Search Legislation

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 615 (Cy.67)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), a drosglwyddwyd yn ddiweddarach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, chychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008 deuant i rym ar 31 Mawrth 2008 ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “ardal gorfodi sifil am dramgwyddau parcio”, “awdurdod gorfodi” a “tâl cosb” yr ystyr sydd i (“civil enforcement area for parking contraventions”, “enforcement authority” a “penalty charge”) yn Rhan 6 o Ddeddf 2004;

  • ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004(3);

  • ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan Ran 3 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;

  • ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008(4);

  • ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(5); ac

  • ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (6).

Hawl i wneud sylwadau ynghylch cerbyd a symudwyd ymaith

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson, o ran cerbyd y daethpwyd o hyd iddo mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio ac a symudwyd ymaith o dan adran 99 o Ddeddf 1984

(a)pan fo'n ofynnol iddo dalu swm i gael y cerbyd yn ôl o dan adran 101A o'r Ddeddf honno;

(b)pan fo'n derbyn swm ynglŷn â'r cerbyd o dan adran 101A(2) o'r Ddeddf honno;

(c)pan gaiff ei hysbysu nad oedd yr enillion ar werthiant y cerbyd yn fwy na chyfanswm y taliadau perthnasol a ddisgrifir yn adran 101A(2) a (3) o'r Ddeddf honno; neu

(ch)pan gaiff ei hysbysu bod y cerbyd wedi cael ei waredu ac nad oedd unrhyw enillion ar ei werthiant.

(2Rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei hysbysu ar unwaith pan ddigwyddo achlysur y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)o'i hawl i wneud sylwadau i awdurdod gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)o'i hawl i apelio at ddyfarnydd os na chaiff ei sylwadau eu derbyn,

a rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys datganiad o effeithiau paragraff (4) a (5).

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), neu beri ei bod yn cael ei rhoi, yn ysgrifenedig.

(4Caiff person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wneud sylwadau i'r perwyl—

(a)bod un neu fwy nag un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (5) yn gymwys; neu

(b)bod rhesymau cryf, p'un a yw'r seiliau hynny'n gymwys ai peidio, paham, o dan amgylchiadau penodol yr achos, y dylai'r awdurdod gorfodi—

(i)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd;

(ii)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dynnwyd o enillion y gwerthiant gogyfer y taliadau perthnasol; neu

(iii)hepgor ei hawl i adennill pob un o'r symiau neu unrhyw un o'r symiau sy'n ddyledus iddo oherwydd iddo symud ymaith neu waredu'r cerbyd,

a chaniateir i unrhyw sylwadau o'r fath fod ar y ffurf y caiff yr awdurdod gorfodi ei phennu.

(5Dyma'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a)—

(a)na chaniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio o dan amgylchiadau yr oedd tâl cosb yn daladwy yn rhinwedd rheoliad 3 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

(b)nad oedd swyddog gorfodi sifil, yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu wedi gosod tâl cosb ar y cerbyd neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person yr ymddangosai iddo mai ef oedd â rheolaeth ar y cerbyd cyn symud y cerbyd ymaith;

(c)ar yr adeg y symudwyd y cerbyd ymaith, nad oedd y pŵer a roddir gan baragraff (2) o reoliad 5C o'r Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986(7) yn rhinwedd paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw, i symud y cerbyd ymaith yn arferadwy;

(ch)y caniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan yn y man lle'r oedd gan berson a oedd yn rheoli'r cerbyd heb gysyniad y perchennog;

(d)nad oedd y man lle'r oedd y cerbyd yn aros yn ei unfan yn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio;

(dd)bod y tâl cosb neu dâl arall a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd yn fwy na'r swm sy'n gymwys o dan amgylchiadau'r achos; neu

(e)bod digwyddiad amhriodol wedi digwydd yn y gweithdrefnau ar ran yr awdurdod gorfodi.

(6Wrth benderfynu'r ffurf ar gyfer gwneud sylwadau o dan baragraff (4) rhaid i'r awdurdod gorfodi weithredu drwy'r cyd-bwyllgor y mae, yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu, yn arfer ei swyddogaeth o benodi dyfarnwyr drwyddo.

Dyletswydd awdurdod gorfodi y gwneir sylwadau iddo

4.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi ddiystyru unrhyw sylwadau o dan reoliad 3 sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad pan hysbysir y person sy'n gwneud y sylwadau o dan reoliad 3(2) o'i hawl i wneud sylwadau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), os gwneir sylwadau iddo yn unol â rheoliad 3(4), bydd yn ddyletswydd ar yr awdurdod gorfodi, cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r sylwadau i law—

(a)i'w hystyried ac unrhyw dystiolaeth gefnogol y mae'r person sy'n eu gwneud yn ei darparu; a

(b)i gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'i benderfyniad p'un a yw'n derbyn—

(i)bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys; neu

(ii)bod rhesymau cryf o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(4)(b).

(3Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ei fod yn derbyn bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)—

(a)ad-dalu unrhyw symiau—

(i)yr oedd yn ofynnol i'r person y rhyddhawyd y cerbyd iddo dalu o dan adran 101A(1) o Ddeddf 1984; neu

(ii)a ddidynnwyd oddi wrth enillion o werthiant y cerbyd yn unol ag adran 101A(2) o'r Ddeddf honno,

ac eithrio i'r graddau (os oes rhai) y talwyd neu y didynnwyd y symiau hynny'n briodol; a

(b)hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi hepgor ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.

(4Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(ii) ei fod yn derbyn bod rhesymau cryf o'r fath, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)—

(a)ad-dalu'r symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a) neu'r rhai hynny y mae'n ystyried sy'n briodol yn amgylchiadau'r achos; a

(b)hysbysu'r person sy'n gwneud y sylwadau ei fod wedi hepgor yr hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd.

(5Mae awdurdod sydd wedi hepgor ei hawl i adennill swm yn colli ei hawl i wneud hynny.

(6Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b) nad yw'n derbyn bod paragraff (2)(b)(i) neu (ii) wedi cael ei gyflawni, rhaid i'r hysbysiad hwnnw—

(a)hysbysu'r person y cyflwynir ef iddo o'i hawl i apelio at ddyfarnydd o dan reoliad 5;

(b)dangos natur pŵer y dyfarnydd i ddyfarnu costau; a

(c)disgrifio mewn termau cyffredinol y ffurf a'r dull y mae'n ofynnol i'r gyfryw apêl gael ei gwneud ynddynt.

(7Os bydd awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2) cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir ynddo, ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi derbyn y sylwadau ac wedi cyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw o dan baragraff (2)(b) a bydd paragraff (3) yn gymwys yn unol â hynny.

Apelau at ddyfarnydd ynghylch penderfyniadau o dan reoliad 4

5.—(1Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 4(2)(b) ynglyn â sylwadau o dan reoliad 3(4), caiff y person sy'n gwneud y sylwadau hynny—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw; neu

(b)cyn diwedd cyfnod hirach y caiff dyfarnydd ei ganiatáu,

apelio at ddyfarnydd yn erbyn penderfyniad yr awdurdod.

(2Ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r dyfarnydd ystyried y sylwadau o dan sylw ac unrhyw sylwadau ychwanegol a wneir gan yr apelydd.

(3Os bydd y dyfarnydd yn dod i'r casgliad—

(a)bod unrhyw rai o'r seiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 3(5) yn gymwys; a

(b)y byddai'r awdurdod gorfodi wedi bod o dan y ddyletswydd a osodir gan reoliad 4(3) i ad-dalu unrhyw swm os oedd wedi cyflwyno hysbysiad ei fod yn derbyn bod y sail o dan sylw yn gymwys,

rhaid iddo gyfarwyddo'r awdurdod hwnnw i ad-dalu'r swm hwnnw.

(4Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) i gydymffurfio ag ef ar unwaith a bydd unrhyw hawl gan yr awdurdod gorfodi i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd yn peidio â bod.

(5Os na fydd y dyfarnydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (3) ond ei fod wedi'i fodloni bod rhesymau cryf, dan amgylchiadau penodol yr achos, pam y dylid ad-dalu rhywfaint o'r symiau neu'r cyfan o'r symiau i sicrhau rhyddhau'r cerbyd, neu a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant, caiff argymell bod yr awdurdod gorfodi yn gwneud y cyfryw ad-daliad.

(6Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (5) i ystyried o'r newydd wneud ad-daliad o'r symiau hynny gan roi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadaeth gan y dyfarnydd ac, o fewn y cyfnod (“y cyfnod o 35 o ddiwrnodau”) o dri deg pump o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd, hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd p'un a yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd ai peidio.

(7Os bydd yr awdurdod gorfodi yn hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd nad yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo ar yr un pryd eu hysbysu o'r rhesymau dros ei benderfyniad.

(8Ni cheir apelio at y dyfarnydd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (7).

(9Os bydd yr awdurdod gorfodi'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau.

(10Os bydd yr awdurdod gorfodi yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6) o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau, bernir bod yr awdurdod wedi derbyn argymhelliad y dyfarnydd a rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd yn ddiymdroi ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

Y weithdrefn sydd i'w dilyn gan ddyfarnwyr, cyflwyno dogfennau ac adennill symiau sy'n daladwy

6.—(1Bydd yr Atodlen i'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau (“yr Atodlen”) yn cael effaith o ran gweithdrefn a chyflwyno dogfennau mewn achosion gerbron dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi cael ei hymgorffori yn y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (3).

(2Yn unol â hynny, bernir y bydd cyfeiriadau yn yr Atodlen honno fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd paragraff (1) at “y Rheoliadau hyn” yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hyn ac nid at y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.

(3Dyma'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “apêl” yn lle “rheoliad 7(1) neu 10(1)” rhodder “rheoliad 5”;

(b)ym mharagraff 2(3), yn lle “rheoliad 7(1) neu 10(1)(a) (yn ôl y digwydd)” rhodder “rheoliad 5”;

(c)ym mharagraff 4(1) yn lle “rheoliad 4(2)(b) neu 8(4), p'un bynnag sy'n briodol dan yr amgylchiadau” rhodder “rheoliad 3(5)”.

(4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen honno fel y'i haddaswyd, caiff dyfarnydd reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(5O ran unrhyw swm sy'n daladwy—

(a)o dan ddyfarniad dyfarnydd;

(b)yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ad-dalu unrhyw swm,

os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, rhaid bod y person y mae'r swm yn daladwy iddo yn gallu ei adennill fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol.

(6Nid yw paragraff (3) yn gymwys i dâl cosb sy'n parhau'n daladwy yn dilyn dyfarniad o dan reoliad 7 o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.

Sylwadau anwir

7.—(1Bydd person sy'n gwneud unrhyw sylw o dan reoliad 3 neu 4 neu o dan yr Atodlen i'r graddau y mae'n ymwneud ag apêl, sy'n anwir mewn manylyn o bwys ac sy'n gwneud hynny'n ddi-hid neu gan wybod ei fod yn anwir yn y manylyn hwnnw, yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

6 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan bwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Yn ddiweddarach cafodd y pwerau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwneud sylwadau ac apelau yn erbyn taliadau ar gyfer symud ymaith, storio a gwaredu cerbyd a symudir ymaith o dan y Ddeddf honno o ardal sydd yn ardal gorfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/614 (Cy.66), Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) a Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/609).

Mae rheoliad 3 yn pennu'r personau y mae'r rheoliad yn gymwys iddynt, yn ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny gael eu hysbysu o'u hawl i wneud sylwadau ac i apelio at ddyfarnydd, mae'n rhoi i'r personau hynny hawl i wneud sylwadau ar ffurf a bennir gan yr awdurdod gorfodi ac yn pennu'r sail y ceir eu gwneud arni. Mae rheoliad 4 yn pennu dyletswyddau awdurdod gorfodi o ran sylwadau sy'n dod i law o dan reoliad 3 ac mae rheoliad 5 yn rhoi hawl i apelio at ddyfarnydd pan fo'r awdurdod gorfodi'n gwrthod sylwadau a gyflwynir iddo o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn cymhwyso'r Atodlen i Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) o ran gweithdrefnau a chyflwyno dogfennau mewn achosion dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 7 yn creu tramgwydd o wneud sylwadau anwir o dan reoliad 4 neu reoliad 5

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(1)

1984 p. 27; diwygiwyd adran 99 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 4, paragraff 32, ac Atodlen 8 a chan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 15 ac Atodlen 5, Rhan 1; mewnosodwyd adrannau 101A a 101B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, Atodlen 11, paragraff 3(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(7)

O.S. 1986/183; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2008/612 (Cy.64).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources