Search Legislation

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 5

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i Gael ei Chynnwys yn y Datganiad o Ddiben

1.  Nodau ac amcanion y practis deintyddol preifat.

2.  Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt dros y ffôn, ffacs a phost electronig (os oes rhai) y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

3.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

4.  Yn achos sefydliad, manylion rolau a chyfrifoldebau’r unigolyn cyfrifol yn y sefydliad.

5.  Enwau, a chymwysterau a phrofiad perthnasol pob un o’r deintyddion a’r proffesiynolion gofal deintyddol a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.

6.  Strwythur sefydliadol y darparwr cofrestredig.

7.  Y mathau o driniaeth, cyfleusterau a’r holl wasanaethau eraill a ddarperir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat, gan gynnwys manylion yr ystod o anghenion y bwriedir i’r gwasanaethau hynny eu diwallu.

8.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ceisio safbwyntiau cleifion ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y practis deintyddol preifat.

9.  Oriau agor y practis ac unrhyw drefniadau ar gyfer cleifion y mae angen gofal brys neu driniaeth frys arnynt y tu allan i oriau.

10.  Y trefniadau ar gyfer delio â chwynion fel y’u nodir yn rheoliad 21.

11.  Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas cleifion.

12.  Dyddiad ysgrifennu’r datganiad o ddiben a, phan fo’n cael ei ddiwygio yn unol â rheoliad 7(a), ddyddiad y diwygiad hwnnw.

Rheoliad 6

ATODLEN 2Gwybodaeth sydd i Gael ei Chynnwys yn y Daflen Gwybodaeth i Gleifion

1.  Crynodeb o’r datganiad o ddiben gan gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a manylion cyswllt dros y ffôn, ffacs a phost electronig (os oes rhai) y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig;

(b)enwau pob un o’r deintyddion a’r proffesiynolion gofal deintyddol a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat;

(c)y mathau o driniaeth, cyfleusterau a’r holl wasanaethau eraill a ddarperir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat;

(d)oriau agor y practis ac unrhyw drefniadau ar gyfer cleifion y mae angen gofal brys neu driniaeth frys arnynt y tu allan i oriau;

(e)y trefniadau ar gyfer delio â chleifion sy’n dreisgar neu’n gamdriniol i staff; ac

(f)y trefniadau ar gyfer delio â chwynion fel y’u nodir yn rheoliad 21.

2.  Profiad a chymwysterau perthnasol pob un o’r deintyddion a’r proffesiynolion gofal deintyddol a gyflogir yn, neu at ddibenion, y practis deintyddol preifat.

3.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ceisio safbwyntiau cleifion ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y practis deintyddol preifat.

4.  Y trefniadau ar gyfer datblygu a hyfforddi cyflogeion yn briodol.

5.  Cyfeiriad a rhif ffôn pob un o’r mangreoedd a ddefnyddir at ddiben cynnal practis deintyddol preifat gan y darparwr cofrestredig.

6.  Y trefniadau ar gyfer mynediad i fangreoedd a ddefnyddir at ddiben cynnal practis deintyddol preifat.

7.  Hawliau a chyfrifoldebau claf gan gynnwys cadw apwyntiadau.

8.  Manylion personau y mae ganddynt fynediad at wybodaeth am gleifion (gan gynnwys gwybodaeth y gellir canfod pwy yw’r claf oddi wrthi) a hawliau cleifion mewn perthynas â datgelu’r wybodaeth honno.

Rheoliadau 9(3)(c), 9(4), 11(3) a 18(3)

ATODLEN 3

RHAN 1Yr Wybodaeth sy’n Ofynnol mewn Cysylltiad â Phersonau sy’n Ceisio Cynnal, Rheoli neu Weithio mewn Practis Deintyddol Preifat

1.  Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)pan fo’r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf neu pan fo’r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy’n cynnwys, fel y bo’n gymwys, gwybodaeth addasrwydd yn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu’r ddwy; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.

3.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.

4.  Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7.  Pan fo’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—

(a)manylion cofrestriad y person â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a

(b)tystysgrif yswiriant mewn cysylltiad ag atebolrwydd y gall ddod i ran person mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

RHAN 2Cymeriad Da

8.  A yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o unrhyw drosedd neu wedi ei euogfarnu unrhyw le arall o unrhyw drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, yn ffurfio trosedd.

9.  Os yw enw’r person wedi ei dynnu, ei ddileu neu ei daro oddi ar gofrestr o broffesiynolion a gynhelir gan reoleiddiwr proffesiynolion gofal iechyd neu waith cymdeithasol.

Rheoliad 39

ATODLEN 4Cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf i bersonau sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat

1.  Mae adran 11 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adran (1)—

(i)“or private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “description”, ar yr achlysur cyntaf pan fo’r gair yn digwydd;

(ii)“or as a private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “description”, ar yr ail achlysur pan fo’r gair yn digwydd;

(b)yn is-adran (6)(a)—

(i)“, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”;

(ii)“or” wedi ei hepgor ar ddiwedd y paragraff;

(c)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)(b)—

(b)in the case of a conviction in relation to an establishment or agency, the conviction is a second or subsequent conviction of the offence and the earlier conviction, or one of the earlier convictions, was of an offence in relation to an establishment or agency of the same description; or

(c)in the case of a conviction in relation to a private dental practice, the conviction is a second or subsequent conviction of the offence.

2.  Mae adran 12 (ceisiadau i gofrestru) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

3.  Mae adran 13 (caniatáu neu wrthod cofrestriad) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

4.  Mae adran 14 (canslo cofrestriad) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, yn is-adran (1)(b) ac (c)(1).

5.  Mae adran 17 (hysbysiad o gynigion) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

6.  Mae adran 19 (hysbysiad o benderfyniadau) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”.

7.  Mae adran 20A (gweithdrefn frys i ganslo; Cymru) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

8.  Mae adran 20B (gweithdrefn frys i atal dros dro neu amrywio etc.) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

9.  Mae adran 21 (apelau i’r Tribiwnlys) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

10.  Mae adran 24 (methu â chydymffurfio ag amodau) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

11.  Mae adran 24A (troseddau sy’n ymwneud ag atal dros dro) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

12.  Mae adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau) yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “or a private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “description” ym mhob lle y mae’r gair yn digwydd;

(b)yn is-adran (3), “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd.

13.  Mae adran 28 (methu ag arddangos tystysgrif gofrestru) yn gymwys fel pe bai—

(a)“, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd;

(b)“or at the premises used to carry on the private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “at the agency”.

14.  Mae adran 30A(2) (hysbysu am faterion sy’n ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol) yn gymwys fel pe bai “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd(2).

15.  Mae adran 31 (arolygiadau gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan yr awdurdod cofrestru) yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adrannau (1), (3)(c) a (4)(a), “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd;

(b)yn is-adran (2), “or a private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “agency”;

(c)yn is-adran (5), “or for the purposes of carrying on a private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “establishment”.

16.  Mae adran 32 (arolygiadau: atodol) yn gymwys fel pe bai—

(a)“, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd;

(b)yn is-adran (5), “or a private dental practice” wedi ei fewnosod ar ôl “of an agency”.

17.  Mae adran 37 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys fel pe bai yn lle “or agency”—

(a)yn is-adran (1) a’r tro cyntaf y mae’r geiriau yn digwydd yn is-adran (2), “agency or private dental practice” wedi ei roi.

(b)yn is-adran (2), yr ail dro y mae’r geiriau yn digwydd, “agency or premises used for the purposes of carrying on the private dental practice” wedi ei roi.

Rheoliad 33

ATODLEN 5Ffioedd

Ffioedd blynyddol

1.—(1At ddibenion adran 16(3) o’r Ddeddf, rhaid i ddarparwr cofrestredig practis deintyddol preifat dalu ffi flynyddol a swm y ffi flynyddol yw’r swm a bennir yn is-baragraff (2).

(2Swm y ffi flynyddol sy’n daladwy yw—

(a)£500; neu

(b)£300, os nad yw’r practis deintyddol preifat yn cynnwys mwy nag un deintydd a bod y deintydd hwnnw yn darparu—

(i)gwasanaethau deintyddol preifat; a

(ii)gwasanaethau deintyddol at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(3Pan fo person yn cofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat—

(a)bydd y ffi flynyddol gyntaf yn daladwy ar ddyddiad un mis ar ôl dyddiad y cofrestriad cyntaf (“y dyddiad dyledus”); a

(b)ar ôl hynny, bydd y ffi flynyddol yn daladwy ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

(4Mae’r ffi flynyddol gyntaf y cyfeirir ati yn is-baragraff (3)(a) i gael ei chyfrifo’n un rhan o ddeuddeg o £500 neu £300, yn ôl y digwydd, ar gyfer pob mis cyfan o’r dyddiad dyledus i’r tro cyntaf y daw 31 Mawrth yn union ar ôl y dyddiad dyledus.

Ffi gofrestru

2.  At ddibenion adran 12(2) o’r Ddeddf, mae’r ffi sydd i fynd gyda chais gan naill ai darparwr neu reolwr sy’n ceisio cael ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf mewn perthynas â phractis deintyddol preifat yn £0.

Ffi mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio amod cofrestru

3.  At ddibenion adran 15(3) o’r Ddeddf, mae’r ffi sydd i fynd gyda chais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o’r Ddeddf i amrywio amod cofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat fel a ganlyn—

(a)ar gyfer amrywiad mawr mae’r ffi wedi ei phennu’n £500;

(b)ar gyfer mân amrywiad mae’r ffi wedi ei phennu’n £250.

Ffi mewn cysylltiad â cheisiadau i ddileu amod cofrestru

4.  At ddibenion adran 15(3) o’r Ddeddf, mae’r ffi sydd i fynd gyda chais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o’r Ddeddf i ddileu amod cofrestru mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat wedi ei phennu’n £50.

Ad-dalu ffioedd blynyddol

5.—(1Pan fo’r darparwr cofrestredig yn gwneud cais i ganslo ei gofrestriad o dan adran 15(1)(b) o’r Ddeddf o fewn chwe mis i’r 1 Ebrill blaenorol a bod yr awdurdod cofrestru yn cytuno i ganiatáu’r cais hwnnw, bydd ad-daliad o hyd at 75% o’r ffi flynyddol yn cael ei dalu i’r darparwr cofrestredig.

(2Mae swm yr ad-daliad y mae hawl gan ddarparwr cofrestredig i’w gael yn chwarter o’r ffi flynyddol a delir ar gyfer pob chwarter cyfan sy’n weddill o’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae’n ddyledus ar ei gyfer ar y dyddiad y mae’r awdurdod cofrestru yn cael y cais i ganslo ac mae’n ddarostyngedig i uchafswm ad-daliad o 75%.

(1)

Mae geiriau agoriadol adran 14(1) wedi eu haddasu gan Reoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 (2017/200 (W.55)) sef bod “, agency or private dental practice” wedi ei roi yn lle “or agency”.

(2)

Mae adran 30A(1) wedi ei haddasu gan Reoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources