Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Rheoliad 3

ATODLEN 4Awdurdodiad i roi ar y farchnad gynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411 ac is-gyfuniadau, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw

Yr organedd a addaswyd yn enetig a’i farc adnabod unigryw

1.  At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marciau adnabod unigryw a ganlyn wedi eu pennu ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411 ac is-gyfuniadau fel a ganlyn—

(a)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MIR162 × MON 87411;

(b)MON-87427-7 × MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 89034 × MON 87411;

(c)MON-87427-7 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MIR162 × MON 87411;

(d)MON-89Ø34-3 × SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MIR162 × MON 87411;

(e)MON-87427-7 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 87427 × MON 87411;

(f)MON-89Ø34-3 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MON 89034 × MON 87411;

(g)SYN-IR162-4 × MON-87411-9 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig MIR162 × MON 87411.

Awdurdodi

2.  Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—

(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;

(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, at ddibenion heblaw’r rheini yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.

Labelu

3.—(1At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.

(2Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.

Y dull canfod

4.—(1At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dulliau a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) i’w defnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1.

(2Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MON 87427 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-03/12VP”, dyddiedig 9 Mehefin 2015.

(3Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line MON 89034 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL06/06VP”, dyddiedig 21 Hydref 2008.

(4Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize MIR162 Using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL08/08VP”, dyddiedig 31 Ionawr 2011.

(5Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of maize MON 87411 by Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-01/15VP”, a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf 2016.

(6Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dulliau canfod a bennir yn is-baragraffau (2) i (5) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL16/05XP corrected version 2”, dyddiedig 26 Gorffennaf 2017.

(7At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunyddiau cyfeirio “AOCS 0512-A2” (ar gyfer MON-87427-7), “AOCS 0906-E2” (ar gyfer MON-89Ø34-3), “AOCS 1208-A3” (ar gyfer SYN-IR162-4) ac “AOCS 0215-B” (ar gyfer MON-87411-9) drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America (AOCS)(1).

Cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol

5.—(1Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi’r indrawn a addaswyd yn enetig y cyfeirir ato ym mharagraff 1, cyfeirnod “RP606” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 11 Mawrth 2021.

(2Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.

Deiliad yr awdurdodiad

6.—(1Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Bayer CropScience LP, 800 N. Lindbergh Boulevard, St Louis, Missouri 63167, Unol Daleithiau America.

(2Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Bayer CropScience Ltd, 230 Cambridge Science Park, Milton Road, Caergrawnt, Lloegr, CB4 0WB.