- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Mai 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Mai 2021
Yn dod i rym
18 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 1997(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3), a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mehefin 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1A mewnosoder—
1B. Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021(6) gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Yn rheoliad 5(2)(a), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “(oni bai nad yw’r wybodaeth honno yn ofynnol yn rhinwedd rheoliad 1B)”.
3. Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(7) mewnosoder—
1B. Mae’r ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan reoliad 3(3) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-2021(8) i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”
4. Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(9) mewnosoder—
1B. Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021(10) gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
5. Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(11) mewnosoder—
1B. Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5 a 6 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021(12).”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Mai 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—
(a)paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),
(b)paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac
(c)paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).
Mae diwygiad canlyniadol wedi ei wneud hefyd i reoliad 5(2)(a) o’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol mewn perthynas â gofynion ffurf fer yr adroddiad blynyddol.
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â’r cynnwys llawn a fyddai fel arfer yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid, mewn cysylltiad â chynnwys penodedig adroddiadau, fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2020-2021. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Diwygiwyd adran 29(3) gan baragraff 67 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Diwygiwyd pennawd adran 29 ac is-adrannau (1), (3) a (5) gan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 1 a 57(1) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9 ac 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 537(1) gan baragraff 152(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraff 9(1) a (15) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 152(b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraffau 1 a 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, gan baragraff 6(1) a (5) o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158 a chan O.S. 2012/976. Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
1997 p. 44. Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 o Ddeddf Addysg 1997 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diddymwyd adran 19 o ran Lloegr gan adran 66(1) ac mae diwygiadau eraill wedi eu gwneud i is-adran (1) gan adran 66(1) a (2) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 56(1) o Ddeddf Addysg 1997.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2002 p. 32. Diwygiwyd is-adrannau (1), (2) a (3) o adran 30 gan adran 103(1)(a) a (b) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18). Diwygiwyd is-adran (7) o adran 210 gan adran 21(1) a (3)(c)(i) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.
O.S. 2011/1939 (Cy. 207), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2013/1561 (Cy. 142), O.S. 2014/2677 (Cy. 265), O.S. 2018/766 (Cy. 153) ac O.S. 2020/729 (Cy. 164).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1943 (Cy. 210), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2014/1998 (Cy. 199), O.S. 2016/236 (Cy. 88), O.S. 2016/837 (Cy. 211), O.S. 2018/766 (Cy. 153) ac O.S. 2020/729 (Cy. 164).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1944 (Cy. 211), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/211 (Cy. 84), O.S. 2018/766 (Cy. 153) ac O.S. 2020/729 (Cy. 164).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1963 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/236 (Cy. 88), O.S. 2016/837 (Cy. 211) ac O.S. 2020/729 (Cy. 164).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys