Search Legislation

Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CYNIGION A GYHOEDDIR

1.  Datganiad bod y cynigion yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor.

2.  Y dyddiad y bwriedir gweithredu'r cynigion neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, y dyddiad y bwriedir gweithredu pob cam.

3.  Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y gall disgyblion sydd yn yr ysgol y bwriedir cau'r ddarpariaeth ar eu cyfer fynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.

4.  Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.

5.  Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i gau'r ddarpariaeth.

6.  Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y mae'r cynigion wedi'u gweithredu neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y mae pob cam wedi'u gweithredu.

7.  Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth—

(a)mewn ysgol gymunedol neu ysgol gymunedol arbennig, datganiad mai dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion,

(b)mewn ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol sefydledig arbennig, datganiad mai dyletswydd ar y corff llywodraethu yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion.

8.  Os cynigion ydynt i gau—

(a)sefydliad 16—19 oed sy'n ysgol gymunedol neu'n ysgol gymunedol arbennig, datganiad mai dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion,

(b)sefydliad 167mdash;19 oed sy'n ysgol wirfoddol neu'n ysgol sefydledig, datganiad mai dyletswydd wedi'i rhannu gan y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion.

9.  Datganiad yn esbonio effaith paragraff 41 o Atodlen 7 a rheoliad 7 gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

10.  Cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ato.

Rheoliad 5

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON AT Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL

RHAN IDEHONGLI

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “addysg chweched dosbarth” (“sixth form education”) yw addysg llawn amser sy'n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “arholiadau Safon Uwch TAG” (“GCE ‘A’ level examinations”) ac “arholiadau Uwch Gyfrannol TAG” (“GCE ‘AS’ examinations”) yw arholiadau safon uwch y Dystysgrif Gyffredinol Addysg ac arholiadau uwch gyfrannol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg yn ôl eu trefn;

  • ystyr “y flwyddyn ysgol gyfredol” (“the current school year”) yw'r flwyddyn ysgol y cyhoeddir y cynigion ynddi;

  • ystyr “GNVQ” yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

  • ystyr “NVQ” yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;

  • ystyr “y radiws perthnasol” (“the relevant radius”) yw radiws o 4.828032 cilomedr (tair milltir);

  • mae i “rhif safonol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant standard number” gan adran 84(6) o Ddeddf 1998; ac

  • ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.

(2At ddibenion yr Atodlen hon penderfynir ar faint o le sydd mewn ysgol yn unol ag Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgol) (Cymru) 1999(1).

RHAN IIYR WYBODAETH SYDD I'W HANFON YM MHOB ACHOS PAN FYDD YSGOL YN YSGOL PRIF-FFRWD

2.  Amcanion y cynnig.

3.   Manylion yr ymgynghori cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys—

(a)copïau o'r dogfennau ymgynghori; a

(b)barn ac ymatebion y personau yr ymgynghorwyd â hwy.

4.  Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion a phob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol ac ysgol sefydledig arall o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol.

5.  Rhestr o bob ysgol uwchradd o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol sy'n destun y cynigion, sy'n datgan pa rai o'r ysgolion hynny a gynhelir gan awdurdod addysg lleol gwahanol, ynghyd â'r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ysgol o'r fath am y flwyddyn ysgol gyfredol, ac am y flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch));

(a)y rhif safonol perthnasol ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol;

(b)nifer y grwpiau blwyddyn;

(c)faint o le sydd yn yr ysgol; ac

(ch)nifer y disgyblion yn yr ysgol

a rhagolwg o'r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

6.  Y manylion canlynol addysg chweched dosbarth a ddarperir ar hyn o bryd yn yr ysgol—

(a)cyrsiau sy'n arwain at arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol TAG,

(b)cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol uwch (GNVQ uwch yn benodol),

(c)cyrsiau eraill, ac

(ch)nifer y disgyblion sy'n mynychu pob un o'r cyrsiau.

7.  Copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(2) y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.

RHAN IIIYR WYBODAETH SYDD I'W HANFON YM MHOB ACHOS PAN FYDD YSGOL YN YSGOL ARBENNIG

8.  Amcanion y cynnig.

9.  Manylion yr ymgynghori cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys—

(a)copïau o'r dogfennau ymgynghori; a

(b)barn ac ymatebion y personau yr ymgynghorwyd â hwy.

10.  Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion.

11.  Rhestr o'r canlynol—

(a)yr holl ysgolion arbennig sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, a

(b)yr holl ysgolion eraill a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol y mae darpariaeth ynddynt a gydnabyddir gan yr awdurdod addysg lleol yn un a gedwir ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig,

yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

12.  Gwybodaeth o ran—

(a)nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff 11(a), a

(b)nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff 11(b) y gwneir y ddarpariaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraff hwnnw ar eu cyfer,

yn y flwyddyn ysgol gyfredol a rhagolwg o'r nifer hwnnw am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

13.  Gwybodaeth o ran nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ag anghenion addysgol arbennig o bob un o'r mathau y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol gyfredol ar eu cyfer ynghyd â rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

14.  Copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.

RHAN IVYR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN FYDD Y CYNIGION YN GYNIGION I GAU CHWECHED DOSBARTH

15.  Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (c)),—

(a)nifer y grwpiau blwyddyn,

(b)faint o le sydd yn yr ysgol, ac

(c)nifer y disgyblion sydd yn yr ysgol,

a rhagolwg o'r materion hynny ym mhob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

16.  Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol—

(a)nifer y disgyblion yn yr ysgol,

(b)nifer y disgyblion ym mhob grŵp oedran ac o bob rhyw, ac

(c)nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol,

a rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

17.  Pan fydd y cynigion yn ymwneud ag ysgol wirfoddol, datganiad a fydd, o ganlyniad i'r cynigion, angen mwyach am y tir a'r adeiladau a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol ac os na fydd angen—

(a)datganiad a yw'r tir a'r adeiladau hynny i'w gwerthu, ac os felly, amcangyfrif o arenillion y gwerthiant, a

(b)os nad yw'r tir a'r adeiladau i'w gwerthu, datganiad ar ddefnydd arfaethedig y tir a'r adeiladau,

os trefnwyd bod yr wybodaeth honno ar gael i'r Cyngor.

18.  Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grŵp blwyddyn sy'n aros yn yr ysgol sy'n destun cynigion yn y ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.

19.  Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grŵp oedran sydd wedi trosglwyddo o'r ysgol sy'n destun y cynigion i sefydliad arall sy'n darparu addysg llawn amser neu ran-amser yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 18.

20.  Manylion y sefydliadau y trosglwyddodd y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 19 iddynt gan ddangos faint o ddisgyblion a aeth i bob sefydliad felly.

21.  Nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 18 a 19 ym mhob grŵp blwyddyn fel cyfran o gyfanswm y disgyblion yn y grŵp blwyddyn hwnnw.

22.  Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y bwriedir y gall disgyblion sy'n cael addysg chweched dosbarth ar hyn o bryd drosglwyddo iddynt os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

23.  Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau canlynol ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 20—

(a)canlyniadau arholiadau TGAU wedi'u cyfyngu, yn achos ysgolion heblaw'r ysgol sy'n destun y cynigion a cholegau addysg bellach, i ganlyniadau arholiadau TGAU a gymerwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

(b)canlyniadau arholiadau safon Uwch ac Uwch Gyfrannol TAG, ac

(c)NVQs, GNVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill a enillwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

24.  Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 20 sydd yn ysgolion.

25.  Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 20 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 22 (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).

RHAN VYR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN FYDD Y CYNIGION YN GYNIGION I GAU SEFYDLIAD 16—19 OED

26.  Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch)),—

(a)y rhif safonol perthnasol ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol;

(b)nifer y grwpiau blwyddyn;

(c)faint o le sydd yn yr ysgol; ac

(ch)nifer y disgyblion yn yr ysgol.

27.  Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r pedair blwyddyn ysgol flaenorol—

(a)nifer y disgyblion yn yr ysgol;

(b)nifer y disgyblion ym mhob grŵp oedran ac o bob rhyw; ac

(c)nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol.

28.  Yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ystafelloedd yn yr ysgol—

(a)lleoliad yr ystafelloedd;

(b)a yw'r ysgol ar safle sengl neu ar safle wedi'i rannu; ac

(c)manylion yr ystafelloedd cyffredinol ac arbenigol.

29.  Manylion yr ysgolion a'r colegau addysg bellach y gellid yn rhesymol, ym marn y Cyngor, ddisgwyl i'r disgyblion a fyddai fel arall wedi mynychu'r ysgol allu eu mynychu ar ôl darfod oedran ysgol gorfodol os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

30.  Os ysgol prif-ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 23 am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 29.

31.  Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 29 sydd yn ysgolion.

32.  Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a bennir ym mharagraff 29 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1).

Rheoliad 10

ATODLEN 3CYNIGION O DAN BARAGRAFF 43(4) O ATODLEN 7

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “y cynigion gwreiddiol” (“the original proposals”) yw'r cynigion a gymeradwywyd o dan Ran III o Atodlen 7 y mae'r cynigion newydd yn ymwneud â hwy; ac

  • ystyr “y cynigion newydd” (“the new proposals”) yw'r cynigion hynny a grybwyllir ym mharagraff 43(4) o Atodlen 7.

2.  Rhaid i'r cynigion newydd—

(a)pan fydd yr ysgol yn ysgol prif-ffrwd gael eu cyhoeddi—

(i)drwy gael eu gosod mewn man amlwg yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu;

(ii)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; a

(iii)drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

(b)pan fydd yr ysgol yn ysgol arbennig gael eu cyhoeddi—

(i)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol; a

(ii)drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

3.  Rhaid i'r cynigion newydd gynnwys—

(a)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cynigion gwreiddiol, a

(b)datganiad paham y bwriedir na ddylid gweithredu'r cynigion gwreiddiol

4.  Cyn cyhoeddi'r cynigion newydd rhaid i'r Cyngor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghori â'r personau hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

5.  Rhaid i'r Cyngor anfon—

(a)copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd;

(b)copi o'r wybodaeth a anfonir at y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 21(1)(b) neu 29(1)(b) o Atodlen 7 a rheoliad 5 pan gyhoeddwyd y cynigion gwreiddiol; ac

(c)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 5 a fyddai'n gymwys pe bai'r cynigion gwreiddiol wedi'u cyhoeddi pan gyhoeddwyd y cynigion newydd;

at y Cynulliad Cenedlaethol.

6.  Pan fydd yr ysgol sy'n destun y cynigion newydd yn ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd at y cyrff neu'r personau yr anfonwyd copi o'r cynigion gwreiddiol atynt o dan baragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 a rheoliad 6.

7.  Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion newydd at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources