Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 29 Mawrth 2021.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19952.
Diwygio Rhan 3A o Atodlen 2 (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd)3.
(1)
Mae Rhan 3A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ar ddiwedd paragraff A.2(b), hepgorer “and”.
(3)
“(c)
on or before the expiry date—
(i)
any use of that building or land for the purpose of Class A must cease;
(ii)
any building, moveable structure, works, plant or machinery permitted by Class A must be removed; and
(iii)
the building or land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and”.
(4)
“(d)
in sub-paragraph (c), “the expiry date” means—
(i)
for developments which begin before 10 April 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and
(ii)
for developments which begin on or after 10 April 2021 the date twelve months after the date on which the development began.”
Diwygio Rhan 12A o Atodlen 2 (datblygu brys gan awdurdodau lleol)4.
(1)
Mae Rhan 12A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ar ddiwedd paragraff A.1(a), hepgorer “and”.
(3)
“(b)
on or before the expiry date—
(i)
any use of that land for a purpose of Class A must cease and any buildings, plant, machinery, structures and erections permitted by Class A must be removed; and
(ii)
the land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and”.
(4)
“(c)
in sub-paragraph (b), “the expiry date” means—
(i)
for developments which begin before 30 March 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and
(ii)
for developments which begin on or after 30 March 2021 the date twelve months after the date on which the development began.”
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“yr GDCG”).
Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygiadau penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.2(c) o Ran 3A o Atodlen 2 i’r GDCG (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd). Pan fo paragraff A.2(c) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 10 Ebrill 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 10 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.1(b) o Ran 12A o Atodlen 2 i’r GDCG (datblygu brys gan awdurdodau lleol). Pan fo paragraff A.1(b) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 30 Mawrth 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 30 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.