Rheoliad 3
ATODLEN 5Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON 87751 × MON 87701 × MON 87708 × MON 89788, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny
Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1 ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig MON 87751 × MON 87701 × MON 87708 × MON 89788.
Awdurdodi
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
Labelu
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “soybean”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
Y dull canfod
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1.
(2) Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON 87751 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/14VP Corrected version 1”, dyddiedig 1 Awst 2016.
(3) Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON 87701 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL05/09VP”, dyddiedig 13 Gorffennaf 2011.
(4) Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean MON87708 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-02/11VP”, dyddiedig 6 Mai 2013.
(5) Dull canfod y ffa soia a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean Line MON 89788 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL05/06VP”, dyddiedig 18 Chwefror 2008.
(6) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Soybean Seeds”, cyfeirnod “CRL-VL-05/06XP Corrected version 2”, dyddiedig 16 Mawrth 2018.
(7) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0215-A” (ar gyfer MON-87751-7), “AOCS 0809-A2” (ar gyfer MON 877Ø1-2), “AOCS 0311-A2” (ar gyfer MON-877Ø8-9) ac “AOCS 0906-B2” (ar gyfer MON-89788-1) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)().
Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi ffa soia a addaswyd yn enetig MON-87751-7 × MON-877Ø1-2 × MON-877Ø8-9 × MON-89788-1, cyfeirnod “RP607” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 11 Mawrth 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
Deiliad yr awdurdodiad
6.—(1) Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.