- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “coleg addysg bellach” (“further education college”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992)(1));
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
ystyr “cynigion i gau chweched dosbarth” (“proposals to discontinue a sixth form”) yw cynigion o'r math a grybwyllir ym mharagraff 20(1) o Atodlen 7;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad o anghenion addysgol arbennig” (“statement of special educational needs”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a gynhelir o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;
mae i “grŵp oedran perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant age group” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “sefydliad 16 i 19 oed” (“16 to 19 institution”) yw ysgol a gynhelir—
sy'n darparu addysg llawn amser sy'n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, a
nad yw'n darparu addysg llawn amser sy'n addas i ofynion disgyblion oedran ysgol gorfodol;
ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig;
ystyr “ysgol prif-ffrwd” (“mainstream school”) yw ysgol a gynhelir heblaw ysgol arbennig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodlen 7 yn gyfeiriad at Atodlen 7 i Ddeddf 2000.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn dyddiad cyhoeddi cynigion yw—
(a)y dyddiad pan fodlonir gofynion rheoliad 4; neu
(b)pan fodlonir gofynion gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, yr olaf o'r dyddiadau hynny.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i gynigion a gyhoeddir o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7 ei chynnwys at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7.
(2) Rhaid i'r cynigion hynny gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
4.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi dull cyhoeddi'r cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7 at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7.
(2) Os ysgol a gynhelir yw'r ysgol, rhaid cyhoeddi cynigion o'r fath—
(a)drwy eu gosod mewn man amlwg yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu;
(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; ac
(c)drwy eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl neu, os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.
(3) Pan fydd ysgol yn ysgol arbennig, rhaid cyhoeddi cynigion o'r fath—
(a)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol; a
(b)drwy eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl neu, os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.
5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraffau 21(1)(b) a 29(1)(b) o Atodlen 7, yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol prif-ffrwd, neu Ran III o'r Atodlen honno, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, ynghyd â'r canlynol—
(a)yr wybodaeth a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen honno, os yw'r cynigion yn gynigion i gau chweched dosbarth; neu
(b)yr wybodaeth a bennir yn Rhan V o'r Atodlen honno, os yw'r cynigion yn gynigion i gau sefydliad 16—19 oed.
(3) Mae Rhan I o Atodlen 2 yn gymwys er mwyn dehongli'r termau a ddefnyddir yn Rhannau II i V o'r Atodlen honno.
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7, y cyrff neu'r personau, yn achos ysgol arbennig, y mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt.
(2) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir—
(a)at yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(b)at bob awdurdod addysg lleol sy'n cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol honno;
(c)at rieni pob disgybl cofrestredig sydd yn yr ysgol;
(ch)at unrhyw Awdurdod Iechyd sy'n gweithredu dros unrhyw ardal sy'n cynnwys unrhyw ran o ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal neu y cynigir y dylai gynnal yr ysgol; a
(d)at unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb am berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion paragraff 41 o Atodlen 7, y cyfnod pryd y gellir anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion at y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid anfon gwrthwynebiadau at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.
8.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi mathau o ddigwyddiadau at ddibenion paragraff 42(4) o Atodlen 7 (sy'n darparu y gall cymeradwyaeth i gynigion fod yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig sydd o fath rhagnodedig ac sy'n gorfod digwydd erbyn amser penodedig).
(2) Y mathau o ddigwyddiadau yw unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n ymwneud ag unrhyw ysgol neu ysgol arfaethedig arall y cyhoeddwyd cynigion ynglyn â hi o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998—
(a)rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran III o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);
(b)caffael tir y mae'r ysgol newydd, ehangiad arfaethedig o safle'r ysgol neu newid arall yn safle'r ysgol i gael eu hadeiladau arno;
(c)caffael meysydd chwarae sydd i'w darparu ar gyfer yr ysgol;
(ch)sicrhau unrhyw fynedfa angenrheidiol i dir neu feysydd chwarae y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c) yn ôl eu trefn yn y paragraff hwn;
(d)gwneud trafodiad cyllid preifat o fewn ystyr rheoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(4); ac
(dd)gwneud unrhyw gynllun sy'n ymwneud ag unrhyw elusen sy'n gysylltiedig â'r ysgol neu'r ysgol arfaethedig.
9.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan baragraff 42(1) neu 43(2) o Atodlen 7—
(a)y Cyngor;
(b)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
(c)os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, pob awdurdod addysg lleol sy'n cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(ch)corff llywodraethu'r ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi; a
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), pob gwrthwynebydd y darparwyd cyfeiriad ar ei gyfer i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (1), yn hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw o benderfyniad rhaid iddynt eu hysbysu hefyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(3) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1)(d)—
(a)drwy hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos iddynt ei fod wedi trefnu i'r ddeiseb gael ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol (os darparwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw); neu
(b)os nad oes person o'r fath (neu os na ddarparwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw), drwy hysbysu unrhyw un wrthwynebydd y mae ei enw'n ymddangos ar y ddeiseb.
10. Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7 (cynigion a gafodd eu cyhoeddi a'u cymeradwyo'n flaenorol o dan Atodlen 7 nad ydynt i'w gweithredu).
11. Os bydd ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cyhoeddi o dan Atodlen 7 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, yn newid categori o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 o ysgol gymunedol neu ysgol gymunedol arbennig rhaid i'r cynigion (i'r graddau nad ydynt wedi cael eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol (er gwaethaf paragraff 44 o Atodlen 7).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis - Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Chwefror 2002
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: