Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y bydd Gweinidogion Cymru yn ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o’r fath.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â—
Hysbysu ynghylch datblygiad arfaethedig a derbyn hysbysiadau o’r fath gan Weinidogion Gymru (erthyglau 5 a 6);
Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn ymgeisio (erthyglau 7 i 11);
Gofynion cyffredinol sy’n gymwys ynglŷn â gwneud cais (erthygl 12);
Derbyn ceisiadau gan Weinidogion Cymru (erthygl 15);
Gofynion sy’n gymwys ynglŷn â rhoi hysbysiadau cyn gwneud cais (erthygl 16);
Gofynion cyhoeddusrwydd sy’n gymwys ar ôl gwneud cais (erthyglau 18 a 19);
Gofynion ynglŷn â’r gofrestr o geisiadau a gynhelir gan awdurdodau cynllunio lleol (erthygl 20);
Adroddiadau ar yr effaith leol (erthyglau 25 a 26);
Amrywio ceisiadau (erthygl 27);
Hysbysiad sydd i’w roi gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’u penderfyniad ar geisiadau, a diwygio hysbysiadau o’r fath (erthyglau 29 a 30);
Gofynion ynglŷn â hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiadau (erthygl 31).
Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.