Search Legislation

Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgol gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor”) gyhoeddi cynigion i newid ysgol a gynhelir fel na fydd mwyach yn darparu addysg chweched dosbarth, neu i gau ysgol a gynhelir sy'n sefydliad 16—19 oed os oes, a siarad yn fras, ddau adroddiad olynol yn datgan bod y chweched dosbarth yn annigonol neu fod ar sefydliad 16—19 oed angen mesurau arbennig neu fod ganddo wendidau arwyddocaol.

Mae'r Atodlen yn nodi gweithdrefnau ar gyfer arfer y pwerau hyn gan y Cyngor. Yn benodol, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi cynigion y mae arnynt angen cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Nodir y fframwaith ar gyfer y gweithdrefnau hyn yn yr Atodlen, ond mae llawer o'r manylion i'w rhagnodi mewn Rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r gweithdrefnau hynny.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 gydag Atodlen 1 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r modd y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion.

Mae rheoliad 5 gydag Atodlen 2 yn rhagnodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r cynigion a gyhoeddir.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi cyrff eraill y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion atynt yn achos ysgolion arbennig.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y terfynau amser i wrthwynebu cynigion.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi'r digwyddiadau y gellir eu pennu yn achos cymeradwyaeth amodol i'r cynigion.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybodaeth am ei benderfyniadau i'r personau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 10 gydag Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynigion gan y Cyngor na ddylid gweithredu cynigion blaenorol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth arbennig i weithredu cynigion pan fydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol arbennig gymunedol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources