Search Legislation

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 1Cyfeiriadau newidiadwy

Yr offerynnau EC y mae'n rhaid eu dehongli fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd yw—

(a)Rheoliad TSE y Gymuned;

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;

(c)Rheoliad (EC) Rhif 853/2004; ac

(ch)Rheoliad (EC) Rhif 882/2004.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Monitro TSE

  1. RHAN 1 Monitro ar gyfer TSE

    1. 1.Hysbysiadau at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

    2. 2.Traddodi a chigydda anifeiliaid buchol sydd dros yr oed

    3. 3.Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol

    4. 4.Cymeradwyo labordai

    5. 5.Cigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed

    6. 6.Cadw cynhyrchion a'u gwaredu

    7. 7.Iawndal

  2. RHAN 2 Cynnwys Dull Gofynnol o Weithredu (DGW)

    1. 8.Adnabod a gwahanu anifeiliaid

    2. 9.Samplu coesyn yr ymennydd

    3. 10.Y cydberthyniad rhwng sampl a charcas a rhannau eraill o'r corff

    4. 11.Cadw carcasau

    5. 12.Cadw rhannau o'r corff

    6. 13.Gwaredu cyn derbyn y canlyniad

    7. 14.Mesurau eraill sy'n dilyn samplu

    8. 15.Tynnu asgwrn y cefn

RHAN 1Monitro ar gyfer TSE

Hysbysiadau at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

1.—(1At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei ofal y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, neu gorff unrhyw afr a oedd yn 18 mis oed neu'n hyn pan fu farw—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 24 awr ar ôl adeg marwolaeth neu adeg lladd yr anifail, neu'r adeg y daw'r corff i'w feddiant neu o dan ei ofal; a

(b)ei gadw hyd nes cesglir ef gan neu ar ran Gweinidogion Cymru,

ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddir i'w bwyta gan bobl neu a leddir yn unol ag Atodlen 4.

Traddodi a chigydda anifeiliaid buchol sydd dros yr oed

2.  Os ganwyd neu os magwyd anifail buchol yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, mae'n dramgwydd—

(a)ei draddodi i ladd-dy ar gyfer ei fwyta gan bobl (pa un a yw'r anifail yn fyw neu'n farw); neu

(b)ei gigydda mewn lladd-dy ar gyfer ei fwyta gan bobl.

Samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol

3.—(1Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle mae anifeiliaid buchol fel a nodir ym mhwynt 2(1) neu 2(2) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cael eu cigydda —

(a)gymryd sampl o goesyn yr ymennydd yn unol â phwynt 1 o Bennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;

(b)sicrhau y gellir adnabod yr anifail y cymerwyd y sampl ohono; ac

(c)trefnu i'r sampl gael ei danfon i labordy profi sydd wedi ei gymeradwyo,

ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad, hysbysu meddiannydd lladd-dy os yw anifail yn dod o fewn y categorïau a nodir ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A i Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn achos anifail marw a draddodir i ladd-dy ynghyd â datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg sy'n datgan bod yr anifail o fewn un o'r categorïau hynny).

(3Yn unol â phwynt 5 o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd lladd-dy i fynnu ei fod yn cymryd sampl o unrhyw anifail buchol a gigyddir yn y lladd-dy, ac anfon y sampl i'w brofi yn unol ag is-baragraff (1).

Cymeradwyo labordai

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo labordy i brofi samplau a gymerir o dan baragraff 3 os bodlonir Gweinidogion Cymru—

(a)y bydd y labordy yn cynnal y profion yn unol â Phennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;

(b)bod gan y labordy weithdrefnau digonol ar gyfer rheoli ansawdd; ac

(c)bod gan y labordy weithdrefnau digonol i sicrhau adnabyddiaeth gywir o'r samplau ac i hysbysu'r lladd-dy sy'n eu traddodi a Gweinidogion Cymru ynghylch canlyniad y prawf.

(2Caiff Gweinidogion Cymru godi'r ffioedd a nodir yn y tabl canlynol am gymeradwyaeth ddechreuol ac asesiad ansawdd parhaus ar gyfer labordy—

Ffioedd ar gyfer cymeradwyo ac asesu ansawdd labordai
  Ffi(£)
Cymeradwyaeth ddechreuol29,770
Prawf hyfedredd blynyddol ac arolygu dilynol am y flwyddyn gyntaf ar ôl cymeradwyo.8,834
Profion hyfedredd blynyddol o'r ail flwyddyn ymlaen4,135
Prawf hyfedredd sengl (yn dilyn methiant yn y profion hyfedredd blynyddol)1,385
Cyfradd yr awr am arolygydd (ar gyfer unrhyw arolygiadau ychwanegol sydd eu hangen i wirio cydymffurfiaeth â'r materion a nodir yn is-baragraffau (1)(a) i (c))87.24

(3ystyr “labordy profi cymeradwy” (“approved testing laboratory”) yw labordy a gymeradwyir o dan y paragraff hwn neu labordy mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwyir gan yr awdurdod cymwys i gynnal y prawf.

Cigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed

5.—(1Cyflawnir tramgwydd gan feddiannydd sy'n defnyddio lladd-dy i gigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed i'w bwyta gan bobl, oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo'r Dull Gofynnol o Weithredu (“DGW”) ar gyfer y lladd-dy hwnnw a'r meddiannydd hwnnw.

(2Rhaid i'r DGW, o leiaf—

(a)ddisgrifio'r gweithdrefnau a fydd yn cael eu dilyn i gydymffurfio â Rhan 1 o'r Atodlen hon; a

(b)disgrifio'r holl systemau a gweithdrefnau a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r DGW os bodlonir hwy y cydymffurfir â holl ofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r meddiannydd ddangos hynny yn ystod asesiad a fydd yn parhau am ddau ddiwrnod lle bydd anifeiliaid yn cael eu cigydda (gan ddefnyddio anifeiliaid buchol o dan 30 mis oed oni fydd y lladd-dy yn gweithredu at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig (1)).

(4Os cigyddir anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed ar gyfer eu bwyta gan bobl mewn unrhyw fodd ac eithrio yn unol â'r DGW, mae meddiannydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd.

Cadw cynhyrchion a'u gwaredu

6.—(1Mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol y cymerir sampl ohono, rhaid i feddiannydd y lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy, at ddibenion pwynt 6(3) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a hyd nes ceir canlyniad y prawf, naill ai—

(a)gadw yn ei feddiant yr holl garcasau a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) y bydd rhaid eu gwaredu os bydd y canlyniad yn bositif; neu

(b)eu gwaredu yn unol ag is-baragraff (2).

(2At ddibenion pwyntiau 6(4) a 6(5) o'r Rhan honno, os ceir canlyniad positif ar gyfer anifail y cymerwyd sampl ohono, rhaid i'r meddiannydd waredu ar unwaith—

(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a

(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,

yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno.

(3Os nad anfonwyd sampl at labordy profi cymeradwy i gael ei brofi yn unol â pharagraff 3 o'r Atodlen hon, neu os ceir canlyniad prawf annigonol, mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar waredu unwaith —

(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a

(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed ond nid y croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,

yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, ystyr “canlyniad prawf annigonol” (“insufficient test result”) yw ardystiad gan labordy profi cymeradwy nad oedd y sampl a anfonwyd i'r labordy o ansawdd digonol neu nad oedd o faint digonol i gael canlyniad prawf.

(4Os ceir canlyniad dim prawf mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar unwaith waredu carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn ystyr “canlyniad dim prawf” (“no-test result”) yw canlyniad negyddol o sampl, yn dilyn profion lluosog a chyflym wedi i labordy profi cymeradwy ardystio bod profion o'r fath yn angenrheidiol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ganiatáu rhanddirymiad o dan bwynt 6(6) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned os bodlonir hwy bod system wedi ei sefydlu sy'n atal halogi rhwng carcasau.

(6Mewn perthynas ag unrhyw ddefaid neu eifr a ddewisir ar gyfer samplu, rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy —

(a)at ddibenion pwynt 7(3) o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, gadw yn ei feddiant y carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) hyd nes ceir canlyniad y prawf; a

(b)os bydd y canlyniad yn bositif, gwaredu'r carcas a phob rhan o'r corff ar unwaith (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 7(4) o'r Rhan honno.

(7Yn y paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

(8Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraffau (1) i (4) neu (6) yn euog o dramgwydd.

