2021 Rhif 612 (Cy. 163)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 19961 ac adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 19972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3, a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy4, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mehefin 2021.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 20112.

(1)

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 20115 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl rheoliad 1A mewnosoder—

“Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-20211B.

Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-20216 gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”

(3)

Yn rheoliad 5(2)(a), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “(oni bai nad yw’r wybodaeth honno yn ofynnol yn rhinwedd rheoliad 1B)”.

Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20113.

Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20117 mewnosoder—

“Addasu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-20211B.

Mae’r ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan reoliad 3(3) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-20218 i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 20114.

Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 20119 mewnosoder—

“Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-20211B.

Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-202110 gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 20115.

Ar ôl rheoliad 1A o Reoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 201111 mewnosoder—

“Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-20211B.

Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5 a 6 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-202112.”
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-2021 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—

(a)

paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),

(b)

paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac

(c)

paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).

Mae diwygiad canlyniadol wedi ei wneud hefyd i reoliad 5(2)(a) o’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol mewn perthynas â gofynion ffurf fer yr adroddiad blynyddol.

Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â’r cynnwys llawn a fyddai fel arfer yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid, mewn cysylltiad â chynnwys penodedig adroddiadau, fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2020-2021.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn wedi mynychu’r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon wedi gweithio ac wedi astudio o bell am gyfnodau estynedig. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2020-2021. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2020-2021 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.