Rhan 1, Pennod 2: Chwarae a Chymryd Rhan
Adran 11: Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant
37.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol wneud asesiad o ddigonolrwydd y cyfleoedd chwarae yn ei ardal yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Cam cychwynnol yw hwn yn y broses o gyflawni’r ddyletswydd a nodir yn is-adran (3).
38.Caiff rheoliadau bennu materion penodol sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu digonolrwydd; erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud asesiad digonolrwydd; amlder yr asesiadau; pa bryd y cyhoeddir yr asesiad; a pha bryd a sut y dylid ei adolygu.
39.Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol yng ngoleuni ei asesiad. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 17(3) o’r Mesur.
40.Mae is-adran (4) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardal ac yn cadw’r wybodaeth honno’n gyfoes.
41.Mae is-adran (5) yn darparu y dylai awdurdod lleol, wrth sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal, ystyried yn benodol anghenion plant sy’n anabl, anghenion plant o wahanol oedrannau, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
42.Mae is-adran (6) yn egluro bod “chwarae” yn cynnwys unrhyw weithgaredd hamdden, a bod y cyfeiriad at “ddigonolrwydd” yn is-adran (1) yn gyfeiriad at nifer ac ansawdd y cyfleoedd chwarae.
Adran 12: Plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol
43.Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hybu a hwyluso plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau ar draws ystod lawn swyddogaethau’r awdurdod sy’n effeithio arnynt. Mae “plant” at y dibenion hyn wedi eu diffinio yn adran 71 yn bersonau sydd o dan 18 oed.
44.Mae is-adran (2) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am eu trefniadau i blant gymryd rhan ac yn cadw’r wybodaeth yn gyfoes.
45.Mae is-adran (3) yn diddymu adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel y’i diwygiwyd. Yr oedd adran 176 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yng Nghymru i roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru ar ymgynghori â disgyblion ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio ar y disgyblion. Mae’r ddyletswydd newydd yn gosod dyletswydd i wneud trefniadau sy’n hybu a hwyluso cyfranogiad y plant ym mhenderfyniadau’r awdurdod a allai effeithio arnynt. Mae’r hen ddyletswydd wedi ei goddiweddyd gan y ddyletswydd newydd ac eithrio mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n eiddo i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn hytrach nag i’r awdurdod lleol. Mae’r penderfyniadau hynny bellach yn destun darpariaeth ar wahân yn adran 29B o Ddeddf Addysg 2002 (a fewnosodwyd gan adran 157 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008).