Iawndal

7.—(1Os yw canlyniad prawf yn bositif ar anifail a gigyddwyd i'w fwyta gan bobl, rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am y carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen)—

(a)yr anifail hwnnw; a,

(b)os dinistrir hwy oherwydd y canlyniad positif hwnnw, yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl.

(2Yr iawndal fydd y gwerth ar y farchnad, a sefydlir o dan y weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r meddiannydd yn talu unrhyw ffi am enwebu a chyflogi prisiwr.

(3Ni fydd iawndal yn daladwy mewn unrhyw achos arall.

RHAN 2Cynnwys Dull Gofynnol o Weithredu (DGW)

Adnabod a gwahanu anifeiliaid

8.—(1Rhaid i'r DGW (fel y'i diffinnir ym mharagraff 5(1)) ddisgrifio'r system sy'n—

(a)galluogi adnabod anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 a sicrhau na chânt eu cigydda i'w bwyta gan bobl;

(b)galluogi adnabod anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed ond a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon; ac

(c)galluogi adnabod anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon.

(2Rhaid iddo hefyd ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod anifeiliaid dros 30 mis oed—

(a)yn cael eu gosod mewn grwpiau gyda'i gilydd cyn eu cigydda, ar wahân i anifeiliaid sy'n 30 mis oed neu'n iau; a

(b)yn cael eu cigydda mewn grwpiau ar wahân i' anifeiliaid sy'n 30 mis oed neu'n iau.

Samplu coesyn yr ymennydd

9.—(1Rhaid i'r DGW ddangos bod—

(a)digon o staff wedi'u hyfforddi ac yn gymwys i gymryd, labelu, pecynnu ac anfon allan samplau o goesyn yr ymennydd;

(b)cyfleusterau hylan ar gyfer samplu; ac

(c)gweithdrefnau ar gyfer samplu nad ydynt yn peryglu trefn hylan o gynhyrchu cig a fwriedir i'w fwyta gan bobl.

(2Rhaid iddo ddisgrifio'r modd y cydymffurfir â chanllawiau iechyd a diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer lleihau'r risg o ddod â'r staff i gyffyrddiad â TSE wrth samplu a phecynnu coesyn yr ymennydd.

Y cydberthyniad rhwng sampl a charcas a rhannau eraill o'r corff

10.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n cysylltu'r sampl o goesyn ymennydd pob anifail buchol dros 30 mis oed â charcas yr anifail hwnnw a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen).

Cadw carcasau

11.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio—

(a)y system sy'n sicrhau y cedwir yr holl garcasau a gedwir yn unol â pharagraff 6(1) o'r Atodlen hon naill ai mewn uned oeri sydd wedi ei selio neu ei chloi, neu ar reilen wedi ei selio neu ei chloi oddi mewn i uned oeri nad yw wedi ei selio, hyd nes ceir canlyniad y prawf;

(b)y system sy'n sicrhau y gellir canfod y drefn gronolegol y cigyddwyd yr anifeiliaid ynddi; ac

(c)sut y bydd y meddiannydd yn sicrhau bod digon o le addas yn yr uned oeri ar gyfer cadw carcasau at bwrpas yr Atodlen hon.

Cadw rhannau o'r corff

12.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau y cedwir pob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â pharagraff 6(1) o'r Atodlen hon.

Gwaredu cyn derbyn y canlyniad

13.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r llwybr gwaredu ar gyfer pob carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) a gedwir tra'n disgwyl canlyniad prawf ond a waredir cyn derbyn canlyniad y prawf.

Mesurau eraill yn dilyn samplu

14.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r systemau sydd wedi eu sefydlu i sicrhau—

(a)y pecynnir samplau o goesyn yr ymennydd yn unol â chyfarwyddiadau pecynnu P650 o Gytundeb Ewrop ynglŷn â Chludiant Rhyngwladol Nwyddau Peryglus ar y Ffyrdd (y fersiwn sy'n gymwys o 1 Ionawr 2005)(2);

(b)y derbynnir canlyniadau'r profion naill ai drwy ffacs neu drwy ddulliau electronig eraill; ac

(c)bod popeth y mae'n ofynnol ei waredu yn unol â phwynt 6(4) neu 6(5) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned neu o dan baragraff 6(2), 6(3) neu 6(4) o'r Atodlen hon yn cael ei adnabod a'i waredu yn unol â hynny.

Tynnu asgwrn y cefn

15.  Rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau, mewn achos pan geir canlyniad prawf negyddol ar gyfer anifail buchol—

(a)nad yw'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig yn cael eu tynnu ymaith yn y lladd-dy; a

(b)bod y cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig hwnnw yn cael ei draddodi i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a) o Atodlen 7 i'w dynnu ymaith.

Rheoliad 5

ATODLEN 3Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid buchol

  1. 1.Rheoli a dileu TSE — hysbysu

  2. 2.Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

  3. 3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

  4. 4.Adnabod a chyfyngu ar epil a chohortau

  5. 5.Gweithredu yn dilyn cadarnhad

  6. 6.Marwolaeth tra o dan gyfyngiadau

  7. 7.Rhoi epil buchol ar y farchnad

  8. 8.Pa bryd y mae iawndal yn daladwy

  9. 9.Swm yr iawndal sy'n daladwy

  10. 10.Eithriadau

Rheoli a dileu TSE — hysbysu

1.—(1At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, sydd dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

(3Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw anifail buchol neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

2.  Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ei symud o'r fangre hyd nes penderfynir a oes amheuaeth ei fod wedi ei effeithio gan TSE ai peidio.

Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

3.—(1At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan BSE, rhaid iddo naill ai—

(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;

(b)tynnu pasbort gwartheg yr anifail yn ôl a chyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu

(c)sicrhau bod pasbort gwartheg yr anifail wedi ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption” a chyflwyno hysbysiad sy'n cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud yr anifail ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(2Rhaid iddo gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol eraill o'r daliad yn unol â'r ail, y trydydd a'r pumed paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 2(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

(3Caiff gyfyngu ar symud anifeiliaid buchol ar ddaliadau eraill yn unol â'r pedwerydd paragraff o Erthygl 12(1) o Reoliad TSE y Gymuned.

(4Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud yr anifail oddi ar y daliad hwnnw yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

(5Os na leddir yr anifail ar unwaith, rhaid i geidwad yr anifail gael gwared â'i laeth mewn ffordd sy'n sicrhau na chaiff ei yfed na'i fwyta gan bobl na chan anifeiliaid ar wahân i lo yr anifail ei hunan neu anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil, ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.

Adnabod a chyfyngu ar epil a chohortau

4.—(1Yn unol ag Erthygl 13(2) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 2(1)(b) a (2) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, os yw—

(a)arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail buchol wedi ei effeithio gan TSE;

(b)monitro carcasau o dan Atodlen 2 neu o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cadarnhau bod anifail dan amheuaeth o fod wedi'i effeithio gan TSE; neu

(c)yr awdurdod cymwys mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall yn hysbysu Gweinidogion Cymru bod anifail buchol dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE,

rhaid i arolygydd adnabod —

(a)(os yw'r anifail a amheuir yn fenyw) holl epil yr anifail a anwyd o fewn y ddwy flynedd cyn cychwyniad clinigol y clefyd neu ar ôl hynny; a

(b)pob un o'i gohortau buchol a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996,

ac at y dibenion hyn dyddiad geni anifail yw'r un a ddangosir ar ei basbort gwartheg.

(2Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiadau yn gwahardd symud yr anifeiliaid hynny o'r daliad lle y'u cedwir neu lle y mae'r arolygydd yn amau y'u cedwir (pa un ai'r un daliad yw hwnnw a'r daliad lle cedwir yr anifail sydd dan amheuaeth ai peidio) a thynnu yn ôl eu pasbortau gwartheg.

(3Os na ellir adnabod yr anifeiliaid yn is-baragraff (1) ar unwaith, rhaid i arolygydd wahardd symud pob anifail buchol o'r daliad hyd nes gellir eu hadnabod.

(4Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 16.

Gweithredu yn dilyn cadarnhad

5.—(1Yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o Reoliad TSE y Gymuned a phwynt 2 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 2(1)(b) a 2(2) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, os ceir cadarnhad bod yr anifail a amheuir wedi ei effeithio gan TSE, rhaid i arolygydd—

(a)os yw'r anifail yn fenyw, lladd pob un o'i hepil a anwyd o fewn dwy flynedd cyn cychwyniad clinigol y clefyd, neu a anwyd ar ôl hynny; a

(b)lladd pob un o'r anifeiliaid buchol yng nghohort yr anifail, a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 1996 ac eithrio—

(i)pan fodlonir yr arolygydd nad oedd gan yr anifail fynediad at yr un bwyd â'r anifail yr effeithiwyd arno; neu

(ii)pan fo'r anifail yn darw a gedwir mewn canolfan casglu semen, ac na fydd yn cael ei symud oddi yno.

(2Mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys i benderfyniad i ladd o dan is-baragraff (1)(b).

(3Pan fo penderfyniad i beidio â lladd wedi ei wneud o dan is-baragraff 2(b)(ii)—

(a)mae'n dramgwydd symud yr anifail o'r ganolfan casglu semen ac eithrio ar gyfer ei ladd; a

(b)mae perchennog yr anifail yn euog o dramgwydd os nad yw'n sicrhau y dinistrir carcas yr anifail yn llwyr.

(4Os nad yw anifail a leddir o dan y paragraff hwn yn cael ei ladd ar y daliad, rhaid i arolygydd sicrhau bod pasbort gwartheg yr anifail wedi ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption” a chyflwyno cyfarwyddyd ysgrifenedig i'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd fel a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5Os yw canlyniad y prawf yn negyddol rhaid i'r arolygydd ddiddymu'r holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth a dychwelyd y pasbortau gwartheg.

(6Pan leddir anifail o dan y rheoliad hwn, mae'n dramgwydd symud y carcas o'r fangre lle y'i lladdwyd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig oddi wrth arolygydd.

Marwolaeth tra o dan gyfyngiad

6.  Os bydd anifail farw, neu os lleddir ef, tra bo dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon, rhaid i'w berchennog hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r corff yn yr un fangre hyd nes caiff gyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd i'w symud neu ei waredu, ac y mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.

Rhoi epil buchol ar y farchnad

7.  Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw anifail buchol ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd.

Pa bryd y mae iawndal yn daladwy

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal—

(a)pan leddir anifail o dan yr Atodlen hon;

(b)pan fo anifail i'w ladd o dan yr Atodlen hon ac wedi ei brisio at ddibenion iawndal, ond bu farw (neu lladdwyd am resymau eraill) ar ôl ei brisio; neu

(c)pan fo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad ar symud o dan yr Atodlen hon, ac y bu'n rhaid ei ladd fel mesur argyfwng, a milfeddyg wedi datgan mewn ysgrifen y byddai'r anifail, fel arall, wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI of Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(3), ac mewn achos o'r fath yr iawndal fydd gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).

Swm y iawndal sy'n daladwy

9.—(1Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain Fawr am anifail o'r oedran a'r categori dan sylw—

(a)yn achos anifail pedigri, yn ystod y chwe mis cyn y dyddiad y'i prisiwyd; a

(b)yn achos unrhyw anifail buchol arall, yn ystod y mis cyn y dyddiad y'i prisiwyd.

(2Anifail pedigri yw anifail y dyroddwyd tystysgrif pedigri iddo gan sefydliad bridwyr neu gymdeithas sy'n bodloni amodau Penderfyniad y Comisiwn 84/247/EEC sy'n pennu'r criteria ar gyfer cydnabod sefydliadau bridwyr a chymdeithasau sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio o frîd pur o'r rhywogaethau buchol(4).

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at y diben o benderfynu pa gategori y mae anifail yn perthyn iddo, oedran yr anifail yw'r oedran a ddangosir ar ei basbort gwartheg ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd—

Categorïau

GwrywBenyw
Sector cig eidion — anifail di-bedigri
Hyd at a chan gynnwys 3 misHyd at a chan gynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 misDros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 misDros 6 mis hyd at a chan gynnwys 9 mis
Dros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 misDros 9 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 misDros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 misDros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis
Dros 20 misDros 20 mis
  

Teirw bridio

Eraill

  

Wedi bwrw llo

Heb fwrw llo

Sector llaeth — anifail di-bedigri
Hyd at a chan gynnwys 3 misHyd at a chan gynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 misDros 3 mis hyd at a chan gynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 misDros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 misDros 12 mis hyd at a chan gynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 misDros 16 mis hyd at a chan gynnwys 20 mis
Dros 20 misDros 20 mis
      

Wedi bwrw llo

Heb fwrw llo

Sector cig eidion — anifail pedigri
Dros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 misDros 6 mis hyd at a chan gynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 misDros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 mis
Dros 24 misDros 24 mis (heb fwrw llo)
Wedi bwrw llo, o dan 36 mis
Wedi bwrw llo, 36 mis a throsodd
Sector llaeth — anifail pedigri
Hyd at a chan gynnwys 2 fisHyd at a chan gynnwys 2 fis
Dros 2 fis hyd at a chan gynnwys 12 misDros 2 fis hyd at a chan gynnwys 10 mis
Dros 12 mis hyd at a chan gynnwys 24 misDros 10 mis hyd at a chan gynnwys 18 mis
Dros 24 misDros 18 mis (heb fwrw llo)
Wedi bwrw llo, o dan 36 mis
Wedi bwrw llo, 36 mis a throsodd

Eithriadau

10.—(1Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y data ar gyfer cyfrifo'r pris cyfartalog yn annigonol, cânt dalu iawndal fel a ganlyn—

(a)ar gyfer anifeiliaid o'r un categori, y pris cyfartalog a gyfrifwyd ddiwethaf pan oedd data digonol ar gael i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu

(b)yn achos anifail unigol, pris y farchnad.

(2Ar gyfer byfflos neu fualod, yr iawndal yw pris y farchnad.

(3Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail unigol gan brynwr yn y farchnad agored ar yr adeg y'i prisir pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan yr Atodlen hon, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 11, gyda pherchennog yr anifail yn talu unrhyw ffi sy'n codi o ganlyniad i enwebu a chyflogi prisiwr.

Rheoliad 5

ATODLEN 4Rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr

  1. 1.Hysbysu ynghylch TSE

  2. 2.Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

  3. 3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

  4. 4.Cyfyngiadau ar symud

  5. 5.Gweithredu pan nad yw TSE wedi ei gadarnhau

  6. 6.Cadarnhad o TSE mewn defaid

  7. 7.Cadarnhad o TSE mewn geifr

  8. 8.Cadarnhad o BSE mewn defaid neu eifr

  9. 9.Cadarnhad o glefyd y crafu annodweddiadol mewn defaid neu eifr

  10. 10.Amser i apelio

  11. 11.Lladd a dinistrio yn dilyn cadarnhad

  12. 12.Anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall

  13. 13.Pori ar dir comin

  14. 14.Nifer o ddiadelloedd ar un daliad

  15. 15.Meddianwyr dilynol

  16. 16.Dod ag anifeiliaid i ddaliad

  17. 17.Defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid

  18. 18.Symud anifeiliaid oddi ar ddaliad

  19. 19.Amseroedd cyfyngiadau symud

  20. 20.Marwolaeth anifail tra o dan gyfyngiad

  21. 21.Rhoi ar y farchnad epil defaid a geifr yr effeithiwyd arnynt gan BSE

  22. 22.Iawndal am ddafad neu afr a gigyddir fel anifail dan amheuaeth

  23. 23.Iawndal am anifeiliaid a leddir neu gynhyrchion a ddinistrir yn dilyn cadarnhad o TSE

  24. 24.Prisiadau

Hysbysu ynghylch TSE

1.—(1At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw ddafad neu afr yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, sydd dan amheuaeth o fod wedi ei heffeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

(3Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw ddafad neu afr neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

2.—(1Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, yna, tra'n aros am benderfyniad a yw dan amheuaeth o'i effeithio gan TSE ai peidio, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o'r daliad, ac yn gwahardd symud unrhyw ddafad neu afr arall i'r daliad hwnnw neu oddi arno.

(2Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 16.

Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

3.—(1At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod dafad neu afr wedi ei heffeithio gan BSE, rhaid iddo naill ai —

(a)ei lladd ar y daliad ar unwaith;

(b)cyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu

(c)cyflwyno hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(2Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud yr anifail oddi ar y daliad hwnnw yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

Cyfyngiadau ar symud

4.—(1At ddibenion pwynt 2(2) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, ac Erthygl 12(1) o'r rheoliad hwnnw, yn dilyn amheuaeth o TSE (pa un ai mewn anifail byw neu drwy fonitro o dan Atodiad III o Reoliad TSE y Gymuned)—

(a)rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud i'w daliad neu oddi ar ei daliad unrhyw ddafad neu afr ar yr un daliad â'r ddafad neu afr a amheuir os yw'r arolygydd o'r farn y bu'r ddafad neu afr yn agored i TSE ar y daliad hwnnw;

(b)caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud unrhyw ddafad neu afr i, neu oddi ar, unrhyw ddaliad os oes tystiolaeth y bu'r anifail a amheuir yn agored i TSE ar y daliad hwnnw; ac

(c)rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud i, neu oddi ar, ddaliad lle y cedwir anifail fel a bennir ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, neu lle mae'r arolygydd yn amau y cedwir anifail o'r fath.

(2Ni chaniateir symud anifeiliaid sydd dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 16.

Gweithredu pan nad yw TSE wedi ei gadarnhau

5.  Os ceir cadarnhad nad oedd yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, rhaid i'r arolygydd, cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn rhesymol, dynnu'n ôl yr holl gyfyngiadau a osodwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth o'i heintio â TSE.

Cadarnhad o TSE mewn defaid

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan geir cadarnhad bod dafad, neu gorff dafad a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned wedi ei effeithio gan TSE, a bod BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw, ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu arfer y pwer ym mharagraff 9(2).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl—

(a)cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw; a

(b)samplu'r anifeiliaid i ganfod eu genoteip (os oes angen),

benderfynu pa un o'r opsiynau a nodir ym mhwyntiau 2(3)(b)(i) a (2)(3)(b)(ii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned y maent yn bwriadu ei arfer.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad, sy'n rhoi gwybod iddo pa un o'r opsiynau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.

(4Rhaid i'r hysbysiad nodi—

(a)manylion adnabod yr anifeiliaid sydd i'w lladd a'u dinistrio;

(b)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) sydd i'w cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl;

(c)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) y caniateir eu cadw;

(ch)manylion adnabod unrhyw ofwm neu embryo sydd i'w ddinistrio; a

(d)y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad.

(5Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

Cadarnhad o TSE mewn geifr

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os ceir cadarnhad bod gafr sydd dan amheuaeth, neu gorff gafr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned wedi cael eu heffeithio gan TSE, a bod BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw, ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu arfer y pwer ym mharagraff 9(2).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu lladd neu ddinistrio'r holl eifr ar y daliad a'r holl embryonau ac ofa o'r anifeiliaid hynny yn unol ag Erthygl 13(1)(c), a phwynt 2.3(b)(i) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.

(3Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

Cadarnhad o BSE mewn defaid neu eifr

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan gadarnheir TSE mewn dafad neu afr a amheuwyd, neu gorff dafad neu afr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac nad oes modd nacáu BSE ar sail canlyniadau treial cylch a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a bennir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu lladd a dinistrio'r anifeiliaid a dinistrio'r embryonau a'r ofa yn unol ag Erthygl 13(1)(c), a phwynt 2(3)(a) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.

(3Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

Cadarnhad o glefyd y crafu annodweddiadol mewn defaid neu eifr

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os y TSE a gadarnheir mewn dafad neu afr a amheuwyd, neu gorff dafad neu afr a fu'n destun monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, yw clefyd y crafu annodweddiadol, ac os yw BSE wedi ei nacáu yn unol â'r weithdrefn a nodir ym Mhennod C, pwynt 3(2)(c) o Atodiad X i'r Rheoliad hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â chymhwyso paragraff 6 mewn perthynas â defaid, neu baragraff 7 mewn perthynas â geifr.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymhwyso naill ai paragraff 6 neu 7, rhaid i Weinidogion Cymru, yn lle cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw,—

(a)cynnal yr ymchwiliad a bennir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw; a

(b)penderfynu pa un o'r opsiynau a nodir ym mhwyntiau 5(a) a 5(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y daliad, sy'n rhoi gwybod iddo pa opsiwn y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei arfer.

(5Os yw Gweinidogion Cymru yn dewis yr opsiwn a nodir ym mhwynt 5(a) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i'r hysbysiad nodi—

(a)manylion adnabod yr anifeiliaid (os oes rhai) sydd i'w lladd neu eu dinistrio;

(b)manylion adnabod unrhyw ofa neu embryonau (os oes rhai) sydd i'w dinistrio; ac

(c)y terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad.

(6Os yw Gweinidogion Cymru yn dewis yr opsiwn a nodir ym mhwynt 5(b) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, yna, am y ddwy flynedd fridio ar ôl canfod yr achos olaf o TSE, rhaid i'r meddiannydd—

(a)nodi pob dafad a gafr sydd ar y daliad; a

(b)peri i'r daliad fod destun y monitro dwysach ar gyfer TSE a nodir ym mhwynt 5(b)(ii) o'r Atodiad hwnnw,

ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.

(7Ni chaiff neb anfon unrhyw anifeiliaid byw o deulu'r ddafad neu'r afr a nodwyd o dan is-baragraff (6)(a), nac embryonau neu ofa o anifeiliaid o'r fath, i Aelod-wladwriaeth arall nac i drydedd gwlad ac y mae peidio â chydymffurfio â'r is-baragraff hwn yn dramgwydd.

(8Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.

Amser i apelio

10.  Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â bod wedi lladd unrhyw dafad neu afr nac wedi dinistrio unrhyw embryo neu ofwm o dan yr Atodlen hon—

(a)cyn cael eu hysbysu mewn ysgrifen gan y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo nad oes bwriad gan y person hwnnw i fynd ymlaen i apelio;

(b)cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod a ganiateir ar gyfer apêl o dan reoliad 10; neu

(c)os gwneir apêl, cyn i'r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl

Lladd a dinistrio yn dilyn cadarnhad

11.—(1Rhaid i arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a nodir i'w lladd yn yr hysbysiad ym mharagraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) yn cael eu lladd a bod yr holl ofa ac embryonau a nodwyd i'w dinistrio yn yr hysbysiad yn cael eu dinistrio.

(2Os na leddir anifail yn y daliad, rhaid i arolygydd roi cyfarwyddyd ysgrifenedig i'r perchennog i'w draddodi i fangre arall i'w ladd fel y nodir yn y cyfarwyddyd.

(3Pan leddir anifail o dan y paragraff hwn, mae'n dramgwydd symud y corff o'r fangre lle'i lladdwyd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

Anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall

12.  At ddibenion pwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, os daethpwyd â'r anifail heintiedig o ddaliad arall, caiff Gweinidogion Cymru weithredu yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r daliad y tarddodd yr anifail ohono yn ogystal â'r daliad lle cadarnhawyd yr haint, neu yn lle'r daliad hwnnw.

Pori ar dir comin

13.  Yn achos anifeiliaid heintiedig ar dir pori comin, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.

Nifer o ddiadelloedd ar un daliad

14.  Os cedwir mwy nag un ddiadell ar un daliad, caiff Gweinidogion Cymru gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(3), 7(2), 8(2) neu 9(4) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(4) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.

Meddianwyr dilynol

15.  Os newidir meddiannaeth y daliad, rhaid i'r meddiannydd blaenorol sicrhau bod y meddiannydd dilynol yn gwybod am fodolaeth a chynnwys unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr Atodlen hon, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Dod ag anifeiliaid i ddaliad

16.  Mae unrhyw berson sy'n rhoi anifail ar ddaliad yn groes i bwynt 3(1) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid

17.  Mae unrhyw berson sy'n defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid yn groes i bwynt 3(2) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Symud anifeiliaid oddi ar ddaliad

18.  Mae unrhyw berson sy'n symud anifail oddi ar ddaliad yn groes i bwynt 3(3) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Amseroedd cyfyngiadau symud

19.  At ddibenion pwynt 3(4) of Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r dyddiadau perthnasol, a hysbysu meddiannydd y daliad o'r dyddiadau hynny mewn ysgrifen.

Marwolaeth anifail tra o dan gyfyngiad

20.  Os bydd farw neu os lleddir unrhyw anifail sy'n 18 mis oed neu'n hŷn, tra bo dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon neu Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i'r perchennog hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff yn yr un fangre hyd nes caiff gyfarwyddiadau ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i'w symud neu i'w waredu, ac y mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn yn dramgwydd.

Rhoi ar y farchnad epil defaid a geifr yr effeithiwyd arnynt gan BSE

21.  Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw ddefaid neu eifr yr effeithiwyd arnynt gan BSE ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

Iawndal am ddafad neu afr a gigyddir fel anifail dan amheuaeth

22.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal yn unol â'r paragraff hwn am ddafad neu afr a leddir fel anifail dan amheuaeth.

(2Os ceir cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw —

(a)£30 yn achos anifail ar ddiwedd ei oes gynhyrchiol; a

(b)£90 mewn unrhyw achos arall.

(3Pan na cheir cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r canlynol—

(a)y swm a fyddai wedi bod yn daladwy o dan y paragraff hwn pe byddid wedi cael cadarnhad bod yr anifail wedi ei effeithio gan TSE; a

(b)y swm sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan berchennog yr anifail, ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol, ei fod yn adlewyrchu gwerth yr anifail ar y farchnad, yn ddarostyngedig i uchafswm o £400 am bob anifail.

Iawndal am anifeiliaid a leddir neu gynhyrchion a ddinistrir yn dilyn cadarnhad o TSE

23.  Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal i berchennog anifeiliaid a leddir a chynhyrchion a ddinistrir o dan yr Atodlen hon yn dilyn cadarnhau TSE, yn unol â'r darpariaethau sy'n dilyn yn y paragraff hwn—

Iawndal

Anifail neu gynnyrchIawndal (£)
Dafad neu afr (gwryw)90
Dafad neu afr (benyw)65
Oen (o dan 12 mis oed) neu fyn (o dan 12 mis oed)40
Embryo150
Ofwm5

Prisiadau

24.—(1Os yw perchennog anifail o'r farn bod yr iawndal yn y paragraff blaenorol yn afresymol, caiff hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny, ac yna bydd y weithdrefn yn rheoliad 11 yn gymwys, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

(2Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod yr iawndal yn y paragraff blaenorol yn ormodol, caiff Gweinidogion Cymru fynnu prisio'r anifail yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, ond rhaid iddynt hefyd dalu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

(3Rhaid i'r prisiwr brisio'r anifail yn unol â'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail gan brynwr yn y farchnad agored pe na bai anifail yn tarddu o ddiadell yr effeithiwyd arno gan TSE.

Rheoliad 5

ATODLEN 5Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid nad ydynt o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr

Hysbysu

1.—(1At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth nad yw o deulu'r fuwch y ddafad na'r afr ac sydd dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n archwilio neu arolygu unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru ar yr archwiliad neu'r arolygiad hwnnw, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

(3Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw anifail nad yw o deulu'r fuwch y ddafad na'r afr, neu unrhyw ran o'r corff, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir ei waredu gan arolygydd milfeddygol.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

2.—(1Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ei symud o'i ddaliad hyd nes ceir penderfyniad a yw dan amheuaeth o'i effeithio gan TSE ai peidio.

(2Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 16.

Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

3.—(1At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail nad yw o deulu'r ddafad, y fuwch na'r afr wedi ei effeithio gan TSE, rhaid iddo naill ai—

(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;

(b)cyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu

(c)cyflwyno hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud yr anifail ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(2Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud y corff oddi ar y daliad hwnnw neu ei waredu yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

Iawndal

4.—(1Pan leddir anifail o dan baragraff 3, caiff Gweinidogion Cymru dalu iawndal.

(2Yr iawndal yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg y lleddir yr anifail, a benderfynir yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

Cadw cynhyrchion a gwaredu

5.—(1Mewn perthynas ag unrhyw garw a ddewisir ar gyfer samplu yn rhan o'r arolwg sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/182/EC ynglyn ag arolwg ar gyfer clefyd nychu cronig mewn anifeiliaid o deulu'r carw(5), rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy—

(a)at ddibenion pwynt 1 o Atodiad III i Benderfyniad y Comisiwn 2007/182/EC, gadw yn ei feddiant y carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) hyd nes ceir canlyniad y prawf; a

(b)os ceir canlyniad positif, gwaredu'r carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ar unwaith yn unol â phwynt 4 o'r Atodiad hwnnw.

(2Mewn perthynas â'r paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

(3Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn euog o dramgwydd.

Rheoliad 5

ATODLEN 6Bwydydd anifeiliaid

  1. RHAN 1 Cyfyngiadau ar fwydo proteinau i anifeiliaid

    1. 1.Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil

    2. 2.Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

    3. 3.Eithriadau

    4. 4.Gwahardd a chyfyngu ar symud anifeiliaid

    5. 5.Cigydda anifeiliaid

    6. 6.Iawndal

    7. 7.Cigydda neu werthu i'w fwyta gan bobl

  2. RHAN 2 Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid

    1. 8.Blawd pysgod ar gyfer bwydo anifeiliaid a ffermir ac nad ydynt yn cnoi cil

    2. 9.Tramgwyddau sy'n ymwneud â blawd pysgod a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod

    3. 10.Bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

    4. 11.Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

    5. 12.Cynhyrchion gwaed a blawd gwaed

    6. 13.Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed

    7. 14.Newid yn y defnydd o gyfarpar

    8. 15.Amodau sy'n gymwys i storio a chludo llwythi mawr o gynhyrchion protein a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys proteinau o'r fath

    9. 16.Amodau sy'n gymwys i weithgynhyrchu a chludo bwydydd anifeiliaid anwes neu fwydydd anifeiliaid

    10. 17.Allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu i drydydd gwledydd

    11. 18.Gwrteithiau

    12. 19.Cadw cofnodion ar gyfer cludo etc bwydydd gwrthodedig anifeiliaid anwes

    13. 20.Trawshalogi deunyddiau sy'n tarddu o fangreoedd lle y defnyddir proteinau anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod)

RHAN 1Cyfyngiadau ar fwydo proteinau i anifeiliaid

Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil

1.—(1At ddibenion Erthygl 7(1) a phwynt (b) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—

(a)bwydo i unrhyw anifail cnoi cil;

(b)cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail cnoi cil; neu

(c)ganiatáu i unrhyw anifail cnoi cil gael mynediad at,

unrhyw brotein anifeiliaid (neu unrhyw beth sy'n cynnwys protein anifeiliaid) ar wahân i'r proteinau a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw.

(2Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan is-baragraff (1), ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i mewn i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid cnoi cil, neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—

(a)yn unol â pharagraff 3; neu

(b)pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid cnoi cil fynediad at y protein anifeiliaid a nodir yn yr awdurdod.

(3Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys pan fo'r fangre wedi ei chofrestru ar gyfer defnyddio a storio'r protein anifeiliaid perthnasol o dan baragraff 8(6), 10(5) neu 12(9).

Gwahardd bwydo protein anifeiliaid i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

2.—(1At ddibenion Erthygl 7(2) o, a phwynt (a) o Ran I o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd—

(a)bwydo i unrhyw fochyn, dofednod, ceffyl neu unrhyw anifail a ffermir ac nad yw'n cnoi cil;

(b)cyflenwi i'w fwydo i unrhyw anifail o'r fath; neu

(c)ganiatáu i unrhyw anifail o'r fath gael mynediad at,

unrhyw beth y mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â—

(a)protein anifeiliaid wedi'i brosesu;

(b)gelatin sy'n tarddu o anifail cnoi cil;

(c)cynhyrchion gwaed;

(ch)protein hydrolysedig;

(d)ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm sy'n tarddu o anifeiliaid;

(dd)bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid; ac

(e)bwydydd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid.

(3Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)y protein a nodir ym mhwynt A(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned;

(b)blawd pysgod (a bwydydd anifeiliaid sy'n ei gynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt B o'r Rhan honno;

(c)ffosffad deucalsiwm a ffosffad tricalsiwm (a bwydydd anifeiliaid sy'n eu cynnwys) sydd wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt C o'r Rhan honno;

(ch)cynhyrchion gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil(a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno;

(d)yn achos bwydo i bysgod, blawd gwaed sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd o'r fath) ac wedi eu cynhyrchu, eu labelu, eu cludo a'u storio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno; a

(dd)cnydau gwraidd a chloron (a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion o'r fath) y canfuwyd sbigylau esgyrn ynddynt, os awdurdodir hwy gan Weinidogion Cymru yn dilyn asesiad risg yn unol â phwynt A(d) o'r Rhan honno.

(4Yn y paragraff hwn mae “protein” (“protein”) yn cynnwys unrhyw fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys protein anifeiliaid.

(5Mae'n dramgwydd dod ag unrhyw beth a waherddir gan y paragraff hwn, ac eithrio bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl, i unrhyw fangre lle cedwir anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff 1(a), neu fod â meddiant o'r cyfryw beth mewn mangre o'r fath, ac eithrio—

(a)yn unol â pharagraff 3; neu

(b)pan awdurdodwyd hynny gan arolygydd a phan fo mesurau addas wedi eu sefydlu i sicrhau na chaiff anifeiliaid fel a nodir yn is-baragraff (1)(a) fynediad ato.

Eithriadau

3.—(1Nid yw paragraffau 1(2) a 2(5) yn gymwys mewn perthynas ag —

(a)bwyd amrwd ar gyfer anifeiliaid anwes, a gyfansoddir o brotein anifeiliaid neu unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn bwyd ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cwn sy'n gweithio) yn y fangre honno; neu

(b)unrhyw beth a ymgorfforwyd mewn gwrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd a gynhyrchwyd ac a ddefnyddir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(6) a pharagraff 18,

ar yr amod y bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

(2Yr amodau hynny yw—

(a)na fwydir ef i unrhyw anifeiliaid a ffermir;

(b)nad yw'n cael ei storio, ei drin na'i fwydo i anifeiliaid anwes (gan gynnwys cŵn sy'n gweithio) mewn rhannau o'r fangre—

(i)lle mae gan anifeiliaid a ffermir fynediad atynt ; neu

(ii)lle mae bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a ffermir yn cael eu storio neu eu trin;

(c)nad yw'n dod i gyffyrddiad ag—

(i)bwydydd anifeiliaid y caniateir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir; neu

(ii)cyfarpar trin a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw fwydydd anifeiliaid o'r fath; a

(d)nad yw anifeiliaid a ffermir byth yn cael mynediad at fwydydd anifeiliaid anwes, nac at wrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd hyd nes ei ddefnyddio ar y tir yn unol â Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006.

Gwahardd a chyfyngu ar symud anifeiliaid

4.—(1Pan fo gan arolygydd sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi cael ei fwydo gyda, neu wedi cael mynediad at—

(a)ddeunydd risg penodedig;

(b)unrhyw ddeunydd y mae gan yr arolygydd sail resymol i gredu sydd â risg o heintusrwydd TSE yn gysylltiedig ag ef; neu

(c)protein anifeiliaid na all yr arolygydd ganfod ei darddiad na'r risg o heintusrwydd TSE ,

caiff weithredu fel y nodir yn is-baragraff (2).

(2Caiff yr arolygydd—

(a)gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail, yn unol â rheoliad 15, yn gwahardd neu'n cyfyngu ar symud yr anifail; a

(b)os yw'n anifail buchol, ymafael yn ei basbort.

Cigydda anifeiliaid

5.—(1Pan fo gan arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru sail resymol i gredu bod anifail sy'n agored i'w heintio gan TSE wedi ei fwydo neu wedi cael mynediad at unrhyw ddeunydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4, caiff gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn unol â rheoliad 15.

(2Caiff yr hysbysiad naill ai—

(a)mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail yn ei ladd a'i waredu fel a nodir yn yr hysbysiad; neu

(b)mynnu bod y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am yr anifail ei gadw yn y fangre ac yn y modd a ddarperir yn yr hysbysiad, ac os felly, rhaid i'r arolygydd sicrhau bod y pasbort gwartheg yn cael ei stampio â'r geiriau “Not for human consumption”.

(3Rhaid i'r arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a bennir ar gyfer eu lladd yn yr hysbysiad yn is-baragraff (2)(a) yn cael ei lladd a'u gwaredu.

Iawndal

6.—(1Pan leddir anifail o dan baragraff 5, caiff Gweinidogion Cymru dalu iawndal os ystyriant hynny'n briodol o dan yr holl amgylchiadau, a rhaid iddynt ddatgan eu penderfyniad mewn ysgrifen ynglyn â thalu iawndal ai peidio.

(2Mae'r drefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â'r penderfyniad.

(3Yr iawndal am—

(a)anifail buchol yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 3;

(b)anifail o deulu'r ddafad neu afr yw'r gwerth a benderfynir yn unol â pharagraffau 23 a 24 of Atodlen 4; ac

(c)anifail nad yw o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg ei lleddir, a benderfynir yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

Cigydda neu werthu i'w fwyta gan bobl

7.  Mae'n dramgwydd i unrhyw anifail a allai gael ei heintio gan TSE gael ei draddodi i gael ei gigydda i'w fwyta gan bobl neu ei gigydda i'w gael ei fwyta gan bobl pan fo pasbort yr anifail wedi cael ei stampio o dan baragraff 5.

RHAN 2Cynhyrchu protein a bwydydd anifeiliaid

Blawd pysgod ar gyfer bwydo anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil

8.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny yn unol â phwynt B(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —

(a)yn unol â phwynt B(c) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;

(b)yn unol â phwynt B(c)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu

(c)yn unol â phwynt B(c) (ii) o'r Rhan honno, mewn mangre a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt B(d) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.

(4Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo llwythi mawr o'r bwydydd anifeiliaid wneud hynny yn unol â'r frawddeg gyntaf ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.

(5Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenarol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.

(6Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt B(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â blawd pysgod a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod

9.—(1Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 8 yn dramgwydd.

(2Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 8(2)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—

(a)yn cadw anifeiliaid cnoi cil;

(b)yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) a gynhyrchwyd ganddo ei hunan o'i ddaliad; neu

(c)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod gyda chynnwys protein crai o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.

(3Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt B(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —

(a)yn peidio â sicrhau y cedwir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil mewn cyfleusterau ar wahân, yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;

(b)yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r ail fewnoliad; neu

(c)yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.

Bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

10.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny —

(a)yn unol â phwynt C(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;

(b)yn unol â phwynt C(a)(i) o'r Rhan honno, yn achos cynhyrchwyr bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu

(c)yn unol â phwynt C(a)(ii) o'r Rhan honno mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt C(b) o'r Rhan honno, ac y mae'n rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid hynny mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt C(c) o'r Rhan honno.

(4Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt C(c) o'r Rhan honno.

(5Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt C(d) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw ac wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil

11.—(1Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 10 yn dramgwydd.

(2Mae cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd o dan baragraff 10(1)(b) yn cyflawni tramgwydd os yw—

(a)yn cadw anifeiliaid cnoi cil;

(b)yn traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu

(c)yn defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm sydd â'u cynnwys ffosfforws yn 10% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.

(3Mae unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt C(a)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned yn cyflawni tramgwydd os yw —

(a)yn peidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn unol â'r mewnoliad cyntaf yn y pwynt hwnnw;

(b)yn peidio â sicrhau y cedwir hwy mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu

(c)yn peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.

Cynhyrchion gwaed a blawd gwaed

12.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu —

(a)cynhyrchion gwaed y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid a ffermir nad ydynt yn cnoi cil ; neu

(b)blawd gwaed, a fwriedir i'w fwydo i bysgod,

sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda Gweinidogion Cymru at ddibenion pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a naill ai —

(c)na ddefnyddir y lladd-dy i gigydda anifeiliaid cnoi cil; neu

(ch)bod system rheoli wedi ei sefydlu yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(a) o'r Rhan honno i sicrhau y cedwir gwaed anifeiliaid cnoi cil ar wahân i waed anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a'i fod wedi cael ei awdurdodi at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno.

(4Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed at y defnydd a ddisgrifir yn yr ail baragraff o bwynt D(b) o Ran II of Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—

(a)fod wedi sefydlu'r system rheolaethau a bennir yn yr ail baragraff hwnnw i sicrhau y cedwir cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil ar wahân i gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil; a

(b)bod wedi ei awdurdodi ar gyfer y diben gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny—

(a)yn unol â phwynt D(c) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw;

(b)yn unol â phwynt D(c)(i) o'r Rhan honno, fel cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw; neu

(c)yn unol â phwynt D(c)(ii) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y pwynt hwnnw.

(6Rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, a rhaid i unrhyw ddogfennau a anfonir gyda'r bwydydd anifeiliaid gydymffurfio â'r pwynt hwnnw.

(7Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.

(8Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r math hyn, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.

(9Rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf o bwynt D(f) o'r Rhan honno oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed

13.—(1Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 12 yn dramgwydd.

(2Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n casglu gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned beidio ag—

(a)cigydda anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;

(b)casglu, storio, cludo neu becynnu gwaed yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu

(c)samplu a dadansoddi gwaed yn rheolaidd yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.

(3Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(b) o'r Rhan honno beidio ag—

(a)sicrhau y prosesir y gwaed yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;

(b)cadw deunydd crai a chynnyrch gorffenedig yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu

(c)samplu yn unol â thrydydd fewnoliad y paragraff hwnnw.

(4Mae'n dramgwydd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt D(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned—

(a)beidio â sicrhau y gweithgynhyrchir bwydydd anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;

(b)beidio â sicrhau y'u cedwir mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu

(c)beidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.

(5Mae'n dramgwydd i unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 12(5)(b)—

(a)gadw anifeiliaid cnoi cil lle y defnyddir cynhyrchion gwaed;

(b)cadw anifeiliaid ac eithrio pysgod lle y defnyddir blawd gwaed;

(c)traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu

(ch)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed gyda chyfanswm cynnwys protein o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.

Newid y defnydd o gyfarpar

14.  Mae'n dramgwydd defnyddio cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil o dan baragraffau 8, 10 neu 12, i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid cnoi cil, onid awdurdodir hynny mewn ysgrifen gan arolygydd.

Amodau sy'n gymwys i storio a chludo llwythi mawr o gynhyrchion protein a bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys proteinau o'r fath

15.—(1Mae'n dramgwydd storio neu gludo—

(a)llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod); neu

(b)llwythi mawr o gynhyrchion, gan gynnwys bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau organig a deunyddiau gwella pridd sy'n cynnwys proteinau o'r fath,

ac eithrio yn unol â phwynt C(a) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.

(2Mae'n dramgwydd storio neu gludo llwythi mawr o flawd pysgod, ffosffad deucalsiwm, ffosffad tricalsiwm, cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu flawd gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil , ac eithrio yn unol â phwynt C(b) ac C(c) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.

(3Yn ychwanegol at ofynion is-baragraffau (1) a (2), mae'n dramgwydd cludo llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu unrhyw un o'r deunyddiau a nodir yn is-baragraff (2) onid yw'r cludwr wedi ei gofrestru at y diben hwnnw gyda Gweinidogion Cymru.

Amodau sy'n gymwys i weithgynhyrchu a chludo bwydydd anifeiliaid anwes neu fwydydd anifeiliaid

16.—(1Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu, storio, cludo neu becynnu bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid cnoi cil neu brotein anifeiliaid wedi'i brosesu, ac eithrio blawd pysgod, ac eithrio yn unol â phwynt D o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.

(2Mae'n dramgwydd gweithgynhyrchu neu gludo bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu dricalsiwm neu gynhyrchion gwaed sy'n tarddu o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil ac eithrio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno.

Allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu i drydydd gwledydd

17.—(1Yn unol â phwynt E(1) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o anifeiliaid cnoi cil, ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys.

(2Mae'n dramgwydd allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys) ac eithrio yn unol â phwynt E(2) o'r Rhan honno a chytundeb ysgrifenedig rhwng Gweinidogion Cymru ac awdurdod cymwys yn y drydedd gwlad.

Gwrteithiau

18.—(1Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw—

(a)brotein mamalaidd (ac eithrio lludw) sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 2 yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; neu

(b)lludw sy'n deillio o losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd yn ddeunydd Categori 1 yn y Rheoliad hwnnw.

(2Mae'n dramgwydd defnyddio unrhyw beth a waherddir yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.

(3Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “tir amaethyddol” (“agricultural land”) yw tir a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio at ddiben masnach neu fusnes sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth; a

(b)mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio gwartheg godro a bridio a chadw da byw, defnyddio tir ar gyfer pori, doldir, tir gwiail helyg, defnyddio tir fel coetir, a garddwriaeth (ac eithrio lluosogi a thyfu planhigion mewn tai gwydr, strwythurau gwydr neu strwythurau plastig).

Cadw cofnodion ar gyfer cludo etc bwydydd gwrthodedig anifeiliaid anwes

19.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi, yn cludo neu'n derbyn unrhyw fwyd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid ac na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes gofnodi—

(i)enw'r gweithgynhyrchwr;

(ii)y dyddiad cyflenwi a'r dyddiad derbyn;

(iii)y fangre y tarddodd y bwyd anifeiliaid anwes ohoni a'i gyrchfan;

(iv)maint y bwyd anifeiliaid anwes; a

(v)natur y protein anifeiliaid a gynhwysir yn y bwyd anifeiliaid anwes.

(2Rhaid i'r person hwnnw gadw'r cofnodion hyn am 2 flynedd.

(3Rhaid i'r traddodwr sicrhau bod y bwyd anifeiliaid anwes wedi ei labelu â'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) neu yr anfonir dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth honno ynghyd â'r bwyd hwnnw.

(4Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn euog o dramgwydd.

Trawshalogi deunyddiau sy'n tarddu o fangreoedd lle y defnyddir proteinau anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod)

20.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi—

(a)cynhwysyn, neu

(b)cynnyrch bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei nodi fel bwyd anifeiliaid anwes, ond sy'n cynnwys cynhwysyn,

gydymffurfio ag is-baragraff (2).

(2Rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod —

(a)naill ai label wedi ei gysylltu â'r pecyn sy'n cynnwys y cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid; neu

(b)unrhyw ddogfennau a anfonir ynghyd â'r cynhwysyn neu'r bwyd anifeiliaid,

yn dynodi bod y cynhwysyn wedi ei gynhyrchu mewn mangre lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu (ac eithrio blawd pysgod) mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.

(3Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysyn” (“ingredient”) yw cynhwysyn sydd i'w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid a weithgynhyrchir mewn mangre lle y defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu ac eithrio blawd pysgod, mewn unrhyw broses weithgynhyrchu.

Rheoliad 5

ATODLEN 7Deunydd risg penodedig, cig a wahenir yn fecanyddol a thechnegau cigydda

  1. 1.Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys

  2. 2.Hyfforddiant

  3. 3.Cig a wahenir yn fecanyddol

  4. 4.Pithio

  5. 5.Cynaeafu tafodau

  6. 6.Cynaeafu cig y pen

  7. 7.Tynnu deunydd risg penodedig

  8. 8.Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

  9. 9.Defaid a geifr mewn lladd-dy

  10. 10.Stampiau wyn a geifr ifanc

  11. 11.Tynnu madruddyn y cefn o ddefaid a geifr

  12. 12.Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

  13. 13.Tynnu deunydd risg penodedig mewn safle torri a awdurdodir o dan baragraff 12(1)

  14. 14.Cig o Aelod-wladwriaeth arall

  15. 15.Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig

  16. 16.Anifeiliaid cynllun

  17. 17.Diogelwch deunydd risg penodedig

  18. 18.Gwahardd cyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl

Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys

1.—(1Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyflawni'r dyletswyddau a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11(1) a phwynt 11(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned mewn perthynas â'r Atodlen hon, a chaiff roi awdurdodiadau at ddibenion pwynt 4(3)(a) o'r Atodiad hwnnw.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw unrhyw berson a benodir at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(3Caniateir cyfyngu penodiad fel arolygydd i'r pwerau a'r dyletswyddau a bennir wrth benodi.

(4Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 14(3).

Hyfforddiant

2.  Rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy neu safle torri lle y tynnir deunydd risg penodedig—

(a)sicrhau bod y staff yn cael pa bynnag hyfforddiant sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y meddiannydd yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau yn yr Atodlen hon; a

(b)cadw cofnod o hyfforddiant pob person cyhyd ag y bo'r person yn gweithio yno,

ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Cig a wahenir yn fecanyddol

3.—(1Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â phwynt 5 o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned (mesurau ynghylch cig a wahenir yn fecanyddol) yn euog o dramgwydd.

(2Mae unrhyw berson sy'n defnyddio unrhyw gig a wahanwyd yn fecanyddol ac a gynhyrchwyd yn groes i'r pwynt hwnnw wrth baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei werthu i'w fwyta gan bobl neu unrhyw fwyd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cig a wahenir yn fecanyddol” (“mechanically separated meat”) yw'r cynnyrch a geir trwy dynnu'r cig oddi ar esgyrn sydd â chig arnynt ar ôl diesgyrnu, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy'n achosi colli neu addasu strwythur y ffibrau cyhyrol.

Pithio

4.  Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â phwynt 6 o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned (mesurau ynghylch rhwygo meinweoedd) yn euog o dramgwydd.

Cynaeafu tafodau

5.  Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â phwynt 7 o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu tafodau o anifeiliaid buchol) yn euog o dramgwydd.

Cynaeafu cig y pen

6.  Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â phwynt 8(1) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu cig y pen o anifeiliaid buchol) yn euog o dramgwydd.

Tynnu deunydd risg penodedig

7.—(1Mae unrhyw berson sy'n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre ar wahân i fangre lle y caniateir tynnu'r deunydd risg penodedig hwnnw o dan bwynt 4(1) neu bwynt 4(3)(a) of Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2Yn achos safle torri, mae tynnu'r canlynol yn dramgrwydd —

(a)unrhyw ran o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig o unrhyw anifail buchol, onid yw'r safle wedi ei awdurdodi o dan baragraff 12(1)(a); neu

(b)madruddyn y cefn o unrhyw ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed pan gaiff ei chigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy'r deintgig, onid yw'r safle wedi ei awdurdodi o dan baragraff 12(1)(b) at y diben o dynnu deunydd o'r fath.

Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

8.—(1Pan gigyddir anifail buchol mewn lladd-dy, neu pan gludir carcas anifail buchol i ladd-dy ar ôl ei ladd mewn man arall fel mesur argyfwng, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i—

(a)safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a);

(b)safle torri a leolir mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy'n gymwys yn y rhan honno; neu

(c)Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned.

(3Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi pa gig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 11(3)(a) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned a darparu gwybodaeth yn unol â phwynt 11(3)(b) o'r Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 (7), ac eithrio yn unol â phwynt 11(3)(a) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned.

(5Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Defaid a geifr mewn lladd-dy

9.—(1Pan gigyddir defaid neu eifr, mewn lladd-dy, neu pan gludir carcas dafad neu afr i ladd-dy ar ôl ei ladd mewn man arall fel mesur argyfwng, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Yn achos ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed pan gaiff ei chigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy'r deintgig, rhaid i'r meddiannydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda—

(a)dynnu ymaith fadruddyn y cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem; neu

(b)afon y cig i—

(i)safle torri sydd wedi'i awdurdodi o dan baragraff 12(1)(b),;

(ii)safle torri a leolir mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy'n gymwys yn y rhan honno; neu

(iii)yn unol â pwynt 10(1) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, safle torri mewn Aelod-wladwriaeth arall cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig ag awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth sy'n derbyn y cig, ac yr anfonir y cig yn unol â'r cytundeb hwnnw.

(3Yn is-baragraff (2)(b)(iii), ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw mangre —

(a)a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel y cyfryw o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004; neu

(b)sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004, hyd nes cymeradwyir felly.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Stampiau ŵyn a geifr ifanc

10.—(1Caiff arolygydd stampio dafad neu afr mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri drwy'r deintgig ac os nad yw'r ddogfennaeth (os oes dogfennaeth o'r fath) sy'n gysylltiedig â'r anifail yn dangos ei fod dros 12 mis oed ar adeg y cigydda.

(2rhaid i'r stamp farcio'r cig gyda chylch 5 centimetr mewn diamedr ac yn cynnwys y canlynol mewn llythrennau bras 1 centimetr o uchder —

(a)“MHS”; a

(b)yn achos—

(i)dafad, “YL”; neu

(ii)gafr, “YG”.

(3Mae'n dramgwydd i unrhyw berson ac eithrio arolygydd osod y stamp neu farc tebyg iddo, neu fod â chyfarpar yn ei feddiant ar gyfer ei osod.

(4Mae'n dramgwydd marcio dafad neu afr gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc neu stamp sy'n debyg iddynt onid yw'r anifail yn un y caniateir ei farcio yn unol ag is-baragraff (1).

Tynnu madruddyn y cefn o ddefaid a geifr

11.  Mae'n dramgwydd tynnu madruddyn y cefn neu unrhyw ran ohono o ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed ar adeg eu cigydda neu o ddafad neu afr a oedd ag un neu fwy o flaenddannedd parhaol a oedd wedi torri drwy'r deintgig (ac eithrio at ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio trwy—

(a)hollti'r holl asgwrn cefn yn hydredol; neu

(b)tynnu ymaith doriad hydredol o'r holl asgwrn cefn gan gynnwys madruddyn y cefn

Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

12.—(1Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd awdurdodi safle torri i dynnu —

(a)y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol sy'n ddeunydd risg penodedig; neu

(b)madruddyn y cefn o ddefaid a geifr sydd dros 12 mis oed pan gânt eu cigydda neu pan fo un neu fwy o'r blaenddannedd wedi torri drwy'r deintgig,

os bodlonir yr Asiantaeth y cydymffurfir â darpariaethau Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned a'r Atodlen hon.

(2Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 6, 8, 9 a 10 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at Weinidogion Cymru fel pe baent yn gyfeiriadau at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Tynnu deunydd risg penodedig mewn safle torri a awdurdodir o dan baragraff 12(1)

13.  Bydd meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1) yn cyflawni tramgwydd oni fydd yn tynnu o'r cig y yr holl ddeunydd risg penodedig o'r math y mae'r awdurdodiad yn berthnasol iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ar ôl i'r cig gyrraedd y safle, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud o'r safle

Cig o Aelod-wladwriaeth arall

14.  At ddibenion pwynt 10(1) a phwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, pan gludir cig sy'n cynnwys y rhannau hynny o asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r mewnforwr ei anfon ar ei union i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a), ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig

15.—(1Bydd meddiannydd unrhyw fangre lle y tynnir ymaith ddeunydd risg penodedig, sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3 of Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned (marcio a gwaredu) yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion y pwynt hwnnw —

(a)ystyr staenio yw trin y deunydd (pa un ai drwy drochi, chwistrellu neu daenu rywfodd arall) gan ddefnyddio —

(i)toddiant 0.5% yn ôl pwysau/cyfaint o'r cyfrwng lliwio Patent Blue V (E131, Colur Index 1971 Rhif 42051 (8)); neu

(ii)pa bynnag gyfrwng lliwio arall a gymeradwyir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd; a

(b)rhaid taenu'r staen fel y bo'r lliw yn hollol weladwy ac yn parhau felly—

(i)dros holl arwyneb y toriad a'r rhan fwyaf o'r pen yn achos pen dafad neu afr; a

(ii)yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros holl arwyneb y deunydd.

(3Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw ddeunydd risg penodedig y bwriedir ei ddefnyddio fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE y Gymuned.

Anifeiliaid cynllun

16.—(1Wedi i'r deunydd risg penodedig gael ei dynnu ymaith o anifail buchol a gigyddir at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96, sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad eidion yn y Deyrnas Unedig (9), rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod y gweddill (ac eithrio'r croen) yn cael ei staenio ar unwaith yn unol â pharagraff 15 fel y bo'r lliw yn weladwy ac yn parhau felly dros holl arwyneb y deunydd.

(2Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Diogelwch deunydd risg penodedig

17.—(1Hyd nes traddodir neu y gwaredir y deunydd o'r fangre lle y'i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei wahanu'n ddigonol oddi wrth unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol, a'i gadw mewn cynhwysydd anhydraidd sydd â chaead a label arno i ddynodi ei fod yn cynnwys naill ai—

(a)deunydd risg penodedig; neu

(b)sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 ac yn dwyn y geiriau “For disposal only” ar y label.

(2Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi'n lân cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol bob tro ar ôl ei wagio, a'i ddiheintio cyn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

(3Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Gwahardd cyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl

18.  Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi—

(a)unrhyw ddeunydd risg penodedig, neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys deunydd risg penodedig, ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu

(b)unrhyw ddeunydd risg penodedig i'w ddefnyddio i baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl.

Rheoliad 5

ATODLEN 8Cyfyngiadau ar allforio

Allforio anifeiliaid buchol a chynhyrchion buchol i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd

1.—(1Mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) y canlynol i Aelod-wladwriaethau eraill neu i drydydd gwledydd—

(a)yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned, anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; neu

(b)yn unol ag Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, unrhyw gynhyrchion a gyfansoddir o, neu sy'n ymgorffori, unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n deillio o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

(2Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1)(b) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd mewnoliad y pwynt 1(a) o Atodiad VII o Reoliad y Gymuned) a ddefnyddiwyd i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

(3Yn y paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Allforio pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau

2.  Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.

Allforio cynhyrchion sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd

3.  Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.

(1)

OJ Rhif L 99, 20.4.96, t. 14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t. 25).

(2)

ISBN 92-1-139097-4.

(3)

OJ Rhif L 139, 30.04.2004, t.55. Nodir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 yn awr mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.22).

(4)

OJ Rhif L 125, 12.05.1984, t.58

(5)

OJ Rhif. L 84, 24.3.2007, t.37.

(7)

OJ Rhif L 204, 11.8.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 1).

(8)

Cyhoeddir y Colour Index gan The Society of Dyers and Colourists o Perkin House, 82 Grattan Road, Bradford, Gorllewin Swydd Efrog BD1 2JB.

(9)

OJ Rhif L 99, 20.4.1996, t. 14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t. 25).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources