Search Legislation

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1424 (Cy.99)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001

Wedi'u gwneud.

5 Ebrill 2001

Yn dod i rym

1 Mehefin 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(2)(a) a (3), 6, 15 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), a pharagraff 9 o Atodlen 1 ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac wedi ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN IRHAGARWEINIAD

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “achos disgyblu” (“disciplinary proceedings”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yng Nghymru neu Loegr yw achos disgyblu o dan Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

  • ystyr “Cod Ymarfer” (“Code of Practice”) yw'r cod ymarfer yr awdurdodir ei gyhoeddi o dan reoliad 13 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3);

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “y Gofrestr” (“the Register”) yw'r gofrestr o athrawon y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;

  • ystyr “gorchymyn disgyblu” (“disciplinary order”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yng Nghymru neu Loegr yw “cerydd” (“a reprimand”), “gorchymyn cofrestru amodol” (“a conditional registration order”), “gorchymyn atal” (“a suspension order”) neu “gorchymyn gwahardd” (“a prohibition order”) o fewn ystyr Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

  • ystyr “Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol” (“Professional Competence Committee”) yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 6(1);

  • ystyr “Pwyllgor Ymchwilio” (“Investigating Committee”) yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 3(1);

  • ystyr “Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol” (“Professional Conduct Committee”) yw pwyllgor a sefydlir o dan reoliad 5(1);

  • mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(4);

  • mae i “sefydliad yn y sector addysg uwch” yr ystyr ag a roddir i “institution within the higher education sector” gan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • mae i “tramgwydd perthnasol” yr un ystyr ag sydd i “relevant offence” yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

  • mae i “ymddygiad proffesiynol annerbyniol” yr un ystyr ag sydd i “unacceptable professional conduct” yn Atodlen 2 i Ddeddf 1998;

  • mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” yr un ystyr ag a roddir i “school maintained by a local education authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

  • mae i “ysgol annibynnol” yr un ystyr ag sydd i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996(6); ac

  • mae i “ysgol arbennig” yr un ystyr ag sydd i “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf Addysg 1996(7).

(2Yn rheoliadau 18 ac 28, ystyr “cyflogydd” (“employer”) yw—

(a)person sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig i weithio fel athro neu athrawes—

(i)mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol,

(ii)mewn ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,

(iii)mewn sefydliad sy'n darparu addysg bellach neu uwch neu'r ddwy ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu sy'n sefydliad yn y sector addysg bellach, neu

(iv)sefydliad yn y sector addysg uwch sy'n derbyn cymorth ariannol o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(8));

(b)awdurdod addysg lleol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig i weithio fel athro neu athrawes heblaw mewn ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn is-baragraff (a);

(c)awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sydd o fewn is-baragraff (a) sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn gwaith heblaw gwaith athro neu athrawes sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed; ac

(ch)person sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig mewn ysgol annibynnol, neu berchennog ysgol annibynnol sy'n cyflogi athro neu athrawes gofrestredig, i weithio fel athro neu athrawes neu mewn gwaith arall sy'n dod ag ef neu hi yn rheolaidd i gysylltiad â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg oed, ac mae'n cynnwys person sy'n rhoi gwaith i athro neu athrawes gofrestredig (neu'n trefnu rhoi gwaith iddynt) i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” a “cyflogir” (“employed”) yn unol â hynny.

(3) (aYn rheoliadau 7, 8 a 9 ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol; a

(b)yn rheoliadau 11 i 16, 18 a 23 a pharagraff 8 i'r Atodlen ystyr “Pwyllgor” (“Committee”) yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol.

(4Yn rheoliadau 11 i 15 ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, neu wrandawiad o dan reoliad 20, 21 neu 22.

(5Yn rheoliadau 8 ac 28 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998, ac yng ngweddill y Rheoliadau hyn mae'n golygu—

(a)person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;

(b)person a oedd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu

(c)person sydd wedi gwneud cais am gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998.

(6Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(b)rheoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(c)paragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y gwelir y cyfeiriad ynddi neu ynddo; ac

(ch)is-baragraff â rhif yn gyfeiriad at yr is- baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.

RHAN IISWYDDOGAETHAU DISGYBLU Y CYNGOR

Sefydlu Pwyllgorau Ymchwilio

3.—(1Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Ymchwilio er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio yw—

(a)cynnal unrhyw ymchwiliadau a welant yn dda mewn achosion—

(i)pan honnir bod athro neu athrawes gofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu eu bod wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol, neu

(ii)pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn neu wedi'u collfarnu fel hyn; a

(b)penderfynu, yng ngoleuni eu hymchwiliadau—

(i)a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer dyfarniad,

(ii)a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer dyfarniad,

(iii)a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol ac mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac a ddylai'r achos gael ei gyfeirio at naill ai Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer dyfarniad, fel y gwelant yn dda,

(iv)a oes gan athro neu athrawes gofrestredig ddim achos i'w ateb ac y dylai'r achos yn eu herbyn gael ei ollwng, neu

(v)a ddylai'r achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig gael ei ollwng ar sail arall.

Dirprwyo swyddogaethau Pwyllgorau Ymchwilio

4.—(1Caiff Pwyllgor Ymchwilio ddirprwyo'r swyddogaethau canlynol i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor—

(a)penderfynu a ddylid ymchwilio i honiadau o natur neu ddisgrifiad penodol, neu i honiadau penodol, ac ymchwilio iddynt—

(i)yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig, neu

(ii)bod athro neu athrawes gofrestredig wedi'u collfarnu o dramgwydd perthnasol;

(b)penderfynu a oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb mewn perthynas â mater yr ymchwiliodd y gweithiwr cyflogedig iddo o dan is-baragraff (a);

(c)gollwng achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig os yw'r gweithiwr cyflogedig wedi penderfynu o dan baragraff (b) nad oes achos i'w ateb.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys wrth i un o weithwyr cyflogedig y Cyngor arfer swyddogaeth fel y byddent yn gymwys wrth i Bwyllgor Ymchwilio arfer y swyddogaeth honno.

Sefydlu Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol

5.—(1Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Swyddogaethau Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yw—

(a)penderfynu ar achosion a gyfeirir atynt gan Bwyllgor Ymchwilio pan oedd yn ymddangos i'r Pwyllgor Ymchwilio bod gan yr athro neu'r athrawes gofrestredig achos i'w ateb—

(i)mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol, neu

(ii)mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol a hefyd mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol;

(b)pan fydd Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn dyfarnu bod athro neu athrawes—

(i)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu eu bod wedi'u collfarnu o dramgwydd perthnasol, neu

(ii)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu eu bod wedi'u collfarnu o dramgwydd perthnasol, a hefyd yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol,

ystyried a ddylid gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno ac, os ydynt o'r farn y dylid gwneud gorchymyn o'r fath, gwneud gorchymyn o'r fath; ac

(c)penderfynu ar geisiadau o dan reoliad 20 neu 22 neu ar faterion sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 neu 23.

Sefydlu Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol

6.—(1Rhaid i'r Cyngor sefydlu un neu ragor o bwyllgorau i'w galw'n Bwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(2Swyddogaethau Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol yw—

(a)penderfynu ar achosion a gyfeirir atynt gan Bwyllgor Ymchwilio pan oedd yn ymddangos i'r Pwyllgor Ymchwilio bod gan yr athro neu'r athrawes gofrestredig achos i'w ateb—

(i)mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)mewn perthynas ag anghymhwysedd proffesiynol difrifol a hefyd mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu gollfarn am dramgwydd perthnasol;

(b)pan fydd Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol yn dyfarnu bod athro neu athrawes—

(i)yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu

(ii)yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol a hefyd yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu eu bod wedi'u collfarnu o dramgwydd perthnasol,

ystyried a ddylid gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno ac, os ydynt o'r farn y dylid gwneud gorchymyn o'r fath, gwneud gorchymyn o'r fath; ac

(c)penderfynu ar geisiadau o dan reoliad 20 neu 22 neu ar faterion sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 neu 23.

Defnyddio'r Cod Ymarfer mewn materion disgyblu

7.  Caiff Pwyllgor gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant gan athro neu athrawes gofrestredig i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer mewn unrhyw achos disgyblu yn erbyn yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.

Aelodaeth Pwyllgorau a'u gweithdrefn

8.—(1Rhaid i'r Cyngor gynnwys ar Bwyllgor—

(a)un neu ragor o aelodau lleyg;

(b)un neu fwy o aelodau sy'n athrawon cofrestredig; ac

(c)os nad oes yr un o'r aelodau lleyg neu'r aelodau sy'n athrawon cofrestredig yn aelodau o'r Cyngor, un neu ragor o aelodau o'r Cyngor.

(2Nid yw person nad yw, yn rhinwedd rheoliad 5(2) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999(9), yn gymwys i fod yn aelod o'r Cyngor nac i bleidleisio mewn etholiad ar gyfer aelodau etholedig o'r Cyngor yn gymwys i fod yn aelod o Bwyllgor.

(3Tri aelod fydd y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor, gan gynnwys un aelod lleyg, un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac os nad oes aelod lleyg neu aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig sy'n bresennol yn aelod o'r Cyngor, un aelod o'r Cyngor.

(4Rhaid peidio â phenodi person sy'n aelod o Bwyllgor Ymchwilio sy'n ymchwilio i achos yn aelod o'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu'r Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol a fydd yn penderfynu ar yr achos hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 20 a 22, caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth a welant yn dda ynghylch y canlynol—

(a)aelodaeth Pwyllgor;

(b)ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal eu swydd ac ymadael â hi; ac

(c)gweithdrefn Pwyllgor.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “aelod lleyg” yw aelod o'r Pwyllgor—

(i)nad yw'n athro neu'n athrawes gofrestredig, nac ychwaith

(ii)wedi'i gyflogi, neu wedi cael gwaith yn darparu gwasanaethau heblaw o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes neu wedi'i gyflogi neu wedi cael gwaith felly yn ystod y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad y penodir y person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod lleyg sy'n dod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n ymgymryd â swydd fel athro neu athrawes neu y rhoddir gwaith iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod lleyg mwyach;

(b)ystyr “aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig” yw aelod o'r Pwyllgor—

(i)sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, a

(ii)a gyflogir, neu y rhoddwyd gwaith iddynt yn darparu gwasanaethau heblaw o dan gontract cyflogaeth, fel athro neu athrawes ar ddyddiad penodi'r person hwnnw i'r Pwyllgor,

ac ni fydd aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig ac sy'n peidio â bod yn athro neu'n athrawes gofrestredig neu sy'n rhoi'r gorau i swydd athro neu athrawes neu i waith a roddwyd iddo neu iddi fel athro neu athrawes yn cael ei ystyried yn aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig mwyach; ac

(c)ystyr “aelod o'r Cyngor” yw aelod o'r Pwyllgor sy'n aelod o'r Cyngor.

Gwahardd neu gyfyngu pwerau Pwyllgorau

9.—(1Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos—

(a)pan honnir bod athro neu athrawes gofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu eu bod wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol, neu pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn neu wedi'u collfarnu fel hyn; ond

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer ei bwerau a roddwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(10) oherwydd ei fod yn codi materion ynghylch diogelwch a lles personau o dan 19 oed.

(2Mae swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio o dan y Rheoliadau hyn wedi eu gwahardd mewn achos

(a)pan honnir bod athro neu athrawes gofrestredig yn euog o anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn; ond

(b)nad oes gwybodaeth wedi'i rhoi i'r Cyngor yn unol â rheoliad 28 mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno.

Trafodion Pwyllgorau Ymchwilio

10.—(1Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid iddynt, mewn unrhyw gam o'r ymchwiliad a welant yn dda—

(a)rhoi gwybod i'r athro neu'r athrawes am natur yr honiad neu'r achos yn eu herbyn a'u hawliau o dan reoliad 12;

(b)rhoi cyfle i'r athro neu'r athrawes gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)ystyried y dystiolaeth a'r sylwadau hynny ac unrhyw dystiolaeth a deunydd arall sydd ar gael iddynt.

(2Caiff Pwyllgor Ymchwilio benderfynu gollwng ymchwiliad ar unrhyw adeg cyn i achos gael ei gyfeirio ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol.

(3Pan fydd eu hymchwiliad wedi'i gwblhau, rhaid i'r Pwyllgor Ymchwilio gymryd un o'r camau canlynol—

(a)cyfeirio'r achos at Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer dyfarniad;

(b)cyfeirio'r achos at Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer dyfarniad;

(c)gollwng yr achos.

(4Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu gollwng ymchwiliad neu achos, rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes gofrestredig o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd ganddynt achos i'w ateb.

(5Pan fydd Pwyllgor Ymchwilio'n penderfynu nad oes gan athro neu athrawes gofrestredig achos i'w ateb, os bydd ef neu hi'n gwneud cais, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

(6Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor Ymchwilio mewn cysylltiad â'u hymchwiliadau a'u trafodion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.

Trafodion Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol

11.—(1Rhaid i Bwyllgor benderfynu achosion yn erbyn athrawon cofrestredig a gyfeirir atynt gan Bwyllgor Ymchwilio yn unol â pharagraffau (2) i (6), rheoliadau 12 i 15 a rheolau a wneir gan y Cyngor o dan reoliad 16.

(2Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3), rhaid i Bwyllgor benderfynu ar bob achos, pob cais o dan reoliad 20 neu 22 neu bob mater sy'n codi mewn perthynas â gorchmynion disgyblu o dan reoliad 21 ar ôl gwrandawiad.

(3Caiff Pwyllgor benderfynu ar achos, cais o dan reoliad 20 neu 22 neu fater sy'n codi mewn perthynas â gorchymyn disgyblu o dan reoliad 21 heb wrandawiad ar gais ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes gofrestredig y mae'r achos disgyblu'n cael ei ddwyn yn eu herbyn neu y cafodd y gorchymyn disgyblu ei wneud yn eu herbyn onid yw'n ymddangos iddynt ei bod yn angenrheidiol cynnal gwrandawiad cyhoeddus er lles cyfiawnder neu er lles y cyhoedd.

(4Ar unrhyw adeg ar ôl i achos gael ei gyfeirio atynt gan Bwyllgor Ymchwilio, caiff Pwyllgor benderfynu gollwng yr achos hwnnw, ac os penderfynant ollwng achos rhaid iddynt roi gwybod i'r athro neu'r athrawes o dan sylw, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod ar yr un pryd i'r athro neu'r athrawes a ydynt wedi penderfynu nad oedd yna achos yn eu herbyn.

(5Pan fyddant yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig heb ei brofi, os bydd yr athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i Bwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

(6Pan fyddant yn dyfarnu bod athro neu athrawes gofrestredig—

(a)yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu

(b)wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol,

caiff Pwyllgor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno yn unol â rheoliad 18.

Yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiadau a chael cynrychiolydd yno

12.—(1Mae gan athro neu athrawes gofrestredig hawl i ymddangos a chyflwyno sylwadau llafar a chael eu cynrychioli gan unrhyw berson neu bersonau a ddymunant mewn unrhyw wrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried.

(2Os nad yw athro neu athrawes gofrestredig yn ymddangos mewn gwrandawiad gan y Pwyllgor lle y mae eu hachos yn cael ei ystyried, mae gan yr athro neu'r athrawes hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

Presenoldeb tystion

13.  Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu'n cyflwyno dogfennau neu dystiolaeth berthnasol arall mewn unrhyw wrandawiad.

Gofyniad bod gwrandawiadau'n cael eu cynnal yn gyhoeddus

14.—(1Rhaid i Bwyllgor gyhoeddi eu dyfarniad ar ganlyniad pob gwrandawiad yn gyhoeddus ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid cynnal holl wrandawiadau Pwyllgor yn gyhoeddus.

(2Caiff Pwyllgor ystyried yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod gwrandawiad neu ar ei ôl.

(3Caiff Pwyllgor wahardd y cyhoedd o wrandawiad neu o unrhyw ran o wrandawiad—

(a)os yw'n ymddangos iddynt ei bod yn angenrheidiol gwahardd y cyhoedd er lles cyfiawnder;

(b)os yw'r athro neu'r athrawes gofrestredig y mae'r achos yn cael ei ddwyn yn eu herbyn yn gwneud cais ysgrifenedig i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat ac nad yw'r Pwyllgor o'r farn bod cynnal y gwrandawiad yn breifat yn groes i les y cyhoedd; neu

(c)os yw'n angenrheidiol er mwyn diogelu lles plant.

Gweinyddu llwon a chadarnhadau

15.  Caiff Pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dyst mewn gwrandawiad roi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad ac at y diben hwnnw gall llw neu gadarnhad ar ffurf briodol gael ei weinyddu.

Darpariaethau eraill ynghylch gweithdrefn Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol a Phwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol

16.  Caiff y Cyngor wneud unrhyw ddarpariaeth arall a welant yn dda ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan Bwyllgor mewn cysylltiad â'u dyfarniadau ac achosion eraill, ac o bryd i'w gilydd cânt ddiwygio unrhyw reolau gweithdrefn a wneir o dan y paragraff hwn.

Cyfeirio achosion at Bwyllgorau eraill

17.—(1Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, a chaiff Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos ar gyfer dyfarniad gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol.

(2Caiff Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol gyfeirio achos at Bwyllgor Ymchwilio.

Gorchmynion disgyblu

18.—(1Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a'r dyddiad y mae effaith y gorchymyn yn dechrau.

(2Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu'r holl amodau sy'n berthnasol i'w cyflogaeth fel athro neu athrawes y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes gofrestredig gydymffurfio â hwy, ac mewn perthynas â phob amod o'r fath, naill ai'r cyfnod y mae'n effeithiol, neu ei fod yn effeithiol heb derfyn amser (yn ôl fel y digwydd).

(3Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn atal bennu ymhen pa gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) y daw'r athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru eto.

(4Yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i orchymyn gwahardd bennu'r cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na dwy flynedd yn dechrau ar y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn yn dechrau) pryd na chaiff cais gael ei wneud am ddyfarniad bod yr athro neu'r athrawes yn gymwys ar gyfer cofrestru.

(5Ac eithrio lle bydd Pwyllgor yn penderfynu fel arall, bydd effaith gorchymyn disgyblu'n dechrau ar y dyddiad y caiff hysbysiad amdano ei gyflwyno i'r person y mae'n cael ei wneud mewn perthynas ag ef.

(6Rhaid i Bwyllgor—

(a)cyflwyno hysbysiad am y gorchymyn disgyblu i'r person y mae'n cael ei wneud mewn perthynas ag ef gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)testun y gorchymyn,

(ii)disgrifiad o effaith y gorchymyn,

(iii)rhesymau'r Pwyllgor dros wneud y gorchymyn,

(iv)hysbysiad o hawl y person i wneud apêl i'r Uchel Lys yn erbyn y gorchymyn a'r cyfnod amser ar gyfer gwneud apêl o'r fath,

(v)os gorchymyn cofrestru amodol yw'r gorchymyn, esboniad o'r camau y mae gan y Pwyllgor bŵ er i'w cymryd os bydd y person yn methu â chydymffurfio ag amod a bennir ynddo, ac esboniad o'i hawl i wneud cais am amrywio neu ddiddymu amod a bennir yn y gorchymyn a'r dull ar gyfer gwneud cais o'r fath, a

(vi)os gorchymyn gwahardd yw'r gorchymyn, esboniad o hawl y person i wneud cais am ddyfarniad ei fod yn gymwys i'w gofrestru a'r dull ar gyfer gwneud cais o'r fath;

(b)cyflwyno hysbysiad o'r gorchymyn i'w gyflogydd presennol neu ddiwethaf; ac

(c)anfon copi o'r gorchymyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(7Ar ôl i Bwyllgor ddyfarnu ar achos, os penderfynant beidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Pwyllgor roi gwybod am eu penderfyniad i'r athro neu'r athrawes gan gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad ac wrth wneud hynny rhaid iddynt roi gwybod iddynt ar yr un pryd a ydynt wedi penderfynu nad yw'r achos yn eu herbyn wedi'i brofi.

(8Os nad ydynt yn dyfarnu bod yr achos yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig wedi'i brofi, os yw'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gwneud cais, rhaid i'r Pwyllgor gyhoeddi datganiad i'r perwyl hwnnw.

Cyhoeddi gorchmynion disgyblu

19.—(1Caiff y Cyngor gyhoeddi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â gorchymyn disgyblu—

(a)ar wefan a gedwir ganddynt ar y rhyngrwyd am gyfnod o dri mis yn dechrau ar y dyddiad y mae effaith y gorchymyn yn dechrau; neu

(b)mewn unrhyw fodd arall a welant yn dda.

(2Yr wybodaeth sydd i gael ei chyhoeddi yw—

(a)enw'r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef ac enw'r ysgol neu'r sefydliad addysg yn y sector addysg uwch neu bellach y cafodd y person ei gyflogi ynddo ddiwethaf, neu os cafodd ei gyflogi ddiwethaf gan awdurdod addysg lleol i weithio fel athro neu athrawes heblaw mewn ysgol neu sefydliad addysg yn y sector addysg uwch neu bellach enw'r awdurdod addysg lleol a'i cyflogodd;

(b)y math o orchymyn disgyblu;

(c)ar ba ddyddiad y cafodd y gorchymyn disgyblu ei wneud a phryd y mae ei effaith yn dechrau;

(ch)a ddyfarnwyd y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu ei gollfarnu o dramgwydd perthnasol;

(d)os dyfarnwyd y person yn euog o dramgwydd perthnasol, natur a dyddiad y gollfarn o dan sylw; ac

(dd)os dyfarnwyd y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, awgrym o natur yr ymddygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn.

Cais am amrywio amod mewn gorchymyn cofrestru amodol, neu am roi amod o'r neilltu

20.—(1Caiff athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud mewn perthynas â hwy wneud cais i'r Cyngor am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r athro neu'r athrawes gofrestredig yn gofyn am amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.

(3Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

(4Os cafodd gorchymyn cofrestru amodol y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

Canlyniadau methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol

21.  Os yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol neu Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol wedi'u bodloni bod athro neu athrawes gofrestredig y mae gorchymyn cofrestru amodol wedi'i wneud yn eu herbyn wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw amod ynddo, gallant wneud gorchymyn gwahardd neu atal mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes.

Gorchmynion gwahardd

22.—(1Caiff person y mae gorchymyn gwahardd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor am ddyfarniad ei fod yn gymwys i'w gofrestru.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn am y dyfarniad, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.

(3Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

(4Os cafodd gorchymyn gwahardd y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

Adolygu gorchmynion disgyblu

23.  Caiff Pwyllgor benderfynu eu hunain ar unrhyw adeg i ddiddymu gorchymyn disgyblu a wnaed ganddynt—

(a)os cafodd y gorchymyn ei wneud yn unig neu yn bennaf am fod y person y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas ag ef wedi'i gollfarnu o dramgwydd perthnasol, a bod y gollfarn o dan sylw wedi'i dileu ar ôl i'r gorchymyn gael ei wneud; neu

(b)os caiff y Pwyllgor dystiolaeth, ar ôl i'r gorchymyn gael ei wneud, nad ystyriwyd mohoni ganddynt cyn iddynt wneud y gorchymyn, a'u bod yn fodlon na fyddent wedi gwneud y gorchymyn pe buasent yn ymwybodol o'r dystiolaeth honno cyn iddynt ei wneud.

Apelau

24.  Bydd gan unrhyw berson a dramgwyddir gan orchymyn disgyblu sydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef hawl i apelio yn erbyn y gorchymyn i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y caiff hysbysiad y gorchymyn ei gyflwyno iddo.

Gorchmynion disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr

25.  Bydd gorchymyn disgyblu a wneir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr neu gan un o bwyllgorau'r Cyngor hwnnw yn gymwys mewn perthynas â Chymru fel y mae'n gymwys mewn perthynas â Lloegr.

Cyflwyno hysbysiadau a gorchmynion

26.—(1Gall unrhyw beth y mae'n ofynnol ei gyflwyno i berson at ddibenion achos disgyblu—

(a)cael ei roi i'r person hwnnw'n bersonol; neu

(b)cael ei anfon at y person hwnnw drwy'r post i'r cyfeiriad sydd wedi'i gofnodi yn y Gofrestr, neu gael ei adael yn y cyfeiriad hwnnw; neu

(c)os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig i ddogfennau gael eu cyflwyno iddo drwy'r dull hwnnw, cael ei anfon ato drwy gyfrwng cyflunydd neu bost electronig neu ddull tebyg sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan yw'n dod i law'r person hwnnw mewn ffurf ddarllenadwy.

(2At ddibenion rheoliadau 18(5) a 24 cymerir bod hysbysiadau gorchymyn disgyblu wedi'u cyflwyno i'r person y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef—

(a)os cafodd ei roi i'r person hwnnw'n bersonol, ar y diwrnod y cafodd ei roi;

(b)os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad sydd wedi'i gofnodi yn y Gofrestr drwy wasanaeth post sy'n ceisio dosbarthu dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf bob tro neu ran amlaf, neu ei adael yn y cyfeiriad hwnnw, ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddo gael ei anfon neu ei adael;

(c)os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad sydd wedi'i gofnodi yn y Gofrestr drwy wasanaeth post heblaw un sy'n ceisio dosbarthu dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf bob tro neu ran amlaf, ar y pedwerydd diwrnod ar ôl iddo gael ei anfon; neu

(ch)os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig i ddogfennau gael eu cyflwyno iddo drwy ddull o'r fath, ac os cafodd ei anfon at y person hwnnw drwy gyfrwng cyflunydd neu bost electronig neu ddull tebyg sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddo gael ei drosglwyddo.

Cyhoeddi dogfennau a darparu copïau ohonynt

27.—(1Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi—

(a)ar wefan a gedwir ganddynt ar y rhyngrwyd; a

(b)mewn unrhyw fodd arall a welant yn dda,

unrhyw reolau am y gweithdrefnau a wneir o dan reoliadau 10(6) neu 16 ac unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan reoliad 8(5), ac os bydd unrhyw athro neu athrawes gofrestredig yn gofyn, rhaid iddynt roi copi iddynt o'r rheolau hynny neu'r ddarpariaeth honno yn ddi-dâl.

(2Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan reoliad 10(5), 11(5) neu 18(8) ar wefan a gedwir ganddynt ar y rhyngrwyd, ac os dymunant cânt gyhoeddi'r datganiad mewn unrhyw fodd arall a welant yn dda.

RHAN IIIDARPARU GWYBODAETH GAN GYFLOGWYR

Darparu gwybodaeth i'r Cyngor gan gyflogwyr

28.—(1O dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), rhaid i gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig roi i'r Cyngor gopïau o'r holl ddogfennau ac eitemau sydd wedi'u rhestru yn yr Atodlen sydd ar gael i'r cyflogydd mewn perthynas â'r athro hwnnw neu'r athrawes honno.

(2Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y cyflogydd wedi diswyddo'r athro neu'r athrawes ar sail anghymhwysedd; neu

(b)bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddiswyddo mewn amgylchiadau lle y byddai'r cyflogydd wedi diswyddo neu wedi ystyried diswyddo yr athro neu'r athrawes, pe na bai wedi ymddiswyddo, ar sail o'r fath.

(3Rhaid i'r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a roddir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

(4Yn y rheoliad hwn, mae “cyflogydd” yn cynnwys cyn-gyflogydd.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001

Rheoliad 28

ATODLENYr wybodaeth sydd i'w rhoi i'r Cyngor gan gyflogydd athro neu athrawes gofrestredig

1.  Llythyr neu hysbysiad yn terfynu cyflogaeth athro neu athrawes gofrestredig.

2.  Datganiad o'r rhesymau dros y diswyddo.

3.  Cofnodion y cyflogydd ynghylch y diswyddo neu unrhyw ddiswyddo a ystyriwyd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i'r cyflogydd neu a sicrhawyd ganddynt.

4.  Cofnodion y cyflogydd ynghylch ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo athro neu athrawes gofrestredig neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu i ystyried eu diswyddo oni bai bod yr athro neu'r athrawes wedi ymddiswyddo, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweliadau, a thystiolaeth a roddwyd i'r cyflogydd neu a sicrhawyd ganddynt.

5.  Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau'r cyflogydd a roddwyd i athro neu athrawes gofrestredig mewn perthynas â diswyddo'r athro neu'r athrawes neu mewn perthynas ag ystyried eu diswyddo, neu mewn perthynas â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i'w diswyddo neu i ystyried eu diswyddo, oni bai eu bod wedi ymddiswyddo, ac atebion neu sylwadau'r athro neu'r athrawes mewn perthynas â hwy.

6.  Unrhyw ddatganiadau, sylwadau a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan athro neu athrawes gofrestredig i'r cyflogydd mewn perthynas â diswyddo'r athro neu'r athrawes neu mewn perthynas ag ystyried eu diswyddo, neu mewn perthynas â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ddiswyddo'r athro neu'r athrawes neu a fyddai wedi arwain y cyflogydd i'w diswyddo neu i ystyried eu diswyddo oni bai eu bod wedi ymddiswyddo.

7.  Llythyr ymddiswyddo.

8.  Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn y cyflogydd yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gallai Pwyllgor Ymchwilio ei gynnal neu unrhyw achos y gallai Bwyllgor ei ddwyn yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon er lles y cyhoedd.

Yn Rhan II gwneir darpariaeth i bwyllgorau'r Cyngor arfer y pwerau disgyblu a roddir i'r Cyngor gan Ddeddf 1998 mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phersonau sy'n gwneud cais am gofrestru i'r Cyngor. Darperir ar gyfer sefydlu un neu ragor o bob un o'r mathau canlynol o bwyllgor—

(a)Pwyllgorau Ymchwilio, a fydd yn ymchwilio i athrawon cofrestredig, ac yn penderfynu a ddylid dwyn achos yn eu herbyn, pan honnir bod yr athro neu'r athrawes yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu eu bod wedi'u collfarnu (ar unrhyw adeg) o dramgwydd perthnasol, neu pan yw'n ymddangos iddynt y gall athro neu athrawes gofrestredig fod yn euog fel hyn neu eu bod wedi'u collfarnu fel hyn;

(b)Pwyllgorau Ymddygiad Proffesiynol, a fydd yn gwrando achosion disgyblu proffesiynol ynghylch ymddygiad proffesiynol annerbyniol a thramgwyddau perthnasol ac y bydd ganddynt bŵ er i wneud gorchmynion disgyblu (gorchmynion gwahardd, gorchmynion atal, gorchmynion cofrestru amodol neu geryddon) a gwrando ceisiadau mewn perthynas â hwy; ac

(c)Pwyllgorau Cymhwysedd Proffesiynol, a fydd yn gwrando achosion disgyblu ynghylch anghymhwysedd proffesiynol difrifol, ac y bydd ganddynt bŵ er i wneud gorchmynion disgyblu, a gwrando ceisiadau mewn perthynas â hwy.

Mae Rhan II hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad y Pwyllgorau hyn ac i'r Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch materion cyfansoddiadol (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn gwahardd Pwyllgorau Ymchwilio rhag arfer eu swyddagaethau mewn rhai achosion. Mae Rheoliadau 10 i 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodion y Pwyllgorau, gan gynnwys gwrandawiadau, ac mae rheoliad 16 yn galluogi'r Cyngor i wneud darpariaeth bellach ynghylch trafodion. Mae rheoliadau 18 i 23 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion disgyblu. Mae rheoliad 24 yn darparu bod gan berson y gwnaed gorchymyn disgyblu yn ei erbyn hawl i apelio i'r Uchel Lys.

Mae Rhan III yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyflogwyr penodol athrawon cofrestredig roi'r wybodaeth a restrir yn yr Atodlen i'r Cyngor pan fyddant yn diswyddo athro neu athrawes gofrestredig ar sail anghymhwysedd neu lle y byddent wedi eu diswyddo neu wedi ystyried eu diswyddo pe na baent wedi ymddiswyddo gyntaf.

(1)

1998 p.30. Mae adrannau 5 a 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) o 30 Rhagfyr 1998 yn achos Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. Diwygiwyd adran 15 gan adran 5(4) o Ddeddf Diogelu Plant 1999 (p.14). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

1996 p.36; diwygiwyd adran 463 gan baragraffau 57 a 124 o Atodlen 30 a chan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(7)

1996 p.36; diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(8)

1992 p.13; diwygiwyd adran 65 gan Ddeddf Camwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50) a Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).

(10)

1988 p.40. Diwygiwyd adran 218(6) gan adran 290(3) o Ddeddf Addysg 1993 (p.35) a chan adran 5(4) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14). Y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000, O.S. 2000/2419, sy'n gymwys i Gymru a Lloegr.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources