Search Legislation

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

YR ATODLENNI

Rheoliad 3

ATODLEN 1Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MIR604, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw SYN-IR6Ø4-5 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR604.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MIR604 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL04/05VP corrected version 1”, dyddiedig 30 Mawrth 2010.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Maize Seeds Sampling and DNA Extraction Report on the Validation of a DNA Extraction Method from Maize Seeds”, cyfeirnod “CRLVL04/05XP”, dyddiedig 3 Ebrill 2007.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “ERM®-BF423” drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(1).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig SYN-IR6Ø4-5, cyfeirnod “RP476” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 3 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-4058 Basel, y Swistir.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, Lloegr, RG42 6EY.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MZIR098, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw SYN-ØØØ98-3 wedi ei bennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MZIR098.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3.

(2Dull canfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3 sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MZIR098 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-04/17VP” a gyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2018.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Maize Seeds Sampling and DNA Extraction Report on the Validation of a DNA Extraction Method from Maize Seeds”, cyfeirnod “CRLVL04/05XP”, dyddiedig 3 Ebrill 2007.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “AOCS 1114-B2” drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(2).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi indrawn a addaswyd yn enetig SYN-ØØØ98-3, cyfeirnod “RP526” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 5 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-4058 Basel, y Swistir.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, Lloegr, RG42 6EY.

Rheoliad 3

ATODLEN 3Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × NK603 a’i is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marciau adnabod unigryw a ganlyn wedi eu pennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × NK603 a’i is-gyfuniadau, fel a ganlyn—

(a)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON-87427-7 × MON 89034 × MIR162 × NK603;

(b)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162;

(c)MON-87427-7 × MON 89Ø34-3 × MON ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × NK603;

(d)MON-87427-7 × SYN-IR162-4 × MON ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MIR162 × NK603;

(e)MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MIR162 × NK603;

(f)MON-87427-7 × MON 89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034;

(g)MON-87427-7 × MON ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × NK603;

(h)MON-87427-7 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MIR162;

(i)MON-89Ø34-3 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × NK603;

(j)MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MIR162;

(k)SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × NK603.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.

(3Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(4Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.

(5Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line NK603 using real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL27/04VP”, a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2005.

(6Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(7At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3) ac “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(3). Gellir cyrchu “ERM®-BF415” (ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6) drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(4).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP535” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 5 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Rheoliad 3

ATODLEN 4Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marciau adnabod unigryw a ganlyn wedi eu pennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—

(a)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411;

(b)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MON 87411;

(c)MON-87427-7 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MIR162 × MON 87411;

(d)MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MIR162 × MON 87411;

(e)MON-87427-7 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87411;

(f)MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MON 87411;

(g)SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × MON 87411.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.

(3Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(4Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.

(5Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of maize MON 87411 by Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-01/15VP”, a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2016.

(6Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(7At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3), “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) ac “AOCS 0215-B” (ar gyfer MON-87411-9) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(5).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP606” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 11 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Rheoliad 3

ATODLEN 5Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON 87751 × MON 87701 × MON 87708 × MON 89788, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1 ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig MON 87751 × MON 87701 × MON 87708 × MON 89788.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r ffa soia hynny;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “soybean”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1.

(2Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON 87751 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/14VP Corrected version 1”, dyddiedig 1 Awst 2016.

(3Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON 87701 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL05/09VP”, dyddiedig 13 Gorffennaf 2011.

(4Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON87708 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-02/11VP”, dyddiedig 6 Mai 2013.

(5Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean Line MON 89788 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL05/06VP”, dyddiedig 18 Chwefror 2008.

(6Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Soybean Seeds”, cyfeirnod “CRL-VL-05/06XP Corrected version 2”, dyddiedig 16 Mawrth 2018.

(7At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0215-A” (ar gyfer MON-87751-7), “AOCS 0809-A2” (ar gyfer MON 877Ø1-2), “AOCS 0311-A2” (ar gyfer MON-877Ø8-9) ac “AOCS 0906-B2” (ar gyfer MON-89788-1) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(6).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, cyfeirnod “RP607” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 11 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Rheoliad 3

ATODLEN 6Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig Bt11, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw SYN-BTØ11-1 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig Bt11.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line Bt11 using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL10/07VP”, dyddiedig 20 Mehefin 2008.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Maize Seeds Sampling and DNA Extraction Report on the Validation of a DNA Extraction Method from Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL12/05XP”, dyddiedig 18 Ebrill 2007.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “ERM®-BF412” drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(7).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, cyfeirnod “RP620” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 12 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-4058 Basel, y Swistir.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, Lloegr, RG42 6EY.

Rheoliad 3

ATODLEN 7Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marciau adnabod unigryw a ganlyn ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—

(a)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON- 89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603;

(b)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × MIR162;

(c)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034 × NK603;

(d)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MIR162 × NK603;

(e)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × MIR162 × NK603;

(f)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MON 89034;

(g)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × MIR162;

(h)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460 × NK603;

(i)MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MIR162 × NK603;

(j)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × MIR162;

(k)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034 × NK603;

(l)MON-87427-7 × MON-8746Ø-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87460;

(m)MON-8746Ø-4 × SYN-IR162-4 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MIR162;

(n)MON-8746Ø-4 × MON-ØØ6Ø3-6 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × NK603;

(o)MON-8746Ø-4 × MON-89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87460 × MON 89034.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (6) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.

(3Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87460 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL04/09VP”, dyddiedig 18 Ionawr 2012.

(4Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(5Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.

(6Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific method for the quantitation of maize line NK603 using real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL27/04VP”, dyddiedig 10 Ionawr 2005.

(7Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (6) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(8At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0709-A2” (ar gyfer MON-8746Ø-4), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3) ac “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(8). Gellir cyrchu “ERM®-BF415” (ar gyfer MON-ØØ6Ø3-6) drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(9).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP714” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 26 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Rheoliad 3

ATODLEN 8Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 88017, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw MON-88Ø17-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 88017.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize” .

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-88Ø17-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig MON 88Ø17-3.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 88017 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL16/05VP corrected version 1”, dyddiedig 30 Mawrth 2010.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “AOCS 0406-D2” drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(10).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig MON 88Ø17-3, cyfeirnod “RP715” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 26 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri, 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Rheoliad 3

ATODLEN 9Adnewyddu’r awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw MON-89Ø34-3 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-89Ø34-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-89Ø34-3, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-89Ø34-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON-89Ø34-3, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig MON- 89Ø34-3.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(3Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(4At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “AOCS 0906-E2” drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(11).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig MON- 89Ø34-3, cyfeirnod “RP716” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 26 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri, 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: