Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

15.  Heb ragfarnu yn erbyn rheoliad 22 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(1), ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio sy'n tarddu o drydedd wlad i mewn i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

(a)onid yw'n gynnyrch tramwy, neu

(b)onid yw ei sefydliad gyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws y tollau sydd wedi'i chymeradwyo yn unol ag Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu'n storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a leolwyd (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth safleoedd arolygu ar y ffin

16.—(1Ni chaniateir cyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2Ni chaniateir cyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch Erthygl 9, y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno wedi'i leoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru, ac eithrio wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3Bydd y rheoliad hwn yn cael ei orfodi—

(a)wrth bwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr;

(b)mewn mangreoedd y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(b) gan yr Asiantaeth; ac

(c)mewn unrhyw fan arall gan yr awdurdod lleol.

(4Mewn achosion lle y mae swyddog awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod, wrth bwynt mynediad, lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog o'r farn y gallai fod wedi'i gyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog hysbysu swyddog tollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch nes bod swyddog tollau yn ei gymryd dan ei ofal.

(5At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(2) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Hysbysu ymlaen llaw ynglyn â chyflwyno neu roi cynhyrchion gerbron

17.—(1Ni chaiff unrhyw berson—

(a)cyflwyno cynnyrch i Gymru o drydedd wlad, neu

(b)cyflwyno i Gymru gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(2Pan fydd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch gerbron mewn safle arolygu ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi gerbron wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(3Rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)

(a)bod ar y ffurf a geir yn Rhan 1 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin;

(b)cael ei gyflenwi ar ffurf electronig;

(c)bod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn un o ieithoedd swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

(ch)cyrraedd y safle arolygu ar y ffin—

(i)o leiaf chwe awr gwaith, yn achos cynnyrch sy'n dod i mewn i'r wlad ar awyren, a

(ii)o leiaf un diwrnod gwaith, mewn unrhyw achos arall,

cyn bod y cynnyrch yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin yn unol â rheoliad 18; ac

(d)yn achos hybsysiad a roddwyd i safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, pennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

(4Ym mharagraff (3) ystyr “oriau gwaith” (“working hours”) a “diwrnod gwaith” (“working day”) yw oriau a diwrnod pan fydd y safle arolygu ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18.

Rhoi cynhyrchion gerbron mewn safleoedd arolygu ar y ffin

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, yn ddi-oed, i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r safle arolygu ar y ffin y rhoddwyd iddo hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron yn y man hwnnw yn unol â rheoliad 17, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi iddo.

(6Pan fydd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, yn ddi-oed, i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad17, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi iddo.

(7Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch gerbron, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2), roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef ac sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(8Rhaid i berson sydd, yn unol â pharagraff (1) neu (2), yn rhoi gerbron gynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi ar yr un pryd gyfieithiad i'r Gymraeg neu i'r Saesneg o'r ddogfen ofynnol, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigwr â chymhwyster priodol wedi cadarnhau ei fod yn gyfieithiad cywir.

Gwiriadau milfeddygol

19.—(1Yn ddarostyngedig, yn achos cynhyrchion a drawslwythwyd, i reoliad 38, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 gyflwyno cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno i filfeddyg swyddogol, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni ar y cynnyrch neu ar y dogfennau gofynnol, yn ôl y digwydd—

(a)gwiriad dogfennol,

(b)gwiriad adnabod, ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 50, gwiriad ffisegol,

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu i'r cynorthwyydd unrhyw gymorth y mae'n rhesymol iddynt ofyn amdano i'w galluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau hynny.

(2Pan fydd sampl o gynnyrch yn cael ei gymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, ni chaiff neb symud y cynnyrch neu beri iddo gael ei symud o'r safle arolygu ar y ffin lle y cafodd ei gyflwyno nes bod y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r rhanlwyth sy'n cynnwys y cynnyrch.

(3Hyd oni symudir y cynnyrch yn unol â pharagraff (2) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly.

Dogfen fynediad filfeddygol gyffredin i fynd gyda llwyth

20.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ranlwyth y mae Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dyroddi mewn perthynas ag ef, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhanlwyth—

(a)yn achos llwyth neu ranlwyth y bwriedir ei fewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), hyd y funud y bydd y llwyth neu'r rhanlwyth, ar ôl ei fewnforio, yn cyrraedd mangre lle y caiff cynhyrchion eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu, a

(b)ym mhob achos arall hyd nes na fydd y llwyth neu'r rhanlwyth yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth gan awdurdodau'r tollau, o fewn yr ystyr a geir yn Erthygl 4(13) o God y Tollau.

(2Rhaid i'r person sydd, at ddibenion ei fusnes, yn meddiannu'r fangre y cyfeirir ati yn is-baragraff (1)(a) gymryd meddiant o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin y cyfeirir ati ym mharagraff (1) a dal ei afael ynddi ar y fangre am gyfnod o flwyddyn yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl i'r ddogfen gyrraedd yno.

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 22, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fydd y milfeddyg swyddogol, yn dilyn gwiriad milfeddygol wrth safle arolygu ar y ffin, yn penderfynu bod cynnyrch (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad gyrchfan yn Rheoliad 15(b)) yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, neu fod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â'r cynnyrch; a

(b)pan fydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol ar gynnyrch sydd wedi'i leoli i ffwrdd o safle arolygu ar y ffin (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad gyrchfan yn Rheoliad 15(b)), yn penderfynu bod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio.

(2Os yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, ac os bydd is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd yn ei farn ef â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol iddo naill ai—

(a)anfon y cynnyrch ymlaen o'r safle arolygu ar y ffin, neu, os bydd is-baragraff (1)(b) yn gymwys, ei anfon ymlaen o safle arolygu ar y ffin, a nodir yn yr hysbysiad, a hynny drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno i Gymru, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, sydd wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, a hynny o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, sydd agosaf at leoliad y cynnyrch.

(3Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol ag is-baragraff (2)(b)—

(a)pan fydd ei anfon ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddgol, neu drwy unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu sydd fel arall yn amhosibl; neu

(b)pan fydd y cyfnod o drigain o ddiwrnodau y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (2)(a) wedi mynd heibio; neu

(c)pan fydd y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, perchennog y cynnyrch yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(4O ran cynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef yn unol â pharagraff 2, rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, ei berchennog, sicrhau ei fod yn cael ei storio hyd oni chaiff ei anfon ymlaen neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y fan neu o dan yr amodau a gyfarwyddir ganddo yn yr hysbysiad.

(5Ym mharagraff (1)(a) “afreoleidd-dra arall” mewn perthynas â chynnyrch yw—

(a)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi gerbron mewn safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi yn unol â rheoliad 17;

(b)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol sydd wedi'i chynnwys mewn hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

(c)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddwyd yn unol â rheoliad 45 neu 49;

(ch)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

(i)yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron, neu

(ii)y cynnyrch ei hun, neu

(iii)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

(d)unrhyw ddiffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y bwriedir ef ar ei gyfer, yn ôl y dogfennau gofynnol;

(dd)unrhyw ddiffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5)(ch)(iii) gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1;

(e)yn achos cynnyrch y bwriedir ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

(f)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu gynnyrch y cyfeirir at ei sefydliad gyrchfan yn rheoliad 15(b), unrhyw doriad o'r gofynion a osodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1.

(6Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn ei dramgwyddo apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(3) yn gymwys i'r achos.

(7Tra byddir yn aros am benderfyniad ar apêl yn unol â pharagraff (6) bydd paragraff (4) yn gymwys i ddull storio'r cynnyrch o dan sylw.

Trin cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid

22.—(1Os bydd y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifail neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi defnyddio'r cynnyrch yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003(4) er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

(2Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003 a ganiateir.

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodol

23.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “terfyn gweddillion uchaf” yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 (sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n dod o anifeiliaid)(5);

(b)mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr ystyr sydd i “unauthorised substance or product” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC (ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid a diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC)(6).

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

(3dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), bydd paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rheini a gyflwynir i Gymru o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynir i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw.

(4Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle y mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, a gwirio'r gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynyrchioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i ddadansoddi.

(5Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob taliad sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(6Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf rhaid i'r milfeddyg swyddogol—

(a)rhoi awgrym clir o'r rhesymau dros ei wrthod drwy arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth; ac

(b)anfon ymlaen lwyth neu ranlwyth y mae'r milfeddyg swyddogol yn barnu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arno, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni.

(7Rhaid i gostau anfon ymlaen a chludo'r llwyth neu'r rhanlwyth i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Llwythi a chynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n anghyfreithlon

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fydd llwyth neu gynnyrch yn cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi gerbron yn unol â rheoliad 18;

(b)pan fydd llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad wedi'i gyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi gerbron mewn safle arolygu ar y ffin yno;

(c)pan fydd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi gerbron yno yn unol â rheoliad 18(1); ac

(ch)pan fydd llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff(1)(a), (b) ac (c) rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sydd ym marn y swyddog â gofal dros y llwyth, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), y milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol amdano, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch o dan ei ofal a naill ai,

(a)ei anfon ymlaen, drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r perchennog, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau(1)(a), (b) ac (c), neu gyda'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), a honno'n gyrchfan a leolir mewn trydedd wlad o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)ei waredu fel pe bai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y dibenion hynny ac sydd agosaf at y fan lle y mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd dan ei ofal.

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd

25.  Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(2)(b).

Tor-cyfraith difrifol neu fynych

26.—(1Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu ag iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai a gyflwynir i Gymru o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o'r rhan honno o drydedd wlad neu o'r sefydliad hwnnw, yn ôl y digwydd.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin lle y mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob taliad sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(4Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglyn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai anfon y llwyth ymlaen neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(2).

Annilysu dogfennau milfeddygol

27.  Pan fydd milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei anfon ymlaen yn unol â rheoliad 21(2)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal yn unol â rheoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, i'w hannilysu.

Costau mewn perthynas â chynhyrchion sy'n cael eu hanfon ymlaen neu eu gwaredu

28.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth o dan sylw neu, os oes hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch neu'r llwyth, perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, neu'r person y mae hysbysiad atafaelu yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo, dalu ar ofyn gostau storio, cludo, anfon ymlaen a gwaredu unrhyw gynnyrch neu lwyth sy'n cael ei anfon ymlaen neu ei waredu yn unol â rheoliad 21, 24, 25 neu 26, neu unrhyw bwerau sy'n cael eu harfer o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wrth orfodi rheoliad rheoliad 16.

(2Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu, os gofynnir iddo wneud hynny, gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth neu gan berchennog y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw.

(1)

O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1699, 1997/1729, 1998/2424, 2000/656 ac, o ran Cymru, gan y Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t.1, a hynny fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1873/2003 (OJ Rhif L275, 25.10.03, t.9).

(6)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t.10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.03, t.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources