau mewn perthynas â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998 (O.S.1998/1504) (G.I.9).

(10)

Diddymwyd adran 76 (yn rhannol) gan O.S.A. 2003/583.

(11)

1968 p.49. Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(12)

Diwygiwyd adran 70 gan adrannau 135 ac 136 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol etc. (Yr Alban) 2004 (dsa 8).

(13)

Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(14)

Diwygiwyd adran 86 gan baragraffau 83 ac 84 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38).

(15)

2000 p.14.

(17)

Diddymwyd y ddarpariaeth hon a'r rheini a grybwyllir ym mharagraff (b) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(18)

Diddymwyd yr adran hon gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(20)

1980 p.6. Diddymwyd Deddf Plant Maeth 1980 gan Ddeddf 1989.

(21)

1958 p.65. Diddymwyd adran 4 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(22)

1984 p.56.

(23)

1948 p.53. Diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf 1989.

(24)

Peidiodd Rhan 10 o Ddeddf Plant 1989 â bod yn gymwys i Loegr yn 2001. Mewnosodwyd Rhan 10A gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pheidiodd â bod yn gymwys i Loegr ar 1 Medi 2008. Diddymwyd Rhan 10 o ran yr Alban gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen.

(25)

2006 p.21.

(26)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIII t.238 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) (Guernsey) 2000, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif III 2001.

(28)

Diddymwyd adran 62 gan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001.

(31)

Amnewidiwyd adran 1 gan adran 142 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) (“Deddf 1994”) ac fe'i diddymwyd gan baragraff 11 o Atodlen 6 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (p.42) (“Deddf 2003”). Diddymwyd yn ogystal adrannau 2 i 6, 14 i 17, 19, 20, 24 i 26 a 28 gan y ddarpariaeth hon o Ddeddf 2003.

(32)

Diddymwyd adran 6 yn rhannol gan Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 (p.58) ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.

(33)

Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan adran 10 o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1967 ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac yn gyfan gwbl gan Ddeddf 2003.

(34)

1960 p.33. Diwygiwyd adran 1 gan adran 39 o Ddeddf 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(35)

1977 p.45. Diddymwyd adran 54 gan Ddeddf 2003.

(36)

2000 p. 44. Mae adran 3 yn ymestyn i'r Alban a Gogledd Iwerddon (gweler adran 7(2) a (4)) ond fe'i diddymwyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon gan Ddeddf 2003.

(37)

Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(38)

Diddymwyd pob un o'r darpariaethau hyn gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(39)

Diwygiwyd adran 12 gan adran 143 o Ddeddf 1994 ac adrannau 1 a 2 i Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (p.44) ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(40)

Diwygiwyd adran 13 gan adran 2 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(41)

1959 p.72; diwygiwyd adran 128 gan adran 1(4) o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (p.60) a chan ddarpariaethau eraill, gan gynnwys paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf 2003.

(42)

1967 p.60; diddymwyd adrannau 4 a 5 gan Ddeddf 2003.

(43)

1995 p.46.

(44)

1982 p.45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 84 o Ddeddf 1994, Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p.40) ac adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) ac fe'i diwygiwyd gan adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Tramgwyddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9).

(45)

2000 p. 44; diwygiwyd adran 3 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 62 o Ran 4 o Atodlen 28 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33).

(46)

Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(47)

1984 p.37; diwygiwyd adran 6 mewn perthynas â'r Alban gan baragraff 34(c) o Atodlen 4 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(48)

Diddymwyd adrannau 60 i 68 gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) yn effeithiol o 1 Ebrill 2002 ymlaen (O.S.A. 2002/162).

(51)

O.S. 1978/1047 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf 1994, adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 2003 (O.S. 2003/1247) (G.I.13).

(53)

O.S.1988/1847 (G.I.17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) ac 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.

(54)

Diddymwyd yr adran hon a'r adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (10)(c) ac (ch), gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(55)

Cyfraith Jersey 16/1969.

(56)

Cyfraith Jersey 50/2002.

(57)

Cyfraith Jersey 51/2002.

(58)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol IV t.288.

(59)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t.74.

(60)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII t. 273.

(61)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol V t. 342 fel y'i diwygiwyd gan y Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XI t.116 a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI t.277.

(62)

Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX t.103 fel y'i diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII t.49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003 a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey) 2006, Gorchymyn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006.

(63)

1979 p.2.

(64)

1876 p.36.

(65)

1995 p.39.

(66)

1969 p.54.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources