- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wnaed, neu sy'n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(1) ar y seiliau a bennir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(2);
mae i “gorchymyn perthnasol” a “llys uwch” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “relevant order” a “senior court” yn adran 30(1) o Ddeddf 2000:
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—
os oes swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw berson, y swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru;
ystyr “wedi ei anghymhwyso”/ “wedi eu hanghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso, neu wedi eu hanghymhwyso, rhag cofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddfa a reolir ganddynt hwy fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd i gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei “gael wedi cyflawni” tramgwydd os yw'r person hwnnw—
(a)wedi ei gollfarnu am dramgwydd;
(b)wedi ei gael yn ddieuog o dramgwydd oherwydd gwallgofrwydd;
(c)wedi ei gael yn anabl a'i fod wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni mewn perthynas â thramgwydd o'r fath; neu
(ch)ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybudd(3) mewn perthynas â thramgwydd gan swyddog o'r heddlu.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae person wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd sy'n “berthynol i” dramgwydd os yw'r person hwnnw wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd o—
(a)ceisio cyflawni, cynllwynio i gyflawni, neu annog cyflawni'r tramgwydd hwnnw; neu
(b)cynorthwyo, cefnogi, cynghori neu beri cyflawni'r tramgwydd hwnnw.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o'r paragraffau (2) i (8) yn gymwys.
(2) Gwnaed unrhyw un o'r gorchmynion neu benderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1—
(a)mewn perthynas â P;
(b)sy'n rhwystro P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster lle y gofelir am blant neu rhag cyfranogi mewn rheoli, neu rhag ymwneud rywfodd arall â darparu unrhyw gyfleuster o'r fath; neu
(c)mewn perthynas â phlentyn a fu yng ngofal P.
(3) Gwnaed gorchymyn mewn perthynas â P o dan adran 104 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(4).
(4) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000.
(5) Mae P—
(a)wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu
(b)yn dod o fewn paragraff 2 o'r Atodlen honno,
er gwaethaf y ffaith bod y tramgwyddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.
(6) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (4) neu (5), a oedd yn ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.
(7) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd a bennir yn Atodlen 3 neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath.
(8) Mae P wedi—
(a)ei gael wedi cyflawni unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn ac a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath; neu
(b)wedi ei gyhuddo o unrhyw dramgwydd, a gyflawnwyd yn erbyn person sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000, neu dramgwydd sy'n berthynol i dramgwydd o'r fath, ac y gosodwyd gorchymyn perthnasol mewn perthynas ag ef gan lys uwch.
(9) Ni fydd P wedi ei anghymhwyso dan baragraffau (1) i (8) mewn perthynas ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu gollfarn—
(a)os yw P wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn;
(b)os yw rhybudd mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw wedi ei dynnu'n ôl neu ei roi o'r neilltu;
(c)os yw cyfarwyddyd a seiliwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar y tramgwydd wedi ei ddirymu; neu
(ch)os gwnaed gorchymyn o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(5) yn rhyddhau P yn ddiamod neu'n amodol o'r tramgwydd hwnnw.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd person (“P”) wedi ei anghymhwyso os ceir bod P wedi cyflawni gweithred—
(a)a oedd yn dramgwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
(b)a fyddai wedi bod yn dramgwydd a wnâi'n ofynnol anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn, pe bai'r weithred wedi ei chyflawni mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
(2) Ym mharagraff (1) ceir bod P “wedi cyflawni gweithred a oedd yn dramgwydd” os, o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig—
(a)collfarnwyd P am dramgwydd (pa un a gosbwyd P am y tramgwydd ai peidio);
(b)rhybuddiwyd P mewn perthynas â thramgwydd;
(c)gwnaeth llys, sy'n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd; neu
(ch)os gwnaeth llys o'r fath, mewn perthynas â thramgwydd, ganfyddiad sy'n gyfwerth â chanfod bod P yn anabl ac wedi cyflawni'r weithred y'i cyhuddwyd ohoni.
(3) Ni fydd person wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiad os, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad dan sylw, gwrthdrowyd y cyfryw ganfyddiad.
(4) Mae gweithred sy'n gosbadwy o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn gyfystyr â thramgwydd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn, sut bynnag y disgrifir y weithred yn y gyfraith honno.
5. Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Plant 1999(6) (rhestr o'r rhai a ystyrir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un o ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys i P.
(2) Mae P yn destun cyfarwyddyd.
(3) Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(7).
7. Mae person a waharddwyd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8) wedi ei anghymhwyso.
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person sy'n byw—
(a)ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru; neu
(b)ar aelwyd lle y cyflogir unrhyw berson arall o'r fath,
wedi ei anghymhwyso.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pe bai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a 6(3) neu 8, ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai wedi peri, fel arall, iddo gael ei anghymhwyso, a Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cydsyniad ysgrifenedig, a heb dynnu'r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna rhaid peidio ag ystyried bod y person hwnnw, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, wedi ei anghymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000.
(3) Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw'r person hwnnw, cyn 1 Ebrill 2002—
(a)wedi datgelu'r ffeithiau, i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf, a fyddai wedi anghymhwyso'r person o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.
10. At ddibenion adran 79M(1)(c) o'r Ddeddf (apelau i'r Tribiwnlys), mae penderfyniad mewn perthynas ag anghymhwyso person rhag cofrestru i warchod plant neu ddarparu gofal dydd o dan Atodlen 9A o'r Ddeddf yn benderfyniad rhagnodedig.
11.—(1) Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf (“person cofrestredig”) ddarparu'r wybodaeth ganlynol i Weinidogion Cymru—
(a)manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, collfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru, a wnaed neu sy'n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2), sy'n peri bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn;
(b)y dyddiad pan wnaed y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn, neu pan ddigwyddodd unrhyw sail arall dros anghymhwyso;
(c)y corff neu'r llys a wnaeth y gorchymyn, penderfyniad neu gollfarn a'r ddedfryd a osodwyd os gosodwyd un;
(ch)mewn perthynas â gorchymyn neu gollfarn, copi o'r gorchymyn perthnasol neu orchymyn llys, wedi ei ardystio gan y corff neu'r llys a'i dyroddodd.
(2) Y personau y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn perthynas â hwy yw—
(a)y person cofrestredig; a
(b)unrhyw berson sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person cofrestredig, neu a gyflogir ar yr aelwyd honno.
(3) Rhaid darparu'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 diwrnod ar ôl yr adeg y daeth y person cofrestredig yn ymwybodol o'r wybodaeth honno, neu y dylai yn rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol ohoni pe bai'r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.
(4) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
(5) Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
12.—(1) Diwygir Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(9) fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliadau 5 i 8.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: