Adran 12: Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol
43.Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau ar draws ystod lawn swyddogaethau’r awdurdod sy’n effeithio arnynt. Mae “plant” at y dibenion hyn wedi eu diffinio yn adran 71 yn bersonau sydd o dan 18 oed.
44.Mae is-adran (2) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am eu trefniadau i blant gymryd rhan ac yn cadw’r wybodaeth yn gyfoes.
45.Mae is-adran (3) yn diddymu adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel y’i diwygiwyd. Yr oedd adran 176 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yng Nghymru i roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru ar ymgynghori â disgyblion ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio ar y disgyblion. Mae’r ddyletswydd newydd yn gosod dyletswydd i wneud trefniadau sy’n hybu a hwyluso cyfranogiad y plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnynt. Mae’r hen ddyletswydd wedi ei goddiweddyd gan y ddyletswydd newydd ac eithrio mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n eiddo i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn hytrach nag i’r awdurdod lleol. Mae’r penderfyniadau hynny bellach yn destun darpariaeth ar wahân yn adran 29B o Ddeddf Addysg 2002 (a fewnosodwyd gan adran 157 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008).