- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marciau adnabod unigryw a ganlyn wedi eu pennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—
(a)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411;
(b)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MON 87411;
(c)MON-87427-7 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MIR162 × MON 87411;
(d)MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MIR162 × MON 87411;
(e)MON-87427-7 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87411;
(f)MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MON 87411;
(g)SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × MON 87411.
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.
(2) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.
(3) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.
(4) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.
(5) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of maize MON 87411 by Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-01/15VP”, a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
(6) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.
(7) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3), “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) ac “AOCS 0215-B” (ar gyfer MON-87411-9) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(1).
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP606” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 11 Mawrth 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
6.—(1) Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: