Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Rhan 2: Gwarchod Plant a Gofal Dydd i Blant

Adran 19 Ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”

53.Mae adran 19 yn diffinio “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant” at ddiben rheoleiddio’r gweithgareddau hyn o dan Ran 2 o’r Mesur

54.Mae person yn “warchodwr plant” os yw’n gofalu am un neu ragor o blant o dan wyth oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr.

55.Mae person yn darparu “gofal dydd i blant” os yw’n darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan wyth oed mewn mangre nad yw’n fangre ddomestig.

56.Mae is-adran (3) yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer drwy orchymyn i newid yr oedrannau y cyfeirir atynt yn y diffiniadau o “warchodwr plant” a “gofal dydd i blant” ac i bennu amgylchiadau a fydd yn gyfystyr ag eithriadau i’r diffiniadau.  Ni fydd person y mae ei weithgaredd yn dod o fewn yr amgylchiadau a bennir drwy orchymyn yn warchodwr plant nac yn ddarparydd gofal dydd (yn ôl y digwydd) ac ni fydd yn ofynnol iddo gofrestru naill ai o dan adran 21 neu adran 23. Mae is-adran (5) yn nodi rhestr nad yw’n un hollgynhwysfawr o’r mathau o faterion y caniateir gwneud eithriadau mewn perthynas â hwy: (a) y categori o berson sy’n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd; (b) y plentyn neu'r plant y darperir ef ar ei gyfer neu ar eu cyfer; (c) natur y gwasanaeth gwarchod plant neu’r gofal dydd; (d) y fangre y darperir ef ynddi; (e) yr adegau pan ddarperir ef; ac (f) y trefniadau y darperir ef oddi tanynt.

57.Y prif ffactor sy’n gwahaniaethu rhwng gwarchod plant a gofal dydd yw a yw plant yn cael gofal ar “fangre ddomestig”, a ddiffinnir yn is-adran (6) fel unrhyw fangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat.

Adran 20 Cofrestr o warchodwyr plant

58.Mae adran 20 yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cadw cofrestr o'r holl bersonau a gofrestrir yn warchodwyr plant o dan y Rhan hon o'r Mesur.

Adran 21 Dyletswydd gwarchodwyr plant i gofrestru

59.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar warchodwyr plant yng Nghymru i gael eu cofrestru gan Weinidogion Cymru.  Rhaid i berson gael ei gofrestru fel gwarchodwr plant gan Weinidogion Cymru cyn gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru (is-adran (1)). Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi i unrhyw berson y credant ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant, ac yntau heb ei gofrestru, i wneud hynny, fel cam cychwynnol cyn cymryd mesurau gorfodi pellach os na chydymffurfir â’r hysbysiad (is-adran 2). Mae hysbysiadau gorfodi yn effeithiol am un flwyddyn o'r dyddiad y’i cyflwynir. Mae gwarchodwr plant anghofrestredig yn cyflawni tramgwydd os cyflwynwyd iddo hysbysiad gorfodi a’i fod wedyn, heb esgus rhesymol, yn gweithredu fel gwarchodwr plant (is-adran (5)). Mae is-adran (6) yn darparu bod person a geir yn euog mewn Llys Ynadon o dramgwydd o dan is-adran (5) yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Adran 22 Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blant

60.Mae adran 22 yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cadw cofrestr o’r holl bersonau a gofrestrwyd i ddarparu gofal dydd i blant o dan y Rhan hon o'r Mesur.

Adran 23 Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestru

61.Mae adran 23 yn gosod dyletswydd ar unrhyw berson (p’un a yw’n berson naturiol neu’n gorff corfforaethol neu anghorfforedig o bersonau) sy’n darparu gofal dydd i blant yng Nghymru i gael ei gofrestru gan Weinidogion Cymru.  Bydd person sy’n gwneud hynny heb gofrestru a heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd. Mae is-adran (3) yn darparu bod person a geir yn euog gan Lys Ynadon o dramgwydd o dan is-adran (2) yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Adran 24 Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant

62.Mae adran 24 a rheoliadau sydd i’w gwneud o dan yr adran hon yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i berson sy’n dymuno cofrestru fel gwarchodwr plant ei wneud er mwyn gwneud cais dilys am gofrestru.  Mae’n gosod dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i ganiatáu cais am gofrestru os caiff amodau penodol eu bodloni a dyletswydd i wrthod cais am gofrestru os na fodlonir yr amodau hynny.

63.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid rhoi mewn cais wybodaeth am faterion yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan reoliadau, bod rhaid rhoi gwybodaeth arall y mae angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru a bod rhaid i ffi a bennir mewn rheoliadau fynd gyda’r cais.  O dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais onid yw’r ceisydd naill ai wedi ei anghymhwyso o dan adran 38 neu ei fod yn ymddangos bod y gofynion ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant heb eu bodloni neu’n annhebygol o barhau i gael eu bodloni. Mae’r gofynion ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant i’w nodi mewn rheoliadau o dan adran 25.  Pan na fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais o dan is-adran (3), rhaid iddynt ei wrthod (is-adran (4)).

Adran 25 Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant

64.Mae’r adran hon yn nodi’r mathau o bethau y caiff rheoliadau eu rhagnodi fel gofynion ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant.

Adran 26 Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant

65.Mae adran 26 a’r rheoliadau sydd i’w gwneud o dan yr adran hon yn nodi beth y mae’n rhaid i berson sy’n dymuno cofrestru fel darparydd gofal dydd i blant ei wneud er mwyn gwneud cais dilys am gofrestru.  Mae’n gosod dyletswydd hefyd ar Weinidogion Cymru i ganiatáu cais am gofrestru os caiff amodau penodol eu bodloni a dyletswydd i wrthod cais am gofrestru os na fodlonir yr amodau hynny.

66.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid rhoi mewn cais wybodaeth am faterion yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan reoliadau, bod rhaid rhoi gwybodaeth arall y mae angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru a bod rhaid i ffi a bennir mewn rheoliadau fynd gyda’r cais.  O dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais onid yw’r ceisydd naill ai wedi ei anghymhwyso o dan adran 38 neu ei fod yn ymddangos bod y gofynion ar gyfer cofrestru fel darparydd gofal dydd heb eu bodloni neu’n annhebygol o barhau i gael eu bodloni. Mae’r gofynion ar gyfer cofrestru fel darparydd gofal dydd i blant i’w nodi mewn rheoliadau o dan adran 27.  Pan na fo’n orfodol i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais o dan is-adran (3), rhaid iddynt ei wrthod (is-adran (4)).

Adran 27 Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blant

67.Mae’r adran hon yn nodi’r mathau o bethau y caiff rheoliadau eu rhagnodi’n ofynion ar gyfer cofrestru fel darparydd gofal dydd i blant.

Adran 28 Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau

68.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, os caniateir cais o dan adran 24(1), gofnodi'r ceisydd ar y gofrestr gwarchodwyr plant a chyflwyno tystysgrif gofrestru i'r ceisydd sy'n datgan bod y ceisydd wedi ei gofrestru.

69.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, os caniateir cais o dan adran 26(1), gofnodi'r ceisydd fel darparydd gofal dydd mewn perthynas â'r fangre o dan sylw a chyflwyno tystysgrif gofrestru i'r ceisydd sy'n datgan bod y ceisydd wedi ei gofrestru.

70.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau pa wybodaeth y mae’n rhaid i dystysgrif gofrestru ei chynnwys.

71.Mae is-adran (4) yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn rhoi tystysgrif ddiwygiedig i’r person cofrestredig os digwyddodd newid yn yr amgylchiadau sy'n peri bod angen diwygio'r dystysgrif.

72.Mae is-adran (5) yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru, pan fydd unrhyw ffi ragnodedig yn cael ei thalu gan y person cofrestredig, yn darparu copi o'r dystysgrif os cânt eu bodloni bod y dystysgrif wreiddiol wedi ei cholli neu wedi ei difa.

Adran 29 Amodau wrth gofrestru

73.Mae Adran 29 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod amodau ar gofrestriad person sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant, neu ddarparydd gofal dydd. Ceir gosod amodau naill ai wrth gofrestru am y tro cyntaf neu ar unrhyw adeg yn ddiweddarach. Mae gan Weinidogion Cymru, fel yr awdurdod cofrestru, ddisgresiwn i benderfynu pa amodau i’w gosod, ac o dan is-adran (3), cânt amrywio neu ddiddymu unrhyw amod hefyd. Mae is-adran (4) yn darparu bod person cofrestredig yn cyflawni tramgwydd os yw'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw amod. Mae is-adran (5) yn darparu bod person a geir yn euog o dramgwydd o dan is-adran (4) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Adran 30 Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau

74.Mae adran 30 yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn cael gwneud rheoliadau sy’n gosod gofynion ynghylch sut mae personau cofrestredig yn cyflawni’r gweithgaredd a reoleiddir.

75.Caiff rheoliadau osod gofynion sy’n ymwneud (ymhlith pethau eraill) â lles a datblygiad y plant o dan sylw; addasrwydd i ofalu am blant sydd yn yr oedran perthnasol, neu fod mewn cysylltiad rheolaidd â’r plant o dan sylw; cymwysterau a hyfforddiant; y nifer mwyaf o blant y caniateir gofalu amdanynt a'r nifer o unigolion sy'n ofynnol i gynorthwyo wrth ofalu; cynnal a chadw’r fangre a'r cyfarpar, a diogelwch ac addasrwydd y cyfryw; y gweithdrefnau i drafod cwynion; goruchwylio staff; cadw cofnodion; a darparu gwybodaeth.

76.Caiff rheoliadau hefyd wneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill y gellir eu rhagnodi neu gyfeirio atynt yn y rheoliadau, a chaiff Gweinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth unrhyw fethiant gan unrhyw berson, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon o'r Mesur ac mewn unrhyw achos llys, p’un ai’n droseddol neu’n sifil. Mae is-adran (4) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer i wneud toriad o’r rheoliadau yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi, ar gollfarn ddiannod, â dirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Adran 31 Diddymu cofrestriad

77.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddiddymu cofrestriad gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd os yw’r person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gofrestru o dan adran 38.

78.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru farnu y dylid diddymu cofrestriad person os nad yw’r gofynion ynghylch addasrwydd  o dan adran 25 neu adran 27 bellach yn cael eu bodloni, neu os byddant yn peidio â chael eu bodloni, neu os yw'r person wedi peidio â chydymffurfio ag un o amodau ei gofrestriad, neu wedi peidio â thalu ffi ragnodedig.

79.Mae is-adran (3) yn rhwystro diddymu os gosodwyd gofyniad ar y person cofrestredig i wneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau at unrhyw wasanaethau, cyfarpar neu fangre, ac nad yw'r person wedi cael cyfle teg i fodloni’r gofyniad am nad yw’r amser a bennwyd gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer cydymffurfio â'r gofyniad wedi dod i ben, a phan fo'r unig ddiffyg neu annigonolrwydd i'w briodoli i'r ffaith nad yw'r newidiadau neu ychwanegiadau eto wedi eu cwblhau.

80.Rhaid gwneud unrhyw ddiddymiad o dan yr adran hon mewn ysgrifen (is-adran (4)), ac y mae’n ddarostyngedig i’r gofynion o ran gweithdrefn a bennir yn adran 36.

81.Yn ychwanegol, mae is-adran (5) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, ragnodi amgylchiadau eraill pan ganiateir diddymu cofrestriad person.

Adran 32 Atal cofrestriad

82.Mae adran 32 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu o dan ba amgylchiadau y caiff cofrestriad gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd gael ei atal dros dro. Caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer y cyfnod atal hwyaf a chaiff ddarparu hefyd ar gyfer atal ar gais y person cofrestredig.

83.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau gynnwys hawl apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ataliad, ac eithrio mewn perthynas ag ataliad gwirfoddol ar gais y person cofrestredig (is-adran (4)). Rhaid i berson cofrestredig beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant, na darparu gofal bydd yn y fangre y'i cofrestrwyd ar ei chyfer tra bo wedi ei atal. Mae is-adran (7) yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os yw'n gweithredu, heb esgus rhesymol, fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd mewn mangre tra bo'i gofrestriad wedi ei atal, ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).

Adran 33 Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol

84.Mae adran 33 yn darparu bod gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd yn cael tynnu’n wirfoddol ei enw oddi ar y gofrestr berthnasol drwy hysbysu Gweinidogion Cymru.

85.Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chydsynio â chais am dynnu enw yn wirfoddol os ydynt wedi hysbysu o’u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person a’u bod yn dal i fwriadu gwneud hynny (is-adran (3)).  Ni chaiff y Gweinidogion gydsynio ychwaith â chais o’r fath os ydynt wedi hysbysu o’u penderfyniad i ddiddymu cofrestriad  ac nad yw’r cyfnod amser y caniateir dwyn apêl ynddo wedi dod i ben neu, os yw apêl wedi ei dwyn, nad yw wedi ei phenderfynu (is-adran (4)).

Adran 34 Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad

86.Mae adran 34 yn darparu ar gyfer gwneud cais gan Weinidogion Cymru i ynad heddwch am orchymyn sy'n diddymu cofrestriad person ar unwaith os yw'n ymddangos bod plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Ceir gwneud cais o'r fath heb roi rhybudd, a rhaid i unrhyw orchymyn fod mewn ysgrifen. Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno copi o'r gorchymyn i'r person cofrestredig mor fuan ag y bo modd, ynghyd ag unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a wnaed i gefnogi'r cais, a hysbysiad o'r hawl i apelio. Mae is-adran (7) yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol o’r gorchymyn.

87.Mae is-adran (8) yn diffinio ystyr “niwed” fel yr ystyr a roddir i “harm” yn Neddf Plant 1989 (p.41) ac yn pennu bod y cwestiwn a yw niwed yn sylweddol i'w benderfynu yn unol ag adran 31(10) o'r Ddeddf honno.  Yn Neddf Plant 1989 ystyr “harm” yw camdriniaeth neu amhariad ar iechyd neu ddatblygiad gan gynnwys, er enghraifft, yr amhariad y dioddefir ganddo drwy weld neu glywed rhywun arall yn cael ei gam-drin.  Yn ôl darpariaethau adran 31(10) o Ddeddf  1989, pan fo’r cwestiwn ynghylch a yw niwed y mae plentyn yn dioddef ganddo yn sylweddol yn dibynnu ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, rhaid cymharu ei iechyd neu ei ddatblygiad â’r hyn y byddai’n rhesymol ei ddisgwyl yn achos plentyn tebyg.

Adran 35 Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau

88.Mae adran 35 yn caniatáu i Weinidogion Cymru amrywio neu ddiddymu amodau presennol, neu ychwanegu amodau newydd at gofrestriad person, a hynny’n weithredol ar unwaith, pan fo ganddynt achos rhesymol dros gredu bod risg o niwed sylweddol i blentyn os na fyddant yn gwneud hynny. Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau o’r fath drwy hysbysiad ysgrifenedig sydd i’w gyflwyno i’r person cofrestredig drwy ei draddodi iddo neu drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys rhesymau Gweinidogion Cymru dros gredu bod plentyn o dan risg o niwed sylweddol, pennu’r amod sydd wedi ei amrywio, ei dynnu i ffwrdd neu ei osod ac esbonio’r hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 37.

Adran 36 Gweithdrefn ar gyfer cymryd camau penodol

89.Mae adran 36 yn nodi'r gweithdrefnau i Weinidogion Cymru eu dilyn i hysbysu ymlaen llaw berson cofrestredig neu geisydd am gofrestriad os ydynt yn bwriadu cymryd un o nifer o gamau sy’n effeithio ar gofrestriad.  Y camau yw: gwrthod cais am gofrestru; gosod amod newydd ar gofrestriad person; amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person; gwrthod caniatáu cais i amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod o'r fath; diddymu cofrestriad person.

90.Mae is-adran (2) yn darparu nad yw adran 36 yn gymwys i gamau a gymerir mewn ymateb i sefyllfaoedd brys o dan adran 34 (amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad), nac adran 35 (newidiadau i amodau mewn argyfwng).

91.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o'u bwriad, mae is-adran (5) yn eu hatal rhag cymryd y cam arfaethedig cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad, oni fydd derbynnydd yr hysbysiad yn hysbysu Gweinidogion Cymru  ei fod yn dymuno gwrthwynebu bod y cam yn cael ei gymryd. Os bydd y derbynnydd yn rhoi hysbysiad ei fod yn dymuno gwrthwynebu hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i dderbynnydd yr hysbysiad wrthwynebu cyn iddynt gymryd y cam arfaethedig (is-adran (6)). Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd y cam, rhaid iddynt hysbysu’r derbynnydd o’u penderfyniad (is-adran (8)).  Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys p’un a yw’r derbynnydd yn rhoi hysbysiad o ddymuniad i wrthwynebu ai peidio.

Adran 37 Apelau

92.Mae adran 31 yn darparu bod apelau sydd i’w gwneud yn erbyn penderfyniadau Gweinidogion Cymru i’w gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf(2).

93.Mae is-adran (1) yn caniatáu i geisydd am gofrestriad neu berson cofrestredig (yn ôl fel y digwydd) apelio yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais am gofrestriad, i osod, amrywio neu dynnu i ffwrdd amodau cofrestriad, i wrthod cais am amrywio neu dynnu i ffwrdd amod, neu i ddiddymu cofrestriad.

94.Mae is-adran (2) hefyd yn caniatáu apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf gan geisydd am gofrestriad neu gan berson cofrestredig (yn ôl fel y digwydd) ynglŷn â phenderfyniad (nad yw’n un o’r penderfyniadau yn is-adran (1)) y mae Gweinidogion Cymru yn eu pennu mewn rheoliadau. Caniateir i apelau gael eu gwneud hefyd gan berson cofrestredig y gwneir gorchymyn yn ei erbyn o dan adran 34 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad) a pherson cofrestredig y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 35 (Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau).

95.Mae is-adran (3) ac is-adran (4) yn nodi'r camau y caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf eu cymryd ar apêl.

Adran 38 Anghymhwyso rhag cofrestru

96.Mae adran 38 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu o dan ba amgylchiadau y bydd person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru. Mae is-adran (3) yn nodi’r amrediad o amgylchiadau y ceir eu cynnwys mewn rheoliadau. Nid yw’r rhestr o amgylchiadau yn rhestr hollgynhwysfawr.

97.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff rheoliadau anghymhwyso person rhag cofrestru os yw rhywun sy'n byw gyda'r person hwnnw neu rywun sy'n gweithio ar ei aelwyd wedi ei anghymhwyso.

98.Mae is-adran (5) yn darparu, pan fo person wedi ei anghymhwyso, y caiff wneud cais wedyn i Weinidogion Cymru yn gofyn i’w anghymhwysiad gael ei ollwng. Y gofynion yw bod y person wedi datgelu’r anghymhwysiad i Weinidogion Cymru a bod Gweinidogion Cymru yn cydsynio mewn ysgrifen iddo beidio â chael ei anghymhwyso.

Adran 39 Canlyniadau anghymhwyso

99.Mae adran 39 yn nodi effaith anghymhwyso ar berson.  Rhaid i berson a anghymhwyswyd o dan adran 38 beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant yng Nghymru na darparu gofal dydd yng Nghymru nac ymwneud yn uniongyrchol â rheoli unrhyw darpariaeth yng Nghymru; ni chaiff person cofrestredig, ychwaith, gyflogi person a anghymhwyswyd mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal dydd neu warchod plant.

100.Mae is-adran (3) yn darparu ei bod yn dramgwydd i’r person a anghymhwyswyd fynd yn groes i is-adran (1) neu i gyflogwr fynd yn groes i is-adran (2).  Yn y naill achos a’r llall  mae’r tramgwydd yn gallu dwyn cosb, yn dilyn collfarn ddiannod, o gyfnod yn y carchar na fydd yn hwy na 51 wythnos neu o ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd), neu'r ddau. Pan fo anghymhwysiad y tramgwyddwr yn ganlyniad i’r ffaith ei fod yn rhan o’r un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso neu pan fo’r tramgwydd yn un o gyflogi person a anghymhwyswyd, yna bydd yn amddiffyniad os gall person brofi na wyddai, ac nad oedd ganddo sail resymol dros gredu ei fod yn byw gyda pherson a oedd wedi ei anghymhwyso, neu’n byw ar yr un aelwyd ag ef, neu wedi ei gyflogi.

Adran 40 Arolygu

101.Mae adran 40 yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i ddarparu drwy reoliadau ar gyfer arolygu darparwyr gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru ac ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu. Cynhelir yr arolygiadau gan Weinidogion Cymru neu gan Estyn (sef yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant y mae Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn ben arni) neu gan unrhyw berson arall o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru. Caiff y rheoliadau ddarparu bod adroddiadau arolygu yn “freintiedig” at ddibenion y gyfraith ar ddifenwi oni ellir dangos bod adroddiad wedi ei gyhoeddi gyda malais.

Adran 41 Pwerau mynediad

102.Mae adran 41 yn darparu pwerau mynediad i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i fynd ar unrhyw adeg resymol i mewn i fangre yng Nghymru lle y gwarchodir plant neu y darperir gofal dydd ar unrhyw adeg, Mae is-adran (2) yn darparu i berson awdurdodedig bŵer i fynd i mewn i fangre os oes achos rhesymol i gredu bod plentyn yno yn derbyn gofal yn groes i ddarpariaethau Rhan 2 o’r Mesur.

Adran 42 Pwerau arolygu

103.Mae adran 42 yn nodi’r pwerau arolygu sydd gan bersonau sy’n mynd i mewn i fangre at y diben hwnnw. Mae’r pwerau yn cynnwys y pŵer i ymafael mewn dogfennau neu unrhyw bethau eraill a allai fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, ac i’w symud o’r fangre. Mae’n cynnwys hefyd y pŵer i wneud yn ofynnol caniatáu mynediad at gofnodion neu ddogfennau a fydd hwyrach wedi eu cadw ar gyfrifiadur. Mae unrhyw berson sy’n rhwystro arolygydd rhag arfer pŵer i fynd i mewn i fangre neu bŵer arolygu, neu’n peidio â chydymffurfio â gofyniad arolygydd, yn cyflawni tramgwydd ac mae’n agored, o’i gollfarnu mewn Llys Ynadon, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd).

Adran 43 Pŵer cwnstabl i gynorthwyo wrth arfer pwerau mynediad

104.Mae adran 43 yn darparu, pan fo ymdrechion i arfer pwerau arolygu wedi eu llesteirio, y caiff person, a awdurdodir i fynd i mewn i fangre o dan adran 41, wneud cais i lys am warant sy’n awdurdodi cwnstabl i gynorthwyo’r person awdurdodedig i arfer y pŵer i fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen. Caiff y cais am warant fod mewn ymateb i berson sy’n atal pŵer mynediad neu bŵer arolygu arall o dan adran 42 rhag cael ei ddefnyddio.

Adran 44 Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion Cymru

105.Yn ychwanegol at y pŵer i weld dogfennau a deunyddiau eraill wrth arolygu, caiff Gweinidogion Cymru fynnu hefyd bod unrhyw warchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd cofrestredig yn darparu pa wybodaeth bynnag iddynt ynglŷn â gweithgareddau'r person hwnnw fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn angenrheidiol at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

Adran 45 Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleol

106.Mae adran 45 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am y rhai sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd. Mae hyn yn angenrheidiol i alluogi’r awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth am argaeledd gofal plant i gyflawni ei swyddogaethau o dan a.27 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth).  Mae rhannu’r wybodaeth a ragnodir yn broses sy’n cael ei hysgogi gan un o’r camau canlynol: caniatáu cofrestriad; dyroddi hysbysiad o fwriad i ganslo cofrestriad; canslo cofrestriad; atal cofrestriad; tynnu enw person oddi ar y gofrestr ar gais y person hwnnw; neu pan fo ynad heddwch yn gwneud gorchymyn o dan adran 34(2). Mae is-adran (5) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i berson sy'n arfer swyddogaethau statudol (at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r swyddogaethau hynny) ynglŷn ag a yw person wedi ei gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.

Adran 46 Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol

107.Bydd person yn euog o dramgwydd o dan is-adran (1) os yw'n gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol gan wybod hynny wrth wneud cais am gofrestriad, a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd).

Adran 47 Hysbysiadau o gosb

108.Mae adran 47 yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gosod hysbysiad cosb benodedig ar berson cofrestredig os cânt eu bodloni ei fod wedi cyflawni tramgwydd perthnasol. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i nodi mewn rheoliadau y tramgwyddau hynny y gellir ymdrin â hwy drwy ddefnyddio hysbysiad cosb benodedig.  Mae'r cynnig i osod hysbysiad o gosb yn rhoi cyfle i'r person cofrestredig dalu cosb mewn perthynas â thoriad a ganfyddir a chyflawni drwy hynny bob atebolrwydd troseddol am y toriad o dan sylw. Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi ond bod y gosb heb ei thalu eto, ni chaniateir cychwyn achos ynglŷn â'r tramgwydd y cyfeirir ato yn yr hysbysiad cyn diwedd pa gyfnod bynnag a ragnodir yn yr hysbysiad. Os bydd y person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad, ni ellir ei gollfarnu wedyn am y tramgwydd y cyfeirir ato yn yr hysbysiad. Mae'r cosbau yn daladwy i Weinidogion Cymru.

Adran 48 Hysbysiadau o gosb: darpariaeth atodol

109.Caiff rheoliadau o dan adran 48 wneud darpariaeth ynglŷn â ffurf a chynnwys yr hysbysiadau o gosb, gan gynnwys y symiau ariannol a’r terfynau amser ar gyfer talu, a’r camau sydd i'w cymryd os na thelir y gosb yn unol â'r hysbysiad. Mae is-adran (2) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer gwahanol gosbau a fyddai'n daladwy mewn gwahanol achosion, a hefyd ar gyfer amrywio'r swm os telir ef ar wahanol adegau. Ni chaiff y swm a ragnodir i'w dalu o dan hysbysiad o gosb fod yn fwy na hanner y ddirwy fwyaf y byddai'n rhaid ei thalu yn dilyn collfarn.

Adran 49 Terfyn amser ar gyfer achosion

110.Mae adran 49 yn pennu’r terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad, sef un flwyddyn o’r dyddiad y daw tystiolaeth ddigonol i sylw’r erlynydd i warantu dwyn achos. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad cyffredinol na cheir cychwyn erlyniad ar ôl mwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r tramgwydd.

Adran 50 Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

111.Mae adran 50 yn darparu, pan fo tramgwydd wedi ei gyflawni gan gorff corfforaethol, bod swyddogion y corff hwnnw yn agored i'w herlyn ac i'w cosbi ynglŷn â hynny, os profir bod tramgwydd wedi ei gyflawni gyda’u cydsyniad neu’u hymoddefiad, neu fod y tramgwydd i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar eu rhan.

Adran 51 Cymdeithasau anghorfforedig

112.Mae adran 51 yn darparu, pan fo tramgwydd wedi ei gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig, bod rhaid dwyn achos yn enw'r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un o'i haelodau). Bydd rheolau llys yn gymwys o ran cyflwyno dogfennau i gymdeithas anghorfforedig fel petai’n gorff corfforaethol. Mae’n darparu hefyd, fel yn achos corff corfforaethol, fod swyddog neu aelod o’r gymdeithas yn euog o dramgwydd os cyflawnir tramgwydd gyda chydsyniad neu ymoddefiad y swyddog neu aelod, neu oherwydd unrhyw esgeulustod ar ran swyddog y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, a gall y swyddog neu aelod fod yn agored i’w erlyn, yn ogystal â’r gymdeithas. Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r amgylchiadau pan gaiff cymdeithas ei chynrychioli mewn achos gan berson a awdurdodir yn briodol. Mae is-adran (4) yn darparu bod dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig i'w thalu allan o gronfeydd y gymdeithas.

Adran 52 Swyddogaethau awdurdodau lleol

113.Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon wneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau y darperir gwybodaeth neu gyngor ynghylch gwarchod plant a gofal dydd, a sicrhau y darperir hyfforddiant ynglŷn â darparu gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd i blant.

Adran 53 Ffioedd

114.Caiff rheoliadau bennu a gwneud darpariaethau ynglŷn â thalu ffioedd gan warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig i Weinidogion Cymru, gan gynnwys yr amgylchiadau pan ganiateir hepgor ffioedd o'r fath.

Adran 54 Cydweithredu rhwng awdurdodau

115.Mae adran 54 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud am gymorth gan awdurdod lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaeth, a bod rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais hwnnw, os yw’n gydnaws â dyletswyddau statudol a dyletswyddau eraill yr awdurdod ac nad yw'n amharu yn ormodol ar gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

Adran 55 Hysbysiadau

116.Mae adran 55 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dyroddi hysbysiadau i Weinidogion Cymru gan warchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan adran 33 (Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddol) neu hysbysiadau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 (Gweithdrefnau ar gyfer cymryd camau penodol).

Adran 56 Marwolaeth person cofrestredig

117.Mae adran 56 yn darparu pŵer i wneud rheoliadau i ymdrin â'r sefyllfa pan fydd farw yr unig berson cofrestredig ar gyfer busnes gofal dydd, fel bod modd rhedeg y busnes gofal dydd am gyfnod penodol.  Mae’r adran hefyd yn caniatáu i reoliadau osod gofyniad ar gynrychiolwyr personol gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd i hysbysu Gweinidogion Cymru o’r marwolaeth.

2

Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi ei rannu’n 5 siambr wahanol.  Mae apelau yn erbyn penderfyniadau awdurdod cofrestru o dan y darpariaethau hyn yn apelau i Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources