Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae datblygiad yng Nghymru yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf a bennir mewn rheoliadau(1) neu os pennir ei fod yn ddatblygiad o’r fath yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol(2).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y bydd Gweinidogion Cymru yn ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o’r fath.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â—

  • Hysbysu ynghylch datblygiad arfaethedig a derbyn hysbysiadau o’r fath gan Weinidogion Gymru (erthyglau 5 a 6);

  • Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn ymgeisio (erthyglau 7 i 11);

  • Gofynion cyffredinol sy’n gymwys ynglŷn â gwneud cais (erthygl 12);

  • Derbyn ceisiadau gan Weinidogion Cymru (erthygl 15);

  • Gofynion sy’n gymwys ynglŷn â rhoi hysbysiadau cyn gwneud cais (erthygl 16);

  • Gofynion cyhoeddusrwydd sy’n gymwys ar ôl gwneud cais (erthyglau 18 a 19);

  • Gofynion ynglŷn â’r gofrestr o geisiadau a gynhelir gan awdurdodau cynllunio lleol (erthygl 20);

  • Adroddiadau ar yr effaith leol (erthyglau 25 a 26);

  • Amrywio ceisiadau (erthygl 27);

  • Hysbysiad sydd i’w roi gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’u penderfyniad ar geisiadau, a diwygio hysbysiadau o’r fath (erthyglau 29 a 30);

  • Gofynion ynglŷn â hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiadau (erthygl 31).

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(1)

Gweler adran 62D(3) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53) (Cy. 23) (“Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig”).

(2)

Gweler adran 62D(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill