- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 4(2)(b) ynglyn â sylwadau o dan reoliad 3(4), caiff y person sy'n gwneud y sylwadau hynny—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw; neu
(b)cyn diwedd cyfnod hirach y caiff dyfarnydd ei ganiatáu,
apelio at ddyfarnydd yn erbyn penderfyniad yr awdurdod.
(2) Ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r dyfarnydd ystyried y sylwadau o dan sylw ac unrhyw sylwadau ychwanegol a wneir gan yr apelydd.
(3) Os bydd y dyfarnydd yn dod i'r casgliad—
(a)bod unrhyw rai o'r seiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 3(5) yn gymwys; a
(b)y byddai'r awdurdod gorfodi wedi bod o dan y ddyletswydd a osodir gan reoliad 4(3) i ad-dalu unrhyw swm os oedd wedi cyflwyno hysbysiad ei fod yn derbyn bod y sail o dan sylw yn gymwys,
rhaid iddo gyfarwyddo'r awdurdod hwnnw i ad-dalu'r swm hwnnw.
(4) Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) i gydymffurfio ag ef ar unwaith a bydd unrhyw hawl gan yr awdurdod gorfodi i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd yn peidio â bod.
(5) Os na fydd y dyfarnydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (3) ond ei fod wedi'i fodloni bod rhesymau cryf, dan amgylchiadau penodol yr achos, pam y dylid ad-dalu rhywfaint o'r symiau neu'r cyfan o'r symiau i sicrhau rhyddhau'r cerbyd, neu a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant, caiff argymell bod yr awdurdod gorfodi yn gwneud y cyfryw ad-daliad.
(6) Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (5) i ystyried o'r newydd wneud ad-daliad o'r symiau hynny gan roi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadaeth gan y dyfarnydd ac, o fewn y cyfnod (“y cyfnod o 35 o ddiwrnodau”) o dri deg pump o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd, hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd p'un a yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd ai peidio.
(7) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd nad yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo ar yr un pryd eu hysbysu o'r rhesymau dros ei benderfyniad.
(8) Ni cheir apelio at y dyfarnydd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (7).
(9) Os bydd yr awdurdod gorfodi'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau.
(10) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6) o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau, bernir bod yr awdurdod wedi derbyn argymhelliad y dyfarnydd a rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd yn ddiymdroi ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: