- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson, o ran cerbyd y daethpwyd o hyd iddo mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio ac a symudwyd ymaith o dan adran 99 o Ddeddf 1984—
(a)pan fo'n ofynnol iddo dalu swm i gael y cerbyd yn ôl o dan adran 101A o'r Ddeddf honno;
(b)pan fo'n derbyn swm ynglŷn â'r cerbyd o dan adran 101A(2) o'r Ddeddf honno;
(c)pan gaiff ei hysbysu nad oedd yr enillion ar werthiant y cerbyd yn fwy na chyfanswm y taliadau perthnasol a ddisgrifir yn adran 101A(2) a (3) o'r Ddeddf honno; neu
(ch)pan gaiff ei hysbysu bod y cerbyd wedi cael ei waredu ac nad oedd unrhyw enillion ar ei werthiant.
(2) Rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei hysbysu ar unwaith pan ddigwyddo achlysur y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
(a)o'i hawl i wneud sylwadau i awdurdod gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b)o'i hawl i apelio at ddyfarnydd os na chaiff ei sylwadau eu derbyn,
a rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys datganiad o effeithiau paragraff (4) a (5).
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), neu beri ei bod yn cael ei rhoi, yn ysgrifenedig.
(4) Caiff person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wneud sylwadau i'r perwyl—
(a)bod un neu fwy nag un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (5) yn gymwys; neu
(b)bod rhesymau cryf, p'un a yw'r seiliau hynny'n gymwys ai peidio, paham, o dan amgylchiadau penodol yr achos, y dylai'r awdurdod gorfodi—
(i)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd;
(ii)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dynnwyd o enillion y gwerthiant gogyfer y taliadau perthnasol; neu
(iii)hepgor ei hawl i adennill pob un o'r symiau neu unrhyw un o'r symiau sy'n ddyledus iddo oherwydd iddo symud ymaith neu waredu'r cerbyd,
a chaniateir i unrhyw sylwadau o'r fath fod ar y ffurf y caiff yr awdurdod gorfodi ei phennu.
(5) Dyma'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a)—
(a)na chaniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio o dan amgylchiadau yr oedd tâl cosb yn daladwy yn rhinwedd rheoliad 3 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;
(b)nad oedd swyddog gorfodi sifil, yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu wedi gosod tâl cosb ar y cerbyd neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person yr ymddangosai iddo mai ef oedd â rheolaeth ar y cerbyd cyn symud y cerbyd ymaith;
(c)ar yr adeg y symudwyd y cerbyd ymaith, nad oedd y pŵer a roddir gan baragraff (2) o reoliad 5C o'r Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986(1) yn rhinwedd paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw, i symud y cerbyd ymaith yn arferadwy;
(ch)y caniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan yn y man lle'r oedd gan berson a oedd yn rheoli'r cerbyd heb gysyniad y perchennog;
(d)nad oedd y man lle'r oedd y cerbyd yn aros yn ei unfan yn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio;
(dd)bod y tâl cosb neu dâl arall a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd yn fwy na'r swm sy'n gymwys o dan amgylchiadau'r achos; neu
(e)bod digwyddiad amhriodol wedi digwydd yn y gweithdrefnau ar ran yr awdurdod gorfodi.
(6) Wrth benderfynu'r ffurf ar gyfer gwneud sylwadau o dan baragraff (4) rhaid i'r awdurdod gorfodi weithredu drwy'r cyd-bwyllgor y mae, yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu, yn arfer ei swyddogaeth o benodi dyfarnwyr drwyddo.
O.S. 1986/183; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2008/612 (Cy.64).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: