- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi ddiystyru unrhyw sylwadau o dan reoliad 3 sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad pan hysbysir y person sy'n gwneud y sylwadau o dan reoliad 3(2) o'i hawl i wneud sylwadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), os gwneir sylwadau iddo yn unol â rheoliad 3(4), bydd yn ddyletswydd ar yr awdurdod gorfodi, cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r sylwadau i law—
(a)i'w hystyried ac unrhyw dystiolaeth gefnogol y mae'r person sy'n eu gwneud yn ei darparu; a
(b)i gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'i benderfyniad p'un a yw'n derbyn—
(i)bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys; neu
(ii)bod rhesymau cryf o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(4)(b).
(3) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ei fod yn derbyn bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)—
(a)ad-dalu unrhyw symiau—
(i)yr oedd yn ofynnol i'r person y rhyddhawyd y cerbyd iddo dalu o dan adran 101A(1) o Ddeddf 1984; neu
(ii)a ddidynnwyd oddi wrth enillion o werthiant y cerbyd yn unol ag adran 101A(2) o'r Ddeddf honno,
ac eithrio i'r graddau (os oes rhai) y talwyd neu y didynnwyd y symiau hynny'n briodol; a
(b)hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi hepgor ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.
(4) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(ii) ei fod yn derbyn bod rhesymau cryf o'r fath, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)—
(a)ad-dalu'r symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a) neu'r rhai hynny y mae'n ystyried sy'n briodol yn amgylchiadau'r achos; a
(b)hysbysu'r person sy'n gwneud y sylwadau ei fod wedi hepgor yr hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd.
(5) Mae awdurdod sydd wedi hepgor ei hawl i adennill swm yn colli ei hawl i wneud hynny.
(6) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b) nad yw'n derbyn bod paragraff (2)(b)(i) neu (ii) wedi cael ei gyflawni, rhaid i'r hysbysiad hwnnw—
(a)hysbysu'r person y cyflwynir ef iddo o'i hawl i apelio at ddyfarnydd o dan reoliad 5;
(b)dangos natur pŵer y dyfarnydd i ddyfarnu costau; a
(c)disgrifio mewn termau cyffredinol y ffurf a'r dull y mae'n ofynnol i'r gyfryw apêl gael ei gwneud ynddynt.
(7) Os bydd awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2) cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir ynddo, ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi derbyn y sylwadau ac wedi cyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw o dan baragraff (2)(b) a bydd paragraff (3) yn gymwys yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: