Search Legislation

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008;

(b)yn gymwys o ran Cymru; ac

(c)yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2008..

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae'r ymadrodd “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys bualod a byfflos (gan gynnwys byfflos dŵr);

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd o dan reoliad 12, ac ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw milfeddyg a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn arolygydd;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

  • ystyr “BSE” (“BSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;

  • mae i'r ymadrodd “labordy profi cymeradwy” (“approved testing laboratory”) yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 4(3) of Atodlen 2;

  • mae i “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1(16) o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004, ac y mae'n sefydliad—

    (a)

    sydd wedi ei gymeradwyo neu ei gymeradwyo yn amodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004; neu

    (b)

    sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004, tra'n aros am gymeradwyaeth o'r fath;

  • mae i “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(1);

  • ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC” (“Commission Decision 2007/411/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad unrhyw gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, at unrhyw ddiben, ac yn esemptio anifeiliaid o'r fath rhag rhai mesurau rheoli a dileu a bennwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598(2);

  • ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002” (“Regulation (EC) No. 1774/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu i'w bwyta gan bobl(3), fel y'i darllenir ar y cyd ag—

    (a)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â gwahardd ailgylchu mewnrhywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a rhai mesurau trosiannol(4);

    (b)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n pennu mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer rhai sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a 2 ac a fwriedir ar gyfer dibenion technegol(5); ac

    (c)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â dulliau o waredu neu o ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac sy'n diwygio ei Atodiad VI mewn perthynas â thrawsnewid bionwy a phrosesu brasterau sydd wedi eu rendro (6);

  • ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 853/2004” (“Regulation (EC) No. 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(7), fel y'i darllenir ar y cyd ag—

    (a)

    Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad rhai cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ac yn diwygio Cyfarwyddebau y Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(8);

    (b)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â gwarantau arbennig ynglyn â salmonela ar gyfer llwythi a anfonir i'r Ffindir a Sweden, o fathau penodol o gig ac wyau (9);

    (c)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n pennu mesurau cyflawni ar gyfer rhai cynhyrchion o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(10); ac

    (ch)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n pennu trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(11);

  • ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 882/2004” (“Regulation (EC) No. 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir er mwyn gwirio cydymffurfiaeth â rheolau cyfraith bwydydd anifeiliaid a bwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(12)), fel y'i darllenir ar y cyd ag—

    (a)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005; a

    (b)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy(13), fel y'i darllenir ar y cyd ag—

    (a)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC; a

    (b)

    Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE(14);

  • mae i'r ymadrodd “safle torri” (“cutting plant”) (ac eithrio ym mharagraff 9(2)(b)(iii) o Atodlen 7) yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1(17) o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004, ac y mae'n sefydliad—

    (a)

    sydd wedi ei gymeradwyo neu ei gymeradwyo yn amodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004; neu

    (b)

    sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004, tra'n aros am gymeradwyaeth o'r fath; ac

  • ystyr “TSE” (“TSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy.

(2Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.

(3Mae'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau y Gymuned a nodir yn Atodlen 1 yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Penodi awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned ac eithrio pan nodir yn wahanol yn y Rheoliadau hyn.

Eithrio ar gyfer ymchwil

4.—(1Nid yw'r darpariaethau yn Atodlenni 2 i 8 yn gymwys o ran anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil mewn safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo at y dibenion hynny o dan y rheoliad hwn gan Weinidogion Cymru.

(2Os bydd farw neu os lleddir anifail buchol, dafad neu afr neu eu hepil a gedwir mewn mangre ymchwil cymeradwy, rhaid i'r meddiannydd waredu'r anifail fel sgil-gynnyrch anifail Categori 1 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

RHAN 2Cyflwyno Atodlenni

Yr Atodlenni

5.  Mae'r Atodlenni canlynol yn effeithiol—

(a)Atodlen 2 (monitro TSE);

(b)Atodlen 3 (rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid buchol);

(c)Atodlen 4 (rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr);

(ch)Atodlen 5 (rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid nad ydynt o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr);

(d)Atodlen 6 (bwydydd anifeiliaid);

(dd)Atodlen 7 (deunydd risg penodedig, cig a wahenir yn fecanyddol a thechnegau cigydda); ac

(e)Atodlen 8 (cyfyngiadau ar allforio).

RHAN 3Gweinyddu a gorfodi

Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os bodlonir Gweinidogion Cymru y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i hyn fod mewn ysgrifen a rhaid iddo nodi—

(a)cyfeiriad y fangre;

(b)enw'r meddiannydd; ac

(c)y diben y rhoddir ef ar ei gyfer.

(3Caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau sy'n angenrheidiol er mwyn—

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; neu

(b)amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

(4Os gwrthodant roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad, neu os rhoddant un yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)roi rhesymau mewn ysgrifen; a

(b)esbonio bod hawl gan yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(5Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

Dyletswydd y meddiannydd

7.  Bydd meddiannydd unrhyw fangre a gymeradwyir, a awdurdodir, a drwyddedir neu a gofrestrir o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd oni fydd yn sicrhau bod—

(a)y fangre yn cael ei chynnal a'i gweithredu yn unol ag—

(i)unrhyw amod o'r gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad; a

(ii)gofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson a awdurdodir i fynd mewn i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

Atal a diwygio

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)os na chyflawnwyd unrhyw un o'r amodau y'i rhoddwyd odanynt ; neu

(b)os bodlonir Gweinidogion Cymru na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned neu ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod hynny yn angenrheidiol yng ngoleuni datblygiadau technegol neu wyddonol.

(3Caiff ataliad neu ddiwygiad—

(a)fod yn effeithiol ar unwaith os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod hynny yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a

(b)fel arall, caiff fod yn effeithiol ar ôl cyfnod o 21 diwrnod, o leiaf.

(4Rhaid i'r hysbysiad o'r ataliad neu ddiwygiad—

(a)fod mewn ysgrifen;

(b)nodi pa bryd y bydd yr ataliad neu'r diwygiad yn effeithiol;

(c)nodi'r rhesymau; ac

(ch)esbonio bod hawl gan y person a hysbysir i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(5Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

(6Os nad yw'r ataliad neu'r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 10, ni chaiff fod yn effeithiol cyn penderfynu'r apêl yn derfynol gan Weinidogion Cymru, onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol i'r ataliad neu'r diwygiad gael effaith cyn hynny er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

Dirymu cymeradwyaeth, etc.

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os bodlonir Gweinidogion Cymru na fydd y fangre yn cael ei rhedeg yn unol â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn ac—

(a)os yw wedi'i atal ar y pryd a'r cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 10 wedi dod i ben neu'r ataliad wedi ei gadarnhau yn dilyn apêl o'r fath;

(b)os oedd wedi ei atal yn flaenorol ac y bu anghydffurfio pellach â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; neu

(c)os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw'r meddiannydd bellach yn defnyddio'r fangre at y diben y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys ond bydd y dirymiad yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio.

Apelau

10.—(1Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod ar ôl hysbysu'r person cyntaf o'r penderfyniad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r person a benodir ynglyn â'r penderfyniad.

(3Rhaid i'r person a benodir wedyn gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'u penderfyniad terfynol a'r rhesymau amdano, mewn ysgrifen.

Prisiadau

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prisiad yn angenrheidiol o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar y prisiad.

(3Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar brisiad, cânt benodi prisiwr ar y cyd.

(4Os na all y perchennog a Gweinidogion Cymru gytuno ar bwy ddylai'r prisiwr fod, caiff Llywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig enwebu'r prisiwr, a rhaid i'r perchennog a Gweinidogion Cymru dderbyn yr enwebiad hwnnw.

(5Rhaid i'r prisiwr gyflawni'r prisiad a'i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennau perthnasol eraill i Weinidogion Cymru, a darparu copi i'r perchennog.

(6Mae hawl gan y perchennog a chynrychiolydd Gweinidogion Cymru i fod yn bresennol yn ystod prisiad.

(7Bydd y prisiad yn rhwymo'r perchennog a Gweinidogion Cymru.

Penodi arolygwyr

12.  Caiff Gweinidogion Cymru a'r awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn ac eithrio fel a bennir yn Atodlen 7.

Pwerau mynediad

13.—(1Mae hawl mynediad gan arolygwyr i unrhyw fangre at y diben o sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid iddynt, os gofynnir iddynt, ddangos rhyw ddogfen sydd wedi ei dilysu yn briodol ac yn dangos eu hawdurdod cyn arfer eu hawl o dan baragraff (1).

(3Cânt arfer eu hawl o dan baragraff (1) ar bob adeg rhesymol o'r dydd.

(4Cânt fynd gyda hwy—

(a)pa bynnag bersonau eraill y tybiant sy'n angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at y diben o orfodi ymrwymiad Cymunedol.

(5Os yw arolygwyr yn mynd i mewn i fangre na feddiennir gan neb ar y pryd, rhaid iddynt adael y fangre honno (mor bell ag y bo'n ymarfer yn rhesymol) wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag ydoedd cyn dyfodiad yr arolygwyr.

(6Os yw ynad heddwch, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd o dan lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn, a naill ai—

(a)gwrthodwyd mynediad, neu disgwylir y bydd mynediad yn cael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu'r llall) rhoddwyd hysbysiad i'r meddiannydd y gwneir cais am warant;

(b)byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn difetha pwrpas mynd i mewn; neu

(c)bod yr achos yn achos brys; neu

(ch)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant lofnodedig, awdurdodi arolygwyr i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(7Mae gwarant o dan yr adran hon yn ddilys am un mis.

(8Yn y rheoliad hwn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

(a)mangre ddomestig os defnyddir hi at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; a

(b)unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu adeiledd (symudol neu fel arall).

Pwerau arolygwyr

14.—(1Caiff arolygwyr—

(a)ymafael yn unrhyw—

(i)anifail;

(ii)corff anifail, ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm; neu

(iii)protein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid,

a'u gwaredu fel y bo angen;

(b)cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;

(c)casglu, corlannu ac archwilio unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn cânt fynnu bod ceidwad unrhyw anifail o'r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu'r anifail;

(ch)archwilio unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;

(d)archwilio unrhyw ran o'r fangre, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;

(dd)cymryd unrhyw samplau;

(e)hawl mynediad i unrhyw gofnodion, a'u harchwilio a'u copïo (ym mha bynnag ffurf y'u delir) er mwyn penderfynu a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, neu symud y cyfryw gofnodion er mwyn eu copïo;

(f)hawl mynediad i unrhyw gyfrifiadur a'i archwilio a gwirio ei weithrediad, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod; ac at y diben hwn, cânt fynnu bod unrhyw berson sy'n gyfrifol am, neu'n gysylltiedig fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, cyfarpar neu ddeunydd, yn roi iddynt ba bynnag gymorth a fynnant yn rhesymol (gan gynnwys darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac os cedwir cofnod ar gyfrifiadur, cânt fynnu bod cofnodion yn cael eu cynhyrchu mewn ffurf sy'n caniatáu eu cludo ymaith;

(ff)marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at y diben o'i adnabod; ac

(g)cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.

(2Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, dileu neu'n tynnu ymaith unrhyw farc neu sêl, neu'n tynnu ymaith unrhyw glo a osodwyd o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd.

(3Ni yw arolygwyr yn atebol yn bersonol am unrhyw beth a wnânt—

(a)wrth weithredu'r Rheoliadau hyn neu i'r perwyl o'u gweithredu; a

(b)sydd o fewn cwmpas eu cyflogaeth,

os oeddent yn gweithredu gan gredu yn onest bod eu dyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn mynnu eu bod yn ei wneud, neu'n rhoi'r hawl iddynt i'w wneud; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd ar ran eu cyflogwr.

Hysbysiadau

15.—(1Os yw'n angenrheidiol, am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â gorfodi Reoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, caiff arolygwyr gyflwyno hysbysiad—

(a)i berchennog neu geidwad unrhyw anifail;

(b)i'r person sydd â chorff neu unrhyw ran o gorff anifail (gan gynnwys y gwaed a'r croen) neu unrhyw semen, embryo neu ofwm yn ei feddiant; neu

(c)i'r person sydd ag unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn ei feddiant.

(2Rhaid i'r hysbysiad fod mewn ysgrifen a rhaid iddo nodi'r rhesymau dros ei gyflwyno.

(3Caiff yr hysbysiad—

(a)wahardd neu fynnu bod unrhyw anifail yn cael ei symud i mewn neu allan o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(b)pennu pa rannau o'r fangre y ceir neu na cheir caniatáu i anifail gael mynediad iddynt;

(c)mynnu bod unrhyw anifail yn cael ei ladd neu ei gigydda;

(ch)gwahardd neu fynnu symud corff unrhyw anifail neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail, unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, ac unrhyw semen, embryo neu ofwm anifeiliaid i mewn neu allan o'r fangre a nodir yn yr hysbysiad;

(d)mynnu bod corff neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail (pa un a oedd yn anifail y mynnwyd ei ddal dan gadw ai peidio) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm fel a nodir yn yr hysbysiad yn cael eu gwaredu;

(dd)mynnu bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu gwaredu neu bennu sut y maent i'w defnyddio; neu

(e)mynnu bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael ei adalw.

(4Os yw arolygwyr yn amau bod unrhyw fangre, cerbyd neu gynhwysydd y mae Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi neu iddo yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, cânt gyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd neu'r person sy'n gyfrifol am y fangre, y cerbyd neu'r cynhwysydd i fynnu bod y person hwnnw yn glanhau a diheintio'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre, cerbyd neu gynhwysydd ynghyd ag unrhyw gyfarpar sy'n gysylltiedig.

(5Caiff hysbysiad bennu'r modd y bydd yn rhaid cydymffurfio â'r hysbysiad, a phennu terfynau amser.

(6Rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir â'r hysbysiad caiff arolygwyr drefnu ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ar draul y person hwnnw.

(7Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad yn dramgwydd.

Hysbysiadau sy'n cyfyngu ar symud

16.—(1Os cyflwynir hysbysiad sy'n cyfyngu ar symudiadau, caiff arolygwyr yn ddiweddarach ganiatáu symud o dan awdurdod trwydded.

(2Rhaid i berson sy'n cludo o dan awdurdod trwydded fynd â'r drwydded gydag ef yn ystod unrhyw symudiad, a'i dangos i unrhyw arolygydd sy'n gofyn am ei gweld, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Rhwystro

17.  Mae person yn euog o dramgwydd os yw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;

(b)heb achos rhesymol, yn peidio â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn neu'n peidio â darparu unrhyw gyfleusterau y mae'r arolygydd yn rhesymol yn mynnu bod y person hwnnw yn eu rhoi neu'n eu darparu er mwyn i'r arolygydd gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ch)yn peidio â dangos cofnod pan fynnir ei fod yn gwneud hynny gan arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn.

Cosbau

18.  Mae person a geir yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, yn agored i ddirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchar am dymor o dri mis neu'r ddau; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchar am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

19.—(1Os cyflawnir tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol ac os dangosir—

(a)ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

yna mae'r swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn agored i'w herlyn a'u cosbi yn unol â hynny.

(2Os rheolir gweithrediadau corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd yr aelodau mewn cysylltiad â'u swyddogaethau rheoli, fel pe baent yn gyfarwyddwr y corff.

(3Os cyflawnir tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gan bartneriaeth ac os dangosir—

(a)ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner; neu

(b)y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,

yna mae'r partner yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac y maent yn agored i'w herlyn a'u cosbi yn unol â hynny.

(4Os cyflawnir tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ac os dangosir —

(a)ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu; neu

(b)y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog neu aelod o'r fath,

yna mae'r aelod neu swyddog hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o dramgwydd ac y maent yn agored i'w herlyn a'u cosbi yn unol â hynny.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy'n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath; a

(b)mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni gweithredu fel partner.

Gorfodi

20.—(1Gorfodir Atodlen 2 mewn lladd—dai a safleoedd torri gan Weinidogion Cymru.

(2Gorfodir Atodlen 7 a pharagraff 2 o Atodlen 8 mewn lladd—dai a safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(3Fel arall, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.

(4Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i ddyletswydd gorfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru, ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

21.  Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(15); a

(b)Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005(16).

(c)Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006(17); a

(ch)Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006(18).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Rhagfyr 2008

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources