- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Made
4 Mawrth 2021
Laid before Senedd Cymru
8 Mawrth 2021
Coming into force
29 Mawrth 2021
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 29 Mawrth 2021.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) wedi ei diwygio yn unol ag erthyglau 3 a 4.
3.—(1) Mae Rhan 3A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd paragraff A.2(b), hepgorer “and”.
(3) Yn lle paragraff A.2(c) rhodder—
“(c)on or before the expiry date—
(i)any use of that building or land for the purpose of Class A must cease;
(ii)any building, moveable structure, works, plant or machinery permitted by Class A must be removed; and
(iii)the building or land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and”.
(4) Ar ôl paragraff A.2(c) mewnosoder—
“(d)in sub-paragraph (c), “the expiry date” means—
(i)for developments which begin before 10 April 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and
(ii)for developments which begin on or after 10 April 2021 the date twelve months after the date on which the development began.”
4.—(1) Mae Rhan 12A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd paragraff A.1(a), hepgorer “and”.
(3) Yn lle paragraff A.1(b) rhodder—
“(b)on or before the expiry date—
(i)any use of that land for a purpose of Class A must cease and any buildings, plant, machinery, structures and erections permitted by Class A must be removed; and
(ii)the land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and”.
(4) Ar ôl paragraff A.1(b) mewnosoder—
“(c)in sub-paragraph (b), “the expiry date” means—
(i)for developments which begin before 30 March 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and
(ii)for developments which begin on or after 30 March 2021 the date twelve months after the date on which the development began.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“yr GDCG”).
Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygiadau penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.2(c) o Ran 3A o Atodlen 2 i’r GDCG (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd). Pan fo paragraff A.2(c) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 10 Ebrill 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 10 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.1(b) o Ran 12A o Atodlen 2 i’r GDCG (datblygu brys gan awdurdodau lleol). Pan fo paragraff A.1(b) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 30 Mawrth 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 30 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i Ddeddf 1990 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60(1), 61(1) a (333)(4B) a (7), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253), ac Atodlen 3 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.
O.S. 1995/418. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys