Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 254 (Cy. 67)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021

Made

4 Mawrth 2021

Laid before Senedd Cymru

8 Mawrth 2021

Coming into force

29 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 59, 60(1), 61(1) a 333(4B) a (7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 29 Mawrth 2021.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

2.  Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) wedi ei diwygio yn unol ag erthyglau 3 a 4.

Diwygio Rhan 3A o Atodlen 2 (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd)

3.—(1Mae Rhan 3A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd paragraff A.2(b), hepgorer “and”.

(3Yn lle paragraff A.2(c) rhodder—

(c)on or before the expiry date—

(i)any use of that building or land for the purpose of Class A must cease;

(ii)any building, moveable structure, works, plant or machinery permitted by Class A must be removed; and

(iii)the building or land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and.

(4Ar ôl paragraff A.2(c) mewnosoder—

(d)in sub-paragraph (c), “the expiry date” means—

(i)for developments which begin before 10 April 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and

(ii)for developments which begin on or after 10 April 2021 the date twelve months after the date on which the development began.

Diwygio Rhan 12A o Atodlen 2 (datblygu brys gan awdurdodau lleol)

4.—(1Mae Rhan 12A (Dosbarth A) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd paragraff A.1(a), hepgorer “and”.

(3Yn lle paragraff A.1(b) rhodder—

(b)on or before the expiry date—

(i)any use of that land for a purpose of Class A must cease and any buildings, plant, machinery, structures and erections permitted by Class A must be removed; and

(ii)the land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer; and.

(4Ar ôl paragraff A.1(b) mewnosoder—

(c)in sub-paragraph (b), “the expiry date” means—

(i)for developments which begin before 30 March 2021 the date eighteen months after the date on which the development began; and

(ii)for developments which begin on or after 30 March 2021 the date twelve months after the date on which the development began.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“yr GDCG”).

Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygiadau penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.2(c) o Ran 3A o Atodlen 2 i’r GDCG (adeiladu dros dro a newid defnydd at ddibenion argyfwng iechyd y cyhoedd). Pan fo paragraff A.2(c) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 10 Ebrill 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 10 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff A.1(b) o Ran 12A o Atodlen 2 i’r GDCG (datblygu brys gan awdurdodau lleol). Pan fo paragraff A.1(b) yn gymwys, mae’r amserlen ar gyfer symud y datblygiad ymaith wedi ei diwygio fel bod y cyfnod wedi ei estyn o ddeuddeng mis i ddeunaw mis ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau cyn 30 Mawrth 2021. Ar gyfer y datblygiadau hynny sy’n dechrau ar 30 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod yn parhau i fod yn ddeuddeng mis. Ym mhob achos, mae’r amser yn dechrau o’r dyddiad y dechreuodd y datblygu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i Ddeddf 1990 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60(1), 61(1) a (333)(4B) a (7), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253), ac Atodlen 3 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1995/418. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources