Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Gorfodi

Awdurdodau gorfodi a chyfnewid gwybodaeth

4.—(1Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

(a)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn unig;

(b)gan yr Asiantaeth—

(i)mewn mangre y mae'n ofynnol iddi gael ei thrwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(1), Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(2), neu Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995(3); a

(ii)mangre gyfun fel y diffinnir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(4), neu Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid 1995(5); ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliad 16, gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys mewn unrhyw safle arolygu ar y ffin, ac eithrio mewn safle arolygu ar y ffin y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ac mewn mangreoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b).

(2At ddibenion gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent wedi ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth rannu gydag awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban wybodaeth y maent wedi ei chael wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn, a hynny at ddibenion gorfodi'r ddeddfwriaeth ar gyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a ddaw o drydydd gwledydd i Loegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn y drefn honno.

(4Nid yw paragraffau (2) a (3) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw bŵer arall sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.

Gorfodi gan swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth yn lle awdurdod lleol

5.—(1Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod awdurdod lleol yn methu neu wedi methu gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn yn gyffredinol, neu mewn unrhyw ddosbarth ar achosion, neu mewn achos unigol, caiff roi pŵer i swyddog awdurdodedig neu i'r Asiantaeth i'w gweithredu neu i'w gorfodi yn lle'r awdurdod lleol hwnnw.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth adennill oddi wrth yr awdurdod lleol dan sylw unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddo neu ganddi o dan baragraff (1).

Penodi milfeddygon swyddogol ac archwilwyr pysgod swyddogol

6.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth unrhyw safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; a

(b)ar gyfer pob milfeddyg swyddogol a benodwyd yn unol ag is-baragraff (a), y cynorthwywyr hynny sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau rheoliadol yn briodol ac yn ddi-oed.

(2Rhaid i awdurdod lleol benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth bob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a);

(b)archwilydd pysgod swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol o ran cynhyrchion pysgodfeydd wrth bob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio safle arolygu ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a); ac

(c)ar gyfer pob milfeddyg swyddogol a benodwyd yn unol ag is-baragraff (2)(a), a phob archwilydd pysgod swyddogol a benodwyd yn unol ag is-baragraff (2)(b), y cynorthwywyr hynny sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy'n angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol yn briodol ac yn ddi-oed.

Arfer pwerau gorfodi

7.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, archwilydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 8 ac 9 at ddibenion—

(a)gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn;

(b)gweithredu neu orfodi unrhyw ddatganiad a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth yn unol â rheoliad 59;

(c)canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn; neu

(ch)gwirio beth yw unrhyw gynnyrch, beth yw ei darddiad neu ei gyrchfan.

(2Yn achos milfeddyg swyddogol, archwilydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig a gafodd ei benodi neu ei awdurdodi gan awdurdod lleol, rhaid i'r pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 gael eu harfer—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, a

(b)y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw er mwyn canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r rheoliadau hyn o fewn yr ardal honno.

Pwerau mynediad a phwerau archwilio

8.—(1Caiff milfeddyg swyddogol, archwilydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig——

(a)mynd ar unrhyw safle arolygu ar y ffin neu ar unrhyw dir neu i mewn i fangre arall (ac eithrio ar dir sy'n cael ei ddefnyddio fel anhedd-dŷ yn unig) a'u harchwilio ac archwilio unrhyw beth sydd ynddynt neu arnynt;

(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o blith bagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un o'r uchod neu sy'n mynd gyda hwy, eu hagor;

(c)archwilio cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o blith bagiau personol a agorwyd yn unol ag is-baragraff (b);

(ch)archwilio unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei ddeunydd labelu a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef; ac

(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch.

(2Os bydd milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cymryd sampl o gynnyrch ac eithrio yng nghwrs gwiriad corfforol a wneir yn unol â rheoliad 19(1), caiff ef neu hi gyflwyno i'r person sydd, yn ei farn ef, â gofal dros y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch, hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei storio nes bydd ef neu hi yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei symud, o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, yn ôl y digwydd, a hynny yn y fan ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol yn yr hysbysiad; a chaiff costau storio o'r fath eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig sy'n mynd ar unrhyw dir neu i mewn i fangre yn unol ag is-baragraff (1)(a) fynd â'r canlynol gydag ef—

(a)personau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd;

(b)un neu ragor o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd; ac

(c)un neu ragor o gynrychiolwyr awdurdodau trydedd wlad, sydd wedi'u penodi ac sy'n gweithredu yn unol â'r darpariaethau yn un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 2.

Pwerau ynglyn â dogfennau

9.  Caiff milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd, yn ei farn ef neu ei barn hi, â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn eu meddiant neu o dan eu rheolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ganddynt yn eu meddiant neu o dan eu rheolaeth ac sy'n ymwneud â'r cynnyrch, a'r rheini'n ddogfen ac yn wybodaeth y mae'n rhesymol i'r milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig ofyn amdanynt;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw trwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl ef neu hi yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal eu gafael ar y copïau hynny; ac

(ch)atafaelu unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig le i gredu y gallai fod ei hangen yn dystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a dal eu gafael arni, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno arni.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

10.—(1Ni fydd unrhyw swyddog awdurdodedig, milfeddyg swyddogol, arolygydd pysgod swyddogol, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6 yn atebol yn bersonol mewn perthynas ag unrhyw weithred y bu iddynt ei gwneud wrth gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol o fewn cwmpas eu cyflogaeth, neu wrth honni eu cyflawni, os oeddent yn credu'n onest, pan fu iddynt gyflawni'r weithred honno, fod eu dyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol neu'n rhoi'r hawl iddynt wneud hynny.

(2Ni fydd paragraff (1) yn rhyddhau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol na'r Asiantaeth rhag unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'u gweithredoedd neu weithredoedd eu swyddogion.

Gwarantau mynediad

11.  Os yw ynad heddwch wedi'i fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol i filfeddyg swyddogol, archwilydd pysgod swyddogol neu swyddog awdurdodedig fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre yn unol â rheoliad 8 a hynny at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn rheoliad 7 a naill ai—

(a)bod mynediad wedi'i wrthod, neu ei bod yn rhesymol disgwyl iddo gael ei wrthod, a bod y milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig wedi hysbysu'r meddiannydd o'i fwriad i wneud cais am warant mynediad; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu y byddai rhoi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i ddiben y mynediad, neu fod angen mynediad ar frys, neu fod y tir heb ei feddiannu neu'r fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y byddai aros iddo ddychwelyd yn mynd yn groes i ddiben y mynediad,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd gan yr ynad, a honno'n warant sy'n ddilys am fis, awdurdodi'r milfeddyg swyddogol, yr arolygydd pysgod swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig i fynd ar y tir neu i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe byddai angen.

Atebion awdurdodau lleol

12.—(1Ar gyfer pob safle arolygu ar y ffin yn ei ardal, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ateb sy'n cynnwys—

(a)cyfanswm y llwythi a wiriwyd, a'r rheini wedi'u dosbarthu yn ôl grwpiau o gynhyrchion ac yn ôl y wlad y maent yn tarddu ohoni;

(b)rhestr o'r llwythi y cymerwyd samplau ohonynt a chanlyniadau unrhyw brawf ar bob sampl neu ddadansoddiad o bob sampl; ac

(c)rhestr o lwythi y mae'n ofynnol eu hanfon ymlaen neu eu gwaredu yn unol â rheoliad 21 gan y milfeddyg swyddogol neu'r archwilydd pysgod swyddogol, a hynny, ym mhob achos, ynghyd â'r wlad y maent yn tarddu ohoni, y sefydliad y maent yn tarddu ohono (os yw'n hysbys), disgrifiad o'r cynnyrch o dan sylw a'r rheswm dros ei wrthod.

(2Cynulliad Cenedlaethol Cymru gaiff benderfynu pa mor aml y mae'r atebion y cyfeirir atynt ym mharagraff 12 i gael eu cyflwyno a pha gyfnod o amser y maent i ymdrin ag ef.

Atal safleoedd arolygu ar y ffin rhag gweithredu

13.—(1Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni—

(a)y byddai parhau i weithredu safle arolygu ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu i iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod toriad difrifol wedi bod, wrth safle arolygu ar y ffin, o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC (sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo safleoedd arolygu ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(6),

caiff gyflwyno i weithredydd y safle arolygu ar y ffin o dan sylw hysbysiad ysgrifenedig yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel safle arolygu ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC wedi'i hatal.

(2Ar ôl cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r fangre bellach beidio â bod yn safle arolygu ar y ffin, er gwaethaf y ffaith y gall ymddangos o hyd ar y rhestr o safleoedd arolygu ar y ffin sydd wedi'i chynnwys yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC, nes iddi gael ei chymeradwyo unwaith eto fel safle arolygu ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

Swyddogaethau rheoliadol archwilwyr pysgod swyddogol

14.  Yn Rhannau 3 i 9, a Rhan 13, pan fydd cynnyrch pysgodfeydd o dan sylw, rhaid dehongli'r ymadrodd “milfeddyg swyddogol” fel archwilydd pysgod swyddogol fel y'i diffiniwyd yn rheoliad 2.

(3)

O.S. 1995/2148, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205 a 2000/656.

(6)

OJ Rhif L306, 23.11.2001, t.28.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